BBC Cymru Fyw

Yr arloeswr o Gymru dreuliodd ei fywyd yn helpu carcharorion

Published

"Ni ddychwelodd troseddwr o'r carchar erioed yn well dyn nag ydoedd pan ddanfonwyd ef yno."

Dyn o argyhoeddiad oedd Merfyn Turner, a geisiodd weddnewid bywyd cyn-droseddwyr gan sefydlu'r tŷ hanner ffordd cyntaf i garcharorion ym Mhrydain.

Drwy gydol ei oes bu'n ymweld â charcharorion a rhoi llety iddyn nhw wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau er mwyn cynnig ail gyfle a cheisio torri'r cylch o aildroseddu a oedd yn rhan o fywyd i nifer fawr ohonyn nhw.

Nawr mae rhaglen ddogfen ar BBC Radio Cymru Cyfaill Carcharorion yn olrhain hanes bywyd y gŵr a'i gyfraniad i'r system trosedd a chosb.

Merfyn Turner
Merfyn Turner
Mae llawer Cymro yng ngharcharau Llundain heddiw na fyddai wedi troseddu erioed pe cawsai gynhaliaeth gan ei gymdeithas mewn tref neu bentref yn ardal ei fagwraeth.
Merfyn Turner
O’r gyfrol O Ryfedd Ryw, 1970

Mab i weinidog oedd Merfyn Turner a bu'n byw mewn gwahanol ardaloedd o Gymru oherwydd gwaith ei dad, cyn iddo adael cartref, mynd i'r coleg a dechrau gweithio yn Llundain.

Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd fe wrthododd ymuno â'r fyddin oherwydd ei ddaliadau heddychol a chafodd ei ddedfrydu i dri mis o lafur caled yng ngharchar Abertawe - profiad fyddai'n newid ei fywyd.

Empathi gyda'r carcharorion

Ar ddiwedd y rhyfel, ar ôl cyfnodau fel gweithiwr cymdeithasol yn Tiger Bay a gweithio gyda phobl ddigartref yn Llundain, dechreuodd ymweld â charcharorion yn Pentonville.

Yn ôl Dr Llion Wigley roedd yn gallu cydymdeimlo gyda nhw oherwydd ei gyfnod dan glo:

"O'i brofiad personol roedd e wedi gweld bod bod yn y carchar yn dadbersonoli'r unigolyn, oedd yn ei sgil yn achosi lot o broblemau i rywun unwaith oedden nhw wedi gadael y carchar, i'r graddau bod bywyd tu allan i'r carchar yn anodd iawn ac yn arwain pobl yn aml iawn i ddilyn yr un patrwm a dychwelyd i'r carchar yn eitha' buan," meddai yn y rhaglen Cyfaill Carcharorion.

"Roedd e'n gallu gweld bod y carchar yn ffordd o ddiwallu'r angen am ryw fath o ddial ar bobl a chosbi nhw, oedd yn ddealladwy mewn un ystyr ond roedd o'n gweld o realiti carchar bod o ddim yn delio gyda'r broblem go iawn."

image copyrightMerfyn Turner
image captionSafe Lodging - llyfr gan Merfyn Turner am Norman House; a llun du a gwyn o'i lyfr Forgotten Men sy'n dangos yr hostel i ddynion digartref yn Llundain lle bu'n aros fel rhan o'i ymchwil.

Roedd diwygwyr fel Merfyn Turner yn dadlau bod angen newid holl ethos y system gosb ac yn beirniadu'r diffyg cymorth i garcharorion oedd yn cael eu rhyddhau, yn enwedig o ystyried bod canran uchel o'r bobl oedd yn aildroseddu yn ddigartref.

Ar y pryd, wrth gael eu rhyddhau roedden nhw'n cael eu rhoi mewn tai llety gwael iawn neu ganolfannau derbyn - oedd wedi cymryd lle'r wyrcws, yn aml yn yr un adeilad.

Dadl Merfyn Turner ac eraill oedd bod angen creu llety safonol oedd yn ddiogel ac yn lân a fyddai hefyd yn noddfa i roi cefnogaeth i gyn-garcharorion.

Norman House

Gyda chymorth elusen, yn 1954 fe agorodd Norman House yn Llundain - y tŷ hanner ffordd cyntaf ym Mhrydain. Roedd carcharorion yn cael eu gyrru yno ar ôl eu rhyddhau ac yn byw mewn criw bychan o hyd at 15 mewn awyrgylch teuluol - gyda Merfyn Turner yn 'ben teulu'.

Fe eglurodd Merfyn Turner yn ei lyfr O Ryfedd Ryw pam bod cyn-garcharorion angen lle o'r fath: "Eu hangen oedd am gartref a theulu y gallent deimlo perthynas ag ef a datblygu pwrpas trwy berthyn iddo.

"Pe gellid codi cartref o'r fath, a chreu ymdeimlad o deulu o'i fewn, yr oeddwn yn sicr y gallai'r troseddwyr a ddeuent yno gefnu ar garchar gan fyw bywyd a fyddai'n boddhau cymdeithas a hwythau hefyd."

Oherwydd llwyddiant y tŷ, fe gafodd canolfannau ar draws Prydain eu modelu ar Norman House ac fe agorodd Merfyn Turner ail dŷ yn 1962 lle'r oedd y preswylwyr yn cael mwy o gyfrifoldebau.

image captionLlun o Merfyn Turner o hen raglen deledu yn yr 1960au

Yn ôl Dr Llion Wigley roedd ei angerdd i wella'r drefn yn deillio o'i brofiad fel carcharor ac o'i ffydd Gristnogol, ac roedd pobl yn ymddiried ynddo hefyd.

Meddai: "Roedd e'n smygu pibell ac roedd e'n gweld hynny fel ffordd o ennill ymddiriedaeth pobl. Tra bod e'n ysmygu roedden nhw'n cael cyfle i siarad. Wrth gwrs roedd ei bwyslais mawr e ar empathi a rhoi'r cyfle i rywun siarad felly roedd y bibell yn helpu iddo wneud hynny.

"Roedd yn bêl-droediwr da iawn ac roedd yn dweud yn ei lyfr am y gwaith wnaeth e gyda bechgyn ifanc mewn clybiau ieuenctid bod y ffaith bod o mor dda yn y bêl-droed wedi gwneud argraff fawr arnyn nhw - fuodd o'n chwarae i Cardiff City am ychydig bach yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Doedd pobl ddim yn gweld o fel gweithiwr cymdeithasol dosbarth canol arferol roedd yn cael ei dderbyn fel un ohonyn nhw mewn ffordd."

Dros y degawdau, gyda newid gwleidyddol, fe symudodd y pwyslais i ffwrdd o ganolfannau fel Norman House a thuag at garchardai mwy a chosbau llymach.

Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd roedd Merfyn Turner yn dal i ymweld â charcharorion ac yn parhau i geisio dysgu am systemau mewn gwledydd eraill.

Yn ôl Dr Llion Wigley mae'n bwysig cofio'r dyn, fu farw yn 1991 yn 75 oed, mewn cyfnod pan mai sefydliadau enfawr fel Carchar y Berwyn sy'n cael eu hadeiladu.

Meddai: "Doedd o ddim yn gweld bod cosbi yn gwneud unrhyw les felly dwi'n meddwl bod o'n rhywun allwn ni ddysgu lot fawr ohono heddi a cheisio efelychu be wnaeth o ein hunain."

Hefyd o ddiddordeb: