BBC Cymru Fyw

Gwersi natur o'r ganrif ddiwethaf mewn hen lyfr ysgol

Published
image copyrightllun cyfrannwr
image captionNodiadau disgybl o wers natur mewn ysgol gynradd tua 1990 mewn llawysgrifen gain

Faint o blant ysgol heddiw sy'n cael treulio p'nawniau hamddenol yn crwydro caeau a choed o gwmpas eu hysgol yn dysgu am fyd natur ac enwau blodau ac anifeiliaid?

Gyda phryderon wedi eu codi yn y blynyddoedd diweddar bod plant yn colli geiriau a gwybodaeth am fyd natur, mae cofnod gan blentyn ysgol o 1900 wedi dod i'r fei yn sir Ddinbych sy'n dangos faint sydd wedi newid.

Cafwyd hyd i lyfr ysgol plentyn bach o'r enw John Beech yn cynnwys lluniau a nodiadau o'i wersi natur yn ysgol Llanarmon-yn-Iâl ar droad yr 20fed ganrif mewn bocs o hen ddogfennau capel.

Roedd y bocs wedi cyrraedd cartref Gareth Vaughan Williams, cofiadur henaduriaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn y gogledd ddwyrain, a'r llyfr wedi cymryd ei sylw ynghanol cyfrifon a chofnodion o Gapel Bethania, Llandegla.

"Er ei fod o yn Saesneg [iaith addysg ar y pryd] mae'n cofnodi'r teithiau wnaeth o efo'r Meistr i'r woods, y coed o gwmpas yr ysgol, ac yn cofnodi be maen nhw'n weld yno," meddai Mr Williams.

image copyrightLlun cyfrannwr
image captionYn yr hen lyfr mae lluniau a nodiadau manwl am goed a blodau

"Mae'r un cyntaf yn 1900 ac yn mynd drwadd i 1904 a rhaid bod nhw'n mynd allan o'r ysgol yn weddol gyson, a dim jyst yn yr haf ond o fis Chwefror ymlaen ac yn gweld pob math o bethau.

"Maen nhw'n nodi enwau yn Saesneg ac yn aml iawn yn Gymraeg hefyd, sy'n hollol ddiddorol."

Enwau Cymraeg ar flodau ac anifeiliaid

Ar Gorffennaf 5, 1901 mae'r dosbarth yn mynd i'r coed i archwilio blodau ac yn gweld blodau rhosyn y ci (wild dog rose) gan sylwi ar eu lliwiau a faint o betalau sydd ar bob blodyn.

Mae'n sôn am daith lle dangosodd yr athro dri math o buttercup - blodyn menyn yw'r enw cyffredin yn Gymraeg heddiw ond 'egyllt' yw'r enw sydd yng nghofnod John Beech.

Mae hefyd yn cofnodi:

  • Herb Robert - y goesgoch
  • Speedwell - rhwyddlwyn
  • Scorpion grass - ysgorpionllys
  • Lady's smock - blodyn y gog
  • Bugle - glesyn y coed
  • Eyebright - llygad siriol
image copyrightllun cyfrannwr

Yn ogystal â blodau mae hefyd yn trafod coed ac anifeiliaid.

Mae'r plant yn dysgu am 'adar crwydro' sy'n mudo i wledydd cynnes yn y gaeaf, fel y wennol, y gog a dryw'r ddaear.

image copyrightLlun cyfrannwr

Mewn cofnod am y fronfraith sy'n cynnwys lluniau hyfryd o wyau'r aderyn mae'n disgrifio sut mae'n gwneud ei nyth o frigau mân, gwreiddiau, mwsogl, pren, dail a leinin o fwd.

Darganfod yr awdur

Ar ôl gwneud ychydig o ymchwil daeth Gareth i ddeall mai mab Perthichware, Llanarmon-yn-Iâl, oedd John Beech.

image copyrightLlun teulu
image captionLlun o John Beech gyda'i deulu tua'r un adeg ag y byddai wedi gwneud y lluniau a'r nodiadau

Fe fyddai tua naw neu 10 oed ar droad yr 20fed ganrif ac roedd ganddo lawysgrifen gain a dawn i dynnu llun.

Mae ei fab Tudor Beech wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed fis Mawrth 2020 ac yn byw yn Rhuthun.

Roedd merch John Beech, Elsa, chwaer i Tudor, yn fam i Marian Beech Hughes o Bow Street ger Aberystwyth, sydd yn cofio ei thaid yn dda fel ffermwr, garddwr brwd ac aelod selog iawn yng Nghapel Bethania, Llandegla, lle roedd yn flaenor, trysorydd ac athro ysgol Sul am flynyddoedd lawer.

image copyrightIestyn Hughes
image captionJohn Beech (chwith eithaf) yn derbyn Medal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Yn y llun hefyd mae'r awdur Kate Roberts (ail o'r dde) yn derbyn yr un wobr.

"Ganed John Beech ym mis Ebrill 1891, a bu farw yn 90 oed ym mis Ionawr 1982. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth adre at ei dad (oedd hefyd yn John Beech) i ffermio," meddai Marian.

"Pan fydden ni'n mynd yno i aros ar ein gwyliau yn y 1960au, roedd gan Taid ardd lysiau helaeth; yr oedd yn falch iawn ohoni a byddai'n treulio oriau lawer yno."

Mae ei swydd fel trysorydd y capel yn esbonio pam fod y llyfr ysgol wedi ymddangos ynghanol dogfennau'r capel.

"Mae'n rhaid ei fod wedi rhedeg allan o'r llyfr swyddogol ac wedi cadw ei gyfrifon yng nghefn y llyfr! Ond rhan gynta'r llyfr ydi'r mwyaf diddorol," meddai Gareth Vaughan Williams.

"Rhaid bod gan y Meistr yma ddiddordeb enfawr mewn natur a phethau felly."

Erbyn hyn mae Gareth Williams wedi darganfod mai prifathro'r ysgol, Richard Morgan, oedd y Meistr, naturiaethwr a ysgrifennodd sawl llyfr Cymraeg poblogaidd yn y cyfnod: Tro Trwy'r Wig, Llyfr Adar, Llyfr Blodau a Rhamant y Gog Lwydlas.

Mae Tudor Beech yn cofio Richard Morgan yn Llanarmon.

Mae mwy o wybodaeth am Richard Morgan ar raglen Galwad Cynnar, fore Sadwrn, Medi 26.

Gobaith Gareth ydi y bydd y dogfennau yma yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol fel cof o sut roedd gwersi natur flynyddoedd yn ôl. Mae hefyd yn bwriadu gwneud copi i deulu John Beech.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Gareth Vaughan Williams am dynnu ein sylw at lyfr fy nhaid, ac mae wedi bod yn wefr i ni fel teulu weld llawysgrifen gain fy nhaid yn fachgen ysgol, a rhyfeddu at ei ddawn fel artist ifanc," meddai Marian Beech Hughes.

image copyrightllun cyfrannwr

Hefyd o ddiddordeb: