BBC Cymru Fyw

Eryri yn ystyried sut i ddelio â thwristiaeth yn y dyfodol

Liam Evans
Gohebydd BBC Cymru

Published

Wrth i dymor yr haf ddirwyn i ben mae Parc Cenedlaethol Eryri'n dweud bod angen i Gymru edrych ar esiamplau o wledydd Ewrop wrth ddelio â thwristiaeth, gan gynnwys ystyried codi trethi.

Yn ôl y Parc dyma'r flwyddyn fwyaf heriol iddyn nhw o ganlyniad i dwf enfawr mewn niferoedd oherwydd cyfyngiadau ar deithio dramor.

Er mwyn delio gyda'r cynnydd mae Plaid Cymru bellach yn galw am fuddsoddiad hir dymor a chynaliadwy i gefnogi parciau ar draws Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisoes wedi buddsoddi £800,000 yn fwy eleni i helpu'r parciau ddelio gyda'r argyfwng coronafeirws.

'Hyn yn lot gwaeth'

Drwy gydol y pandemig fe welodd Parc Cenedlaethol Eryri mwy o bobl leol yn gwirfoddoli, gyda 100 o bobl yn rhagor yn cynnig help llaw.

Yn ôl Peter Rutherford, Swyddog Mynediad Iechyd a Lles y Parc, roedd yr help ychwanegol yn cael ei werthfawrogi'n fawr wrth i'r mynyddoedd lenwi.

"Ma' hi 'di bod yn anodd iawn ar y staff i gyd oherwydd cyn gymaint o bobl sydd o gwmpas," meddai Mr Rutherford.

"Mae o wedi hitio ni mor galed ac mor sydyn a 'dan ni erioed 'di dod ar draws dim byd tebyg o blaen.

"Mi oedd y clwy' traed a'r genau yn anodd am ryw ddau fis wedyn ond yn sicr mae hyn lot gwaeth."

image captionDydy Helen Pye erioed wedi gweld y Parc mor brysur ag oedd hi eleni

Gyda chyfyngiadau llym ar deithio o ganlyniad i'r pandemig mae parciau cenedlaethol Cymru wedi profi torfeydd enfawr a miloedd yn fwy o bobl yn dod i ddefnyddio'r cyfleusterau.

Ond wrth i ragor ddod i'r ardal mae 'na bryder cynyddol am lefelau traffig ac ymddygiad rhai ymwelwyr.

Bellach mae 'na alw am drafodaeth agored i edrych ar effaith twristiaeth yng Nghymru a cheisio gwneud i'r sector weithio i bobl leol.

Mae Helen Pye, sy'n Swyddog Ymgysylltu efo Parc Eryri, yn dweud iddi fod yn gweithio i'r parc am dros ddegawd a dyw hi "erioed di gweld hi mor brysur â hyn".

"Mae angen edrych efallai ar fodelau gwahanol na sydd gynom ni ar hyn o bryd, edrych ar fodelau sy'n Ewrop er enghraifft lle maen nhw'n defnyddio modelau o dreth."

Wrth i'r Parc geisio addasu i'r heriau newydd mae rhaid gwneud hynny gyda llai o bres.

Yn ôl y Parc mae eu cyllid wedi cael ei gwtogi'n fawr dros y degawd diwethaf.

image captionDywedodd Peter Rutherford ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i staff

Yn ôl Llŷr Gruffudd, AS Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, mae angen i hyn newid.

"Does gan y parciau ddim y sicrwydd ariannol i fedru bod yn buddsoddi fel y dylen nhw mewn isadeiledd yng nghefn gwlad a hefyd mewn capasiti gwirfoddoli," meddai.

"Ar ddiwedd y dydd dyma un o'r asedau mwyaf sydd ganddo ni ac yn amlwg da ni ddim yn manteisio yn llawn arno."

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi sicrhau cyllid cymharol a'r ddwy flynedd ddiwethaf i'r Parciau Cenedlaethol gan ddarparu tua £800,000 yn ychwanegol i helpu a'r argyfwng Covid.

Ychwanegon nhw eu bod nhw eisoes wedi cyhoeddi bron i £5m yn ychwanegol i helpu'r parciau Cenedlaethol i wella cynaliadwyedd yn y tymor hir.

Eleni mae'r parc wedi bod yn fwy dibynnol ar haelioni gwirfoddolwyr nag erioed o blaen, ond mae'r rhybudd yn glir bod yn rhaid i rywbeth newid os yw'r Parc am allu cynnal y nifer cynyddol o ymwelwyr.

Straeon perthnasol

  • Pryder o'r newydd am dorfeydd yn heidio i Eryri