BBC Cymru Fyw

Llywodraeth Cymru'n cyfarfod fore Llun i drafod cyfnod clo

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightGetty Images
image captionBydd Mark Drakeford yn cyflwyno y manylion diweddaraf am y cyfnod clo ddydd Llun

Ar drothwy cyhoeddiad am gyfnod clo newydd posib, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nos Sul y bydd y cabinet yn cyfarfod eto fore Llun er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.

"Mae'r cabinet," meddai, "wedi bod yn cyfarfod nos Sul ac mae gweinidogion wedi cynnal nifer o gyfarfodydd dros y penwythnos gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, gwyddonwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus er mwyn ystyried eu cyngor am fesurau llym i atal y feirws rhag lledu.

"Mae'r mesurau rydyn wedi eu cyhoeddi eisoes ar lefel genedlaethol a lleol wedi bod o fudd ond mae'n rhaid i ni gyflwyno mesurau gwahanol wrth i'r haint barhau i ledu'n gyflym drwy Gymru yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf.

"Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf ddydd Llun," ychwanegodd.

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener fod cynlluniau ar gyfer cyfnod clo cenedlaethol "byr a llym" i arafu lledaeniad coronafeirws.

Daw cyhoeddiad nos Sul wrth i lythyr a ddatgelwyd gan gyfarwyddwr y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT) at aelodau yng Nghymru ddweud y byddai'r mesurau newydd yn "mynd â ni'n ôl i'r sefyllfa ym mis Mawrth".

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth am y ffordd maen nhw wedi delio gyda'r cyhoeddiad disgwyliedig.

Dywed y gweinidog iechyd, Vaughan Gething fod y penderfyniad yn "pwyso'n drwm" ar weinidogion a'u bod yn ymwybodol o'r effaith gaiff unrhyw glo cenedlaethol ar yr economi.

Mae cyfyngiadau llymach yn parhau mewn grym yn 15 o'r 22 awdurdod lleol - gan gynnwys Sir Ddinbych - yn ogystal ag yn Llanelli a Bangor.

Ers 18:00 ddydd Gwener hefyd, mae cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd â chyfraddau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru wedi dod i rym.

Beth oedd yn y llythyr?

Yn y llythyr at aelodau'r CPT, dywedodd cyfarwyddwr Cymru, John Pockett, y byddai cyfnod clo cenedlaethol yn dechrau am 18:00 ar 23 Hydref ac yn gorffen ar 9 Tachwedd.

Ond ers hynny mae Mr Pockett wedi dweud wrth PA Media ei fod yn "tybio" yr hyn yr oedd yn meddwl fyddai'n digwydd.

"Mae'r llythyr yn un dilys ac mae'n cynnwys yr hyn yr wyf yn tybio neu'n ei dybio fyddai'r sefyllfa," meddai.

"Roeddwn i'n cynghori fy aelodau gweithredwyr bysiau i fod yn barod am rywbeth a dyma beth allai fod.

"Fe allai fod yn fwy - fe allai fod yn unrhyw beth. Rwy'n credu bod cymdeithasau eraill wedi cyfathrebu â'u haelodau yn yr un ffordd."

image captionCopi o'r llythyr gafodd ei anfon at aelodau'r CPT gan y cyfarwyddwr yng Nghymru

Dywedodd y Ceidwadwr, Andrew RT Davies, fod y llythyr yn dangos "amarch anhygoel... a haerllugrwydd syfrdanol" gan Lywodraeth Cymru a'i fod wedi ysgrifennu at y Llywydd Elin Jones "i fynegi ein pryderon dybryd dros weithredoedd y prif weinidog".

Yn y cyfamser, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi dweud nad oes "swm enfawr" o fanylion wedi cael ei rannu gyda'r heddlu ynglŷn â chyfnod clo posib.

Dywedodd Dafydd Llywelyn: "Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd yr wythnos diwethaf mewn perthynas â'r paratoad ar gyfer yr hyn a allai fod yn digwydd yn y dyfodol.

"Y gwir amdani, a byddaf yn agored iawn ynglŷn â hyn, nid yw llawer iawn o'r manylion hynny o reidrwydd wedi cael eu rhannu gyda ni ac mae yna weithiau - ac mae wedi bod yn ystod y cyfnod cyfan - rhywfaint o rwystredigaeth ar ran plismona," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

'Gadewch i ni weld y wyddoniaeth'

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar Radio Cymru, fe ddywedodd y Ceidwadwr Tomos Dafydd Davies ei fod yn "awyddus iawn i... ddeall mwy am y rhesymeg tu ôl i unrhyw benderfyniad".

"Dwi'n credu bod hi'n briodol i'r awdurdodau lleol mwy gwledig nad sydd yn diodde' â'r un lefel o heintio - megis Sir Fynwy, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys - ddeall pam eu bod nhw o bosib am fod yn destun i'r un rheoliadau a'r un cyfyngiadau â gweddill Cymru, gan gofio wrth gwrs nad yw'r haint mor ddifrifol yn y rhannau hynny o Gymru," meddai.

"Felly gadewch i ni weld y wyddoniaeth a dyna fi'n credu yw apêl nid yn unig y Blaid Geidwadol ond apêl nifer o fusnesau bychain a digon o bobl resymol ar hyd a lled Cymru. Gadewch i ni weld y wyddoniaeth ac i ddeall y rhesymeg."

image copyrightGetty Images
image captionDim ond 46 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth oedd ym Mhowys yn yr wythnos hyd at 14 Hydref

Fe ddywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gorddefnyddio ei phŵer yn ystod y pandemig.

"Pwy fyse'n meddwl, ugain mlynedd yn ôl, pan gymeradwywyd datganoli, y byse gan Lywodraeth Cymru y gallu i gau i bob pwrpas y ffin rhwng Cymru a Lloegr," meddai.

"Dyma i chi lywodraeth sydd o bosib wedi gor-ymestyn ei hawdurdod, ac yn naturiol ma' hynny wedi creu cryn anniddigrwydd rhwng y llywodraethau.

"Dwi yn gobeithio yn yr ail gyfnod yma, wrth i ni fentro mewn i aeaf digon heriol, gewn ni weld fwyfwy o gydweithio rhwng y llywodraethau a llai o'r iaith ymfflamychol."

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian fod cyfnod clo cenedlaethol am gyfnod byr "rŵan, yn anffodus, yn angenrheidiol yng Nghymru".

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n poeni am yr oedi cyn gwneud y penderfyniad a'i gyfleu i bobl a busnesau Cymru.

"Er y byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru rannu eu syniadau â rhanddeiliaid allweddol er mwyn caniatáu amser iddyn nhw baratoi, rydym yn pryderu am y diffyg eglurder a phryder a achosir gan ryddhau gwybodaeth fesul dipyn yn y cyfryngau ac mewn mannau eraill dros y penwythnos.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau ar gyfer cyfnod clo cenedlaethol byr ar frys trwy ddatganiad gweinidogol fore Llun fan bellaf."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Cadarnhau cynlluniau am gyfnod clo cenedlaethol byr