BBC Cymru Fyw

'Y Gymraeg fel allwedd hud'

Published
image copyrightBalint Brunner

Mae hi'n Ddiwrnod Shwmae Su'mae ac eleni mae'r diwrnod sy'n dathlu'r Gymraeg yn bwrw'i fryd ar ddathlu ieithoedd eraill a sut mae'r Gymraeg yn byw ochr yn ochr gyda nhw.

Mae'r dewis o lysgenhadon ar gyfer y diwrnod eleni yn adlewyrchu'r thema yma gydag un ohonynt, Balint Brunner o Hwngari, wedi ymroi i ysgrifennu thesis am y pwnc yn y brifysgol.

Cariad at iaith

Dysgodd Balint am y Gymraeg pan ddaeth i weithio am gyfnod i gwmni Airbus yn Sir y Fflint: "Dw i'n meddwl gwympais i mewn cariad efo'r iaith Cymraeg tua tair mlynedd yn ôl pan o'n i'n gweithio yn Sir y Fflint ac yn byw dros y ffin yn Gaer.

"Ers hynny, dw i wedi dod yn ffan o gyfresi cerddoriaeth a theledu Cymraeg; a hyd yn oed ysgrifennu fy thesis prifysgol yn edrych ar brofiadau mewnfudwyr sy'n dysgu Cymraeg mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith."

Mae Balint yn gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus yn Llundain bellach ond mae hefyd yn olygydd a sylfeynydd y fenter diwylliannol Magyar Cymru, sy'n dathlu'r cysylltiadau rhwng Cymru a Hwngari heddiw a hanes y gymdeithas Hwngaraidd yng Nghymru.

image copyrightBalint brunner

Dathlu'r berthynas

Mae'n frwd iawn i ddathlu'r berthynas rhwng y ddwy wlad ac mae teuluoedd Hwngaraidd a Chymreig yn dod at ei gilydd bob blwyddyn yng Nghaerdydd i adeiladu pontydd rhwng y ddwy wlad gyda dathliad o 'bopeth Cymraeg a Hwngaraidd'.

Dywedodd Balint: "Daeth llawer o Hwngariaid i Gymru wedi methiant y chwyldro yno yn 1956 - gadawodd 200,000 o Hwngariaid y wlad. Ond fe setlodd rhai yng Nghymru ynghynt, fel Terry Farago, a oroesodd Auschwitz i ail-adeiladu ei fywyd yng Nghaerdydd wedi'r rhyfel.

"Yn fwy diweddar, mae llawer o Hwngariaid wedi setlo yng Nghymru i weithio, gyda llawer yn cofleidio'r diwylliant a dysgu Cymraeg. Mae 'na ddoctoriaid, peirianwyr, arbenigwyr IT a myfyrwyr wedi setlo yng Nghymru yn ddiweddar.

"Yn 2015 roedd 'na tua 2,000 o bobl cafodd eu geni yn Hwngari yn byw yng Nghymru, ond efallai bod mwy o Hwngariaid cafodd eu geni yn ardal Transylvania yn Rwmania a Slovakia, sydd ddim efo pasbort Hwngaraidd.

"Ond mae 'na lot mwy o Hwngariaid ail genhedlaeth yng Nghymru - plant i bobl ddaeth draw wedi 1956.

"Fel y disgwylir, yn ninasoedd y de mae'r mwyafrif o Hwngariaid (Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe), ond peidiwch â synnu clywed yr iaith yng Nghaerfyrddin, Llandudno, Caernarfon neu Aberystwyth!"

Ym mis Gorffennaf 2020 dechreuodd Magyar Cymru ymgyrch i ddathlu'r berthynas gyda Cymru o'r enw Let's build bridges, gan greu fideo arbennig i gychwyn yr ymgyrch.

Dywedodd Balint: "Roedden ni am gychwyn yr ymgyrch gyda rhywbeth wirioneddol arbennig. Y nod oedd dwyn ynghyd lleisiau Hwngariaid o bob rhan o Gymru, Hwngari a thu hwnt sy'n teimlo ymlyniad cryf â Chymru a'i phobl.

"O gerddoriaeth i bêl-droed i lenyddiaeth, mae yna lawer o bethau sy'n uno ein dwy genedl. Roeddem am wahodd Cymru i helpu i 'adeiladu pontydd' rhwng ein diwylliannau - trwy eiriau'r Hwngariaid sy'n byw yn eu plith, a'r rhai sy'n dymuno'r gorau o bell. "

Mewnfudwyr a'r iaith Gymraeg

Dewisodd Balint edrych ar brofiadau pobl sy' wedi dod i fyw i gymunedau Cymraeg o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer ei gwrs gradd mewn cyfathrebu strategol ym Mhrifysgol Bournemouth.

Un o'i gasgliadau oedd fod siaradwyr Cymraeg yn gallu bod yn rhy barod i droi i'r Saesneg wrth siarad gyda dysgwyr o dramor. Ac mae hyn yn cyfrannu at ddiffyg cyfle i fewnfudwyr ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.

Sylwodd Balint ar arwyddion ffyrdd ac enwau Cymraeg a mwynhau dod i adnabod cymunedau Cymraeg gogledd Cymru'n well yn ystod ei amser yno: "Fel newydd-ddyfodiad fy hun, roeddwn i'n teimlo bod yna leisiau heb eu clywed gan bobl oedd yn mudo i ardaloedd Cymraeg sy'n ymdrechu i ddod yn rhan o'r gymuned ac sydd eisiau dysgu'r iaith.

"Ond weithiau mae yna stereoteipiau maen nhw'n ei wynebu.

"Felly roeddwn i am archwilio'r rhain yn fwy manwl gyda phobl oedd yn y sefyllfaoedd yma."

Amlieithrwydd

Hwngareg yw iaith cyntaf Balint ond mae hefyd yn siarad Cymraeg, Catalan ac Esperanto.

Dywedodd: "Ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, dwi'n teimlo mod i'n gallu uniaethu â'r iaith a phopeth y mae'n sefyll amdani heddiw.

"I mi, mae'r Gymraeg yn fwy na ffordd o gyfathrebu - mae'n destun balchder ac yn rhoi teimlad o gymuned. Hefyd mae'n dyst i ewyllys a phenderfyniad pobl Cymru ar hyd y canrifoedd.

"Efallai mai dyna pam y daeth yn gyflym yn un o fy hoff ieithoedd.

"Nid yn unig mae'r Gymraeg yn iaith hollol brydferth, mae hefyd yn dod â chi'n agosach at Gymru a'i diwylliant.

"Mae'n allwedd hud sy'n datgloi byd cwbl newydd - a gall hyd yn oed ychydig bach o Gymraeg newid y ffordd rydych chi'n gweld pethau o'ch cwmpas."

Yn ymuno a Balint fel llysgenhadon Diwrnod Shw'mae eleni mae Ania Rolewska, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl ac yn awr yn byw yn Aberystwyth; a Theresa Mgadzah Jones, sy'n wreiddiol o Zimbabwe ac yn awr yn byw yng Nghaerdydd - ei hiaith frodorol hi ydy Shona ac mae hefyd yn siarad Saesneg, Cymraeg, ac ychydig o Ffrangeg ac Ndebele.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig

  • Dysgu Cymraeg