BBC Cymru Fyw

Windrush, gobaith, siom: Hiliaeth a’n teulu ni

Published

"Glywais i leisiau yn gweiddi tu ôl i fi. Criw o fois yn gweiddi arna i - o'dd un ohonyn nhw gyda bat criced yn ei law. O'dden nhw'n gweiddi 'Go back to your own country. Get out of here!'"

Ers marwolaeth George Floyd ym Minneapolis ym mis Mai, a chynnydd yn y mudiad Black Lives Matter, mae yna fwy o drafod wedi bod ar hiliaeth.

Dyna a sbardunodd Roz Richards i fod yn fwy agored gyda'i ffrindiau am yr hiliaeth mae hi wedi ei brofi dros y blynyddoedd, ac i rannu, am y tro cyntaf, ei phrofiadau gyda'i Mam a'i chwaer.

"Fedra i siarad am Black Lives Matter am oesoedd," meddai Roz, ar y rhaglen Stori Roz ar BBC Radio Cymru. "Mae fy nheulu cyfan wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth. Mae dal i fynd 'mlaen diwrnod wrth diwrnod, a dyma rywbeth rydyn ni fel teulu wedi gorfod ymdopi â ers blynydde.

"Daeth Mam draw yn 1963 ar long Windrush gyda'r Jamaicans i fyw bywyd gwell ym Mhrydain, i helpu adeiladu Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Dim ond i Mam a pawb arall gael eu trin yn hynod o wael - i gael eu trin fel cŵn, achos lliw eu croen."

image copyrightRoz Richards
image captionGweithiodd Daphne yn galed i ddod yn nyrs iechyd meddwl, er iddi wynebu nifer o rwystrau, a chlywed yn aml nad oedd hi 'ddigon da', meddai Roz

Siom ym Mhrydain

Fel y dywedodd mam Roz, Daphne, wrth ei merch, daeth hi i Brydain o Jamaica yn llawn gobeithion, dim ond i gael ei siomi ar ôl cyrraedd yma gydag agweddau pobl tuag ati.

"'Nes i brofi hiliaeth eithaf dipyn pan ddes i i'r DU gyntaf. Byddai pobl wyn - rhai ifanc fel arfer - yn dod lan ata i yn y bus stop a dweud pethau fel '*** go home' a gwneud ystumiau mwnci. Drwy fy ngyrfa nyrsio hefyd, dim y staff ond gyda chleifion, fyddai'n dweud 'I don't want that b*** b*** to touch me'."

"Ar ôl i mi ddod i Gymru, aethon ni ar wyliau, ac o'dd 'na grŵp o ddynion ifanc gwyn oedd yn gweiddi pethau hiliol ofnadwy arna i. 'Nes i ddweud wrth fy ngŵr i ngadael i fynd i'w 'sortio nhw mas', a ddywedodd e 'there are too many of them - they would have killed you'.

"Fy nisgwyliad oedd i wella fy hun a chael cymwysterau, ac y byddai gen i ryddid o ran gwaith ac arian drwy gydol fy mywyd. Ond ar ddiwedd y dydd, roedd beth 'nes i ddisgwyl a beth gefais i yn hollol wahanol."

Rhannu gyda'r teulu

Am y tro cyntaf, mae Roz a'i hefaill Lara wedi bod yn siarad am yr hiliaeth a brofodd y ddwy pan oedden nhw'n cael eu magu yng Nghaerffili.

"Bob amser, roedd pobl yn gofyn i ni os oedden ni'n frwnt, os oedden ni'n golchi," cofia Lara. " Yr unig pryd nes i deimlo'n accepted a bob pobl yn hoffi fi oedd pan o'n i'n gwneud athletau - o'n i'n champion! Ond o'dd hwnna'r unig pryd oedd pobl yn dod i fyny i fi a siarad gyda fi.

"Pan oeddwn i'n blentyn bach, dwi'n cofio pob diwrnod, rhywun yn galw fi'n Pakistani. Dwi'n cofio meddwl 'dych chi'n dwp, dwi ddim yn dod o Bacistan...'"

image copyrightRoz Richards
image captionRoz gyda'i mam, Daphne

Yn ôl Roz, mae hi'n teimlo'n 'eitha' sic' wrth gofio nôl am y triniaeth roedden nhw'n ei dderbyn gan rai o'u cyfoedion pan oedden nhw'n blant.

"Pob diwrnod bydden nhw'n tynnu ar fy braids. Tynnu'r ribbons o'n gwallt, poeri yn ein gwallt. Ti'n cofio, un diwrnod o'dd Mam wedi gweld hyn? O'dd calon hi jest 'di torri..."

Mae gan y ddwy straeon am hiliaeth maen nhw wedi ei brofi yn y dinasoedd lle maen nhw'n byw bellach - Roz ym Melbourne, a Lara ym Madrid. Mae'r ddwy wedi cael eu stopio gan yr heddlu fwy nag unwaith - am ddim rheswm ond i ofyn i weld ID. Yn ôl Lara, mae'r heddlu yn llawer mwy cyfeillgar tuag ati hi unwaith maen nhw'n sylweddoli ei bod yn dod o Brydain.

Mae heddlu wedi gwneud i Roz stopio'r car heb egluro pam, ac mae gweithwyr yn aml yn ei dilyn o amgylch siopau, heb wneud hyn i'w ffrindiau gwyn. Yr unig reswm dros wneud hyn y mae hi'n gallu ei weld, ydi lliw ei chroen.

image copyrightRoz Richards
image captionLara a Roz pan oedden nhw'n ifanc

Ond yn agosach i adref y cafodd Roz y profiad mwyaf brawychus o hiliaeth, pan oedd hi ofn am ei bywyd:

"Ar ôl i fi bennu yn y prifysgol, o'n i ishe gneud bach o bres, a penderfynais i weithio i gwmni oedd yn gwerthu drws-i-ddrws. Un diwrnod, o'dd rhaid i mi fynd i Merthyr. Fi oedd yr unig berson croenddu yn y criw oedd wedi mynd yna.

"O'n i jest yn cerdded i lawr y stryd, a glywais i commotion tu ôl i fi; criw o fois yn gweiddi arna i - o'dd un ohonyn nhw gyda bat criced yn ei law. O'dden nhw'n dechrau gweiddi 'Go back to your own country. Get out of here!'. O'dden nhw'n rhegi ac yn gweiddi pethau fel 'I'll burn you on the cross'.

"O'dden nhw'n dechrau cerdded yn gyflymach tuag ata i. O'n i ar fy mhen fy hun - doedd 'neb o gwmpas.

"O'n i'n gwybod o'dd rhaid i fi jest rhedeg. Diolch i Dduw bo' fi'n medru rhedeg mor glou. O'dd y bois yn rhedeg tuag ata i a jest yn gweiddi a gweiddi. Erbyn i fi gyrraedd y criw [gwaith] ar waelod y stryd, o'n i jest yn crynu.

"Erbyn hyn o'dd y bois tu ôl i fi wedi arafu lawr - achos bo' fi efo criw, fedran nhw ddim gwneud dim byd i fi. Tra o'n nhw'n cerdded heibio, 'naethon nhw'r Hitler salute a rhegi a bod yn rili bygythiol. O'n i 'di dychryn a'r bobl gyda fi wedi dychryn hefyd.

"Neidion ni yn y car, a dreifio lawr y stryd, a gweld y bois - a 'sai'n siŵr beth naeth ddod drosta i, ond nes i tynnu lawr y ffenest a gweiddi atyn nhw a 'nes i'r dwrn Black Power i'r awyr tu allan i'r ffenest. A dreifio i ffwrdd mor glou."

Rhannu gyda ffrindiau

Pan gafodd Roz ei stopio eto gan yr heddlu ym Melbourne yn ddiweddar, gwnaeth rhywbeth iddi ofyn i'w ffrindiau gwyn os oedd pethau fel hyn yn digwydd iddyn nhw - na oedd yr ateb.

Dyna pam iddi benderfynu rhannu rhai o'i straeon o hiliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi wrth ei bodd pan gysylltodd un o'i ffrindiau hynaf, Sarah, â hi.

image copyrightRoz Richards
image captionMae Lara, Sarah a Roz wedi bod yn ffrindiau ers eu bod yn ferched ifanc

Roedd Sarah yn falch fod Roz wedi bod mor agored am ei phrofiadau, ond cafodd ei synnu gan beth y darllenodd, fel yr eglurodd wrthi:

"Mae'n rhaid i fi gyfadde, o'n i'n rili rili shocked," meddai Sarah, "ac o'n i'n teimlo'n rili drist ac yn euog. Cymerodd e sbel i fi i trial rhoi mewn geiriau sut o'n i'n teimlo.

"Achos dwi 'di nabod dy fam ers bo' ni'n ddwy oed, a 'sai 'di clywed hi yn siarad am y Windrush. Pan oedd hynny wedi dechrau cael ei drafod ar y teledu, o'n i ddim yn sylweddoli - 'sai'n gwybod pam - bod dy fam yn rhan o hynny.

"Gan bod hi heb siarad amdano, ac yn debyg iawn i ti a Lara, yn cario mlaen 'da'r peth, 'so chi'n gadael iddo fe fod yn rhan o chi. Chi mor gryf fel menywod, chi jest yn 'neud be chi mo'yn, a gan bo' chi'n gneud 'na, chi ddim yn sylweddoli bod y profiadau yma wedi digwydd a bod nhw wedi cael cymaint o effaith arnoch chi.

"Mae rhywbeth fel hyn yn bwysig, fel bod pobl yn cael cyfle i siarad ac i drafod. Fel rhan o'n addysg yn y brifysgol, nes i astudio hanes pobl ddu. O'n i'n meddwl 'mae hyn yn rili eironig; dwi'n gwybod am y Civil Rights movement yn America, ond o'dd dim syniad 'da fi beth oedd yn digwydd reit gartref'."

Siarad ac addysgu

Er mor hapus oedd Roz fod Sarah wedi cysylltu gyda hi, a'i bod wedi cael trafod rhywbeth sydd wedi effeithio arni ers blynyddoedd, roedd wedi siomi cyn lleied o'i ffrindiau eraill oedd wedi cysylltu i gynnig cefnogaeth.

Fel mae Roz yn ei egluro: "Pan dyw pobl ddim yn gweud dim byd, mae'n 'neud i ni deimlo'n waeth, achos fel maen nhw'n dweud, silence is complicity. Base well 'da fi rywun, os nad oedden nhw'n gwybod beth i'w 'weud, gweud 'na."

Siarad ac addysg yw beth mae Roz yn ei gredu sydd ei angen i geisio curo hiliaeth unwaith ac am byth. Mae hi wedi siarad gyda'i mam a'i chwaer am eu profiadau, ac wedi siarad â'i ffrind oes ac egluro'r sefyllfa iddi. Ond mae angen gwneud mwy o siarad a mwy o addysgu, meddai.

"Mae wedi bod yn beth da bo' ni'n trafod hyn - fi'n credu bod e'n beth da i pobl wrando a chael eu haddysgu o gwmpas hiliaeth. Dyna'r problem ni'n ei wynebu; bod pobl ofn siarad.

image copyrightRoz Richards
image captionRoz mewn protest Black Lives Matter ym Melbourne

"Mae'r symudiad Black Lives Matter 'ma, mae fe mor bwerus. Mae e'n gyfnod da i wthio am newid.

"Mae mor bwysig i bobl wrando ac i addysgu - hanes pobl dduon ym Mhrydain, hanes y Windrush - i ddeall beth mae pobl sy'n byw yn yr un gwlad â nhw wedi bod trwodd.

"Dwi'n gwybod fod pethau wedi dechrau gwella nawr, ond mae lot mwy o waith i ni 'neud.

"Os oes gennych chi gwestiwn, mae well i chi ofyn cwestiwn, nac i chi fod yn dawel, achos dyna'r unig ffordd allwch chi ddysgu a deall beth 'yn ni'n mynd trwodd.

"Trwy wneud hyn i gyd, gyda'n gilydd, fedrwn ni greu newid."

Hefyd o ddiddordeb: