'Profiad emosiynol canfod ffilm o Dad a Mam'

Published
media captionGweld ffilm o'r saithdegau yn brofiad emosiynol i deulu cwpl byddar

"'Nes i ddim byd y diwrnod y derbyniais i'r ffilm - dim ond edrych ac edrych arni drwy'r dydd - roedd e'n brofiad hynod o emosiynol," meddai Mary Ebenezer o Langeitho ger Tregaron.

image copyrightMary Ebenezer
image caption'Roedd hi'n brofiad mor emosiynol gweld y ffilm,' medd Mary Ebenezer

Yn ystod y cyfweliad fe wnaeth Mary sôn bod rhaglen Heddiw wedi bod yn ffilmio'r teulu yng Ngors-goch yng Ngheredigion yn y saithdegau. Plentyn pump oed oedd hi ar y pryd ac felly does ganddi ddim cof am y ffilmio na'r darllediad. Mae hi wedi holi sawl gwaith am y rhaglen ond wedi methu cael mwy o wybodaeth.

Ond wrth i gylchgrawn Cymru Fyw wneud ymholiadau pellach mae'r adroddiad a ymddangosodd ar y rhaglen Heddiw yn 1976 wedi dod i'r fei.

'Gwylio'r ffilm drwy'r dydd!'

"Allai wir ddim credu'r peth," medd Mary, "doeddwn i byth yn meddwl y buaswn yn cael gweld y ffilm. Rwy'n meddwl bod Heddiw wedi bod yn ffilmio yn ein tŷ ni cyn i fi gael fy ngeni hefyd - fe fyddai hynny wedi bod yn nyddiau Nan Davies, hefyd o ardal Tregaron.

"Pan ges i'r ffilm, 'nes i ddim byd am ddiwrnod - dim ond edrych arni sawl gwaith.

"Mae wedi bod yn brofiad hynod o emosiynol. Mae'r ffilm yn creu ryw deimlad bo ni wedi wynebu anawsterau ond fel fi wedi dweud o'r bla'n do'dd e ddim fel'na o gwbl - fe gawson ni bopeth gan ein rhieni a fydden ni ddim wedi dymuno magwraeth wahanol.

"Ydi mae'n ffilm ei chyfnod, wrth gwrs, ond sai'n gweld hi'n rhy nawddoglyd fy hunan."

image copyrightBriallt Wyn Williams
image captionGerwyn a Lorraine Williams - y ddau yn fud a byddar a Lorraine hefyd yn ddall

"Ro'dd e mor hyfryd gweld fy rhieni, Anti Anne a Mam-gu yn edrych mor dda. Ro'dd Mam yn gweld rhywfaint yn y cyfnod yma ond nawr mae hi'n ddall ond rwy' wedi egluro iddi drwy arwyddo ar ei llaw beth sydd yn y ffilm - ac mae hi a Dad wrth eu boddau a mor falch bod hi wedi dod i glawr. Mae hi wir yn rhywbeth ry'n yn ei drysori.

"Doedd fy mechgyn i erioed wedi gweld Mam-gu ac mae hynny wedi bod yn brofiad arbennig hefyd," ychwanegodd Mary.

"Ac o'dd e'n neis gweld fi a fy mrawd yn chwarae'n braf gyda'n gilydd," mae hi'n ychwanegu gan chwerthin.

"Ond cofiwch chi dyna'r tro cyntaf erioed i fi weld e'n brin o rhywbeth i'w ddweud. Mae'n rhaid bod ton o swildod wedi dod drosto!"

'Cofio paratoi at y diwrnod'

Un sy'n ymddangos yn y ffilm yw Anne Evans o Dregaron - chwaer i Lorraine Williams ac un a oedd wastad yn sicrhau bod Byron a Mary yn clywed digon o siarad ar yr aelwyd.

image copyrightBriallt Wyn Williams
image captionByron yn fabi gyda'i rieni ac Anti Anne o Dregaron

"Fi'n cofio'r diwrnod yn iawn. Ro'dd e'n rhywbeth mawr bod Heddiw yn dod i Gors-goch.

"Mi oedd hi'n broses oedd yn cymryd drwy'r dydd a lot o bobl yn rhan o'r holl beth - pobl goleuo, pobl camera a'r gohebydd Ruth Parry.

"Fi'n cofio fi, Mam a Lorraine yn 'neud lot o sandwiches a chacennau i fwydo pawb a rhaid oedd sicrhau fod pawb a phopeth yn lân.

"Ond i ddweud y gwir mae Lorraine wastad wedi bod yn un dda am gadw tŷ ac ers iddi golli ei golwg mae'n glanhau yn ddi-baid rhag ofn bod bod rhywle ar ôl heb ei lanhau.

"Mae ganddi hefyd drefn go arbennig yn y droriau - ond i neb beidio symud dim byd mae'n gwybod yn iawn pa dei sy'n mynd gyda pha grys!

"Oes ma' blynyddoedd wedi mynd ers y ffilmio ond rwy'n cofio'r diwrnod fel ddoe - ro'dd e'n ddiwrnod arbennig ac roeddwn mor falch bod Heddiw am roi sylw i'n teulu bach ni."

Gwersi arwyddo yn llwyddiant mawr

Un arall sydd wedi cael boddhad mawr o weld y ffilm yw Briallt Wyn - wyres Gerwyn a Lorraine Williams ac sydd ar ei thrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Wel, dwi innau," meddai Briallt, "wedi clywed lot bod y BBC wedi bod yn ffilmio yn Ngors-goch ac ro'dd e mor neis gweld y ffilm a gweld Mam-gu a Dad-cu yn ieuengach - ac hefyd gweld pa mor falch oedd Mam Mam-gu ohoni.

"Ydi mae'r ffilm wedi bod rownd y teulu i gyd ac ry'n ni wrth ein boddau."

Yn ystod yr haf fe ddechreuodd Briallt roi gwersi arwyddo ar-lein.

"Fe fuon nhw yn hynod lwyddiannus," ychwanegodd Briallt.

media captionYn ystod yr haf bu Briallt yn rhoi gwersi arwyddo i dros 80 o bobl

"Saesneg yw iaith arwyddo ond ro'n i'n cynnal y gwersi drwy Gymraeg - a dyw e ddim yn 'neud lot o wahaniaeth heblaw bod 'dach chi eiriau sy'n cynnwys ch, dd, ll a rh, ond wedyn ni'n ymdopi.

"Roedd y gwersi yn hynod o lwyddiannus. Dangosodd ryw 80 o bobl ddiddordeb i gyd ac fe fues i'n cynnal y gwersi am ddeg wythnos.

"Ro'n i'n rhoi'r gwersi ar wefan ac yna yn cynnal cyfarfodydd Zoom i'w trafod ac i ateb unrhyw broblemau.

"Ro'dd e'n brofiad arbennig a dwi mor falch bo fi wedi cael y syniad yn ystod y cyfnod clo.

"Fi nôl yn y brifysgol yn Aberystwyth nawr - ac ydi mae'n brofiad gwahanol iawn eleni yn sgil Covid. Dwi ddim eto wedi mynd nôl adref - rhaid 'neud yn siŵr bo fi ddim yn cario dim byd adre, yn enwedig i Mam-gu a Dat-cu.

"Ond mae wedi bod yn haf i gofio - ac yn goron ar y cyfan mae cael gweld ffilm o'r teulu dros 40 mlynedd yn ôl. Ni gyd wrth ein bodd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig