BBC Cymru Fyw

Covid-19: 950 achos newydd, tair marwolaeth

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightGetty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod 950 o achosion positif am Covid-19 wedi'u cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Roedd tair marwolaeth hefyd yn y cyfnod hwnnw, meddai'r corff.

O'r achosion newydd, roedd 264 yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, 205 yng Nghwm Taf Morgannwg a 156 yn ardal bwrdd iechyd y gogledd, Betsi Cadwaladr.

Mae nifer yr achosion yng Nghymru wedi codi i 35,628, gyda 1,711 o farwolaethau.

Pynciau Cysylltiedig