BBC Cymru Fyw

Y 'strygl' o fyw ar gredyd cynhwysol

Published

"Mae isho newid petha. Mae pobl yn stryglo. Dw i'n gweld am bod fi efo depression fy hun, fod pethau fel hyn yn rhoi mwy o straen ar bobl a dw i'n gweld pam mae lot o bobl yn cymryd bywydau eu hunain achos mae o'n straen fawr."

Mae Claire Jones o Gaernarfon, sy'n fam i 10 o blant, wedi byw ar gredyd cynhwysol ers chwe mis. Mae'r taliad yn drefn ers 2014 o roi'r holl fudd-daliadau blaenorol ar gyfer pobl sy'n ddi-waith neu'n byw ar incwm isel mewn i un taliad misol.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yng Nghymru mae cynnydd o 71% wedi bod yn y nifer sy'n hawlio credyd cynhwysol (rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020).

Ond beth yw'r heriau o fyw ar y budd-dal?

Mae Claire yn derbyn £1106 bob mis fel taliad credyd cynhwysol ac ar ben hynny, budd-dal plant o £100 yr wythnos ac hefyd llety dros dro gan y cyngor.

Yn ôl Claire, dyw'r arian ddim yn ddigon i'w chynnal hi a'i phlant, sy'n amrywio mewn oed o faban pedair wythnos oed i ferch 19 mlwydd oed: "Mae gyd 'di mynd pan dw i'n cael o rili, erbyn dw i'n talu biliau a bwydo'r plant - mae pres bob mis yn talu'r biliau diwethaf.

"Dw i'n rili byw ar £100 y child benefit bob wythnos."

Y cyfnod clo

Mae'r sefyllfa wedi bod yn straen, yn enwedig yn ystod y pandemig, yn ôl Claire: "Mae un o'r plant wedi symud allan ond dw i'n gorfod byw rŵan efo naw o blant ar 'chydig dros £1000 y mis. Mae hwnna'n covero bob dim - biliau, bwyd, bob dim.

"Mae wedi bod yn uffernol - efo dim ysgol na dim byd, oedd o'n cymryd lot mwy o bres i fwydo plant.

"Do'n i ddim yn gallu mynd allan i siopa achos o'n i ddim yn gallu mynd â'r plant i gyd efo fi.

"O'n i ddim yn gallu mynd am dro ac oeddan ni gyd yn styc mewn un tŷ.

"O'n i'n rili 'neud pob dim fy hun. Oedd o dipyn bach yn scary. O'n i ddim yn cael gweld neb, o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd y diwrnod wedyn a phryd oedd ysgol a beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r plant.

"Oedd jyst bob dydd yn boen mawr.

"Dw i'n teimlo lot gwell efo'r ysgolion wedi ailagor a 'chydig bach o routine. Mae lot mwy o drefn adra."

Pres yn dynn

Mantais y system credyd cynhwysol, yn ôl y Llywodraeth Prydeinig, yw fod un taliad yn symlach i'w hawlio na'r drefn flaenorol o nifer o fudd-daliadau gwahanol.

Ond mae gwneud i'r taliad misol bara' am y mis yn anodd, yn ôl Claire: "Dw i'n teimlo fatha dw i'n gyrru o allan i bob man arall, dw i ddim yn gweld dim ohono. 'Dydy'r plant ddim yn cael dim byd rili, 'da ni'n colli allan ar lot o bethau.

"'Da ni methu mynd allan efo'r teulu i lefydd achos fedra i ddim fforddio fo.

"Dw i wedi gorfod methu ambell i fil efo'r plant adre a 'di bod angen mwy.

"Mae'r plant 'di bod isho pethau ysgol newydd (yn ddiweddar) felly fydda i mewn twll eto rŵan."

Sut i fyw ar y budd-dal

Cyngor Claire yw i fod yn fwy gofalus pan mae'n dod i dalu biliau: "Mae'n anodd gweithio allan be' sy' orau i wneud o ran y biliau a 'neud yn siŵr bod y plant yn iawn - jest bod yn ofalus efo'r pres.

"Dw i 'di dod i'r arfer rŵan ac yn 'neud un wythnos o siopa. Mae un hogyn bach yn ysgol 'di gorfod cael bocs bwyd so mae mwy o gost. Dwi'n stryglo rŵan i ffeindio pethau bocs bwyd bob dydd.

"Mae pethau'n costio tydyn."

Cymorth

Mae'r galw am fanciau bwyd wedi cynyddu mewn nifer o ardaloedd lle mae'r drefn credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno ac mae'r banc bwyd lleol Porthi Pawb yn help mawr i Claire: "Un diwrnod yr wythnos o ddim gorfod poeni ac mae'r plant wrth eu bodd, maen nhw'n enjoio fo. Mae o'n trit iddyn nhw."

image copyrightMeilyr Tomos
image captionRhian Medi a Meilyr Tomos, Y Dref Werdd

Un arall sy'n cynnig help i bobl ar budd-daliadau yng Ngwynedd yw Meilyr Tomos sy'n gweithio i brosiect Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywedodd Meilyr: "Mae diddordeb gen i mewn effeithlonrwydd ynni a byw ar incwm isel achos mae 'di digwydd i fi.

"Tua 10 mlynedd yn ôl gollais i'n ngwaith fel peiriannydd sain a nes i ffeindio'n hun mewn sefyllfa lle 'oedd gen ni fel teulu incwm isel iawn. Oedd fy mhartner i'n hyfforddi ar y pryd ac oeddan ni newydd gael ein plentyn cynta' ni.

"Felly nes i fynd ati i ddysgu am yr holl bethau 'ma sy'n gymorth ychwanegol.

"Felly beth dw i'n gwneud yn fy ngwaith i rŵan yw cascadio ymarfer da personol - y petha' nes i ffeindio pan o'n i'n skint."

Effaith y pandemig

Yn ôl Meilyr, mae'r cyfnod clo wedi effeithio'n wael ar Gwynedd, sir sy'n ddibynnol iawn ar dwristiaeth gyda nifer o swyddi'n rhai tymhorol: "'Nath y tap twristiaeth ddim ddod ar felly 'nath y gwaith tymhorol arferol ddim cicio off.

"Oedd hi'n eitha' caled yma cyn y pandemig. 'Da ni'n uchel i fyny o lefel y môr a dros y gaeaf mae costau gwresogi pobl yn aruthrol.

"Os ydy dy rent yn costio mwy na be' mae'r credyd cynhwysol yn rhoi i ti fel pres rent, ti'n gorfod defnyddio dy bres byw i topio fyny'r rent. Mae hynna'n sefyllfa cyffredin iawn yn Blaenau.

"Gynno ni ddynes i fewn ddoe, mae hi newydd hawlio credyd cynhwysol a 'nath y geiniog ddisgyn iddi - roedd ganddi £289 i fyw ar bob mis dros y gaeaf. Efo hynny mae'n gorfod talu tanwydd, sef nwy a trydan - 'na £100 wedi mynd.

"Ar gyfer pob dim roedd ganddi tua £200 i fyw.

"Ti'n ffeindio trics - ti'n dechrau siopa'n andros o ofalus, mae pobl skint yn geniuses am ffeindio bargeinion."

image copyrightAled Llywelyn
image captionBanc bwyd yng Nghaerfyrddin

Banc bwyd

Mae cymorth banc bwyd hefyd yn bwysig yn ardal Blaenau ar gyfer pobl sy'n byw ar gredyd cynhwysol, yn ôl Meilyr: "'Da ni ddim yn gofyn cwestiynau fan hyn - os maen nhw'n dweud fod ganddyn nhw ddim bwyd, 'da ni'n rhoi referral iddyn nhw i'r banc bwyd, dim lol.

"Mae hwnna'n ran hanfodol o'r system fudd-dal erbyn hyn, dim jest yn Blaenau ond dros Gwynedd i gyd.

"Mae o'n given - os mae rhywun ar gredyd cynhwysol maen nhw angen banc bwyd hefyd."

Tlodi tanwydd

Rhan o waith Y Dref Werdd yw taclo tlodi tanwydd ac fe wnaeth y tîm yno ddarganfod fod pobl oedd ar fudd-daliadau ddim yn hawlio'n llawn beth oedd yn ddyledus iddyn nhw.

Dywedodd Meilyr: "Os ti'n hawlio credyd cynhwysol ti'n gymwys ar gyfer y warm home discount, sy'n rebate o £140 oddi ar dy gyfrif trydan.

"Mae gen ti rhywbeth o'r enw HelpU sy'n capio dy fil dŵr di i £250 y flwyddyn. Ac mae gen ti BT Basic sy' ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol ac mae'n capio cost dy broadband a dy ffôn di.

"Dydy'r cwmnïau ddim yn hysbysebu dim ar y pethau yma."

Ac mae diffyg sgiliau digidol hefyd yn broblem fawr, yn ôl Meilyr, oherwydd unwaith mae cais am gredyd cynhwysol wedi ei wneud, mae angen ffôn a rhyngrwyd ar berson sy'n hawlio er mwyn delio gyda'r cais.

"Y barrier mwya' ydy ti'n lluchio pobl sy' efo dim profiad IT i fewn i fyd digidol am y tro cynta' lle mae 'na orfod arnyn nhw i ddefnyddio technoleg. Hwnna ydy un o'r problemau fwyaf achos mae'n ddibynnol ar fod gen ti smart phone.

"A dydy'r llyfrgelloedd ddim ar agor i bobl gael defnyddio cyfrifiaduron."

Oes stigma yn yr ardal ynglŷn â hawlio budd-daliadau?

I'r gwrthwyneb, yn ôl Meilyr: "Un o nodweddion pennaf Blaenau yw mae pawb yn trin ei gilydd fel maen nhw'n ffeindio'i gilydd.

"Mae'n fraint mawr cael bod yn gweithio mewn cymuned sy'n gweithredu felly.

"Y pobl sy'n gwirfoddoli yn y banc bwyd, mae un neu ddau ohonyn nhw wedi defnyddio'r banc bwyd yn y gorffennol.

"'Da ni'n cyflenwi rhyw faint o datws ac mae'r sach o datws yn dod gan y dyn siop tsips.

"Mae lot o'r rhoddion yn dod o'r bocs banc bwyd yn y Coop lleol. Mae'r gymuned yn llenwi'r bocs yno yn wythnosol.

"Mae'n gymuned sy'n edrych ar ôl ei hun."

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth hanfodol i dros 5.6 miliwn o bobl, tra fod y cap budd-daliadau yn sicrhau fod y system yn deg ar gyfer y rhai sy' ei angen, yn ogystal ag i'r trethdalwyr sy'n talu amdano.

"Mae ond yn deg fod pobl sy'n hawlio budd-daliadau yn gorfod gwneud yr un penderfyniadau bywyd a teuluoedd sy'n gweithio, ac ni fyddai'n gynaliadwy i gynyddu budd-daliadau yn awtomatig yn ôl maint y teulu.

"Mae gan y mwyafrif o deuluoedd ym Mhrydain (85%) dau neu lai o blant, felly mae'r gefnogaeth ni'n ddarparu yn gymesur."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig

  • Bywyd
  • Tlodi