BBC Cymru Fyw

Cyfyngiadau Covid-19 lleol i ragor o siroedd y de

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightGetty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn siroedd Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym yn y siroedd o 18:00 ddydd Mawrth.

Fe fydd y cyfyngiadau lleol sydd mewn grym yn Sir Caerffili hefyd yn cael eu cryfhau i adlewyrchu'r cyfyngiadau sydd mewn grym yn barod yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Daw wrth i Brif Swyddogion Meddygol y DU gyhoeddi eu bod yn codi lefel y rhybudd am coronafeirws yn y DU, a bod hynny'n gydnabyddiad swyddogol bod achosion yn cynyddu yn y pedair gwlad.

Cyfarfod brys gyda'r awdurdodau lleol

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd Mr Gething y bydd canran sylweddol o boblogaeth y de-ddwyrain, a chymoedd y de yn enwedig, yn destun cyfyngiadau coronafeirws.

Ychwanegodd y bydd yn cynnal cyfarfod brys ddydd Mawrth gyda'r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a lluoedd heddu'r de, o Abertawe i'r ffin gyda Lloegr, i drafod y darlun rhanbarthol ehangach ac os oes angen gweithredu mesurau pellach.

  • Edrych yn ôl: Y diweddaraf o'r cynadleddau coronafeirws

Dywedodd Mr Gething fod cyfradd yr achosion yn uchel ym Merthyr Tudful, ond eu bod yn gysylltiedig gyda dau glwstwr penodol - un mewn tafarn a'r llall mewn cyflogwr mawr yn yr ardal. Roedd dau glwstwr llai hefyd wedi eu darganfod yn y sir.

Yn Rhondda Cynon Taf, lle cafwyd cyfyngiadau lleol ddydd Iau diwethaf, roedd nifer yr achosion wedi cynyddu gyda'r gyfradd bellach yr uchaf yng Nghymru.

Ychwanegodd fod nifer o glystyrau bychain wedi eu darganfod drwy'r sir a hynny o achos diffyg ymbellhau cymdeithasol, a bod 34 achos o gleifion coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg erbyn hyn.

image captionFe wnaeth Vaughan Gething y cyhoeddiad yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Llun

Beth yw'r cyfyngiadau lleol newydd?

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu i dderbyn addysg;
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig;
  • Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 23:00;
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do - fel yng ngweddill Cymru.

Dywedodd Mr Gething fod y sefyllfa ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn destun pryder i'r llywodraeth gan fod cynnydd sydyn wedi bod yn nifer yr achosion yn y sir mewn cyfnod byr.

Bellach roedd sawl clwstwr lleol wedi eu darganfod yno ond roedd gweinidogion yn pryderu fod y sir yn dilyn patrwm yr hyn sydd wedi digwydd yn Rhondda Cynon Taf.

Ym Mlaenau Gwent roedd nifer o achosion gyda chysylltiad i dafarndai a diffyg ymbellhau cymdeithasol, ond roedd achosion hefyd ymysg staff cartrefi gofal ag ysgolion uwchradd y sir.

Yng Nghasnewydd roedd cynnydd yn yr achosion yno wedi eu cysylltu gyda pharti mewn tŷ ar ddiwedd mis Awst, ac yna mewn tafarndai ond roedd ymlediad eang ar draws y ddinas erbyn hyn.

image copyrightWales News Service
image captionCaerffili oedd y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn cyfyngiadau lleol newydd

Dros yr wythnos ddiwethaf mae nifer yr achosion wedi cynyddu ym mhob un o'r siroedd sydd dan sylw.

Ym Merthyr gwelwyd 94.5 o achosion positif ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth - y gyfradd uchaf yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf.46.2 oedd y ffigwr ym Mhen-y-bont, 45.3 yng Nghasnewydd a 42.9 ym Mlaenau Gwent.

Yn Rhondda Cynon Taf mae rheolau llym ar fywydau'r 240,000 o bobl sydd yn byw o fewn ffiniau'r sir o ddydd i ddydd. Nid oes modd iddyn nhw adael y sir heb esboniad rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu ar gyfer eu haddysg.

Nid oes hawl i gyfarfod pobl o aelwydydd eraill dan do yn eu cartrefi, ac mae'n rhaid i dafarndai, bariau a thafarndai gau eu drysau erbyn 23:00.

Cynyddu lefel y rhybudd Covid-19

Mewn datganiad ar y cyd brynhawn Llun dywedodd Prif Swyddogion Meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod, ynghyd â'r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, wedi penderfynu y dylid symud y lefel rhybudd Covid-19 o Lefel 3 i Lefel 4.

Mae Lefel 3 yn golygu bod Covid-19 yn lledu ymysg y cyhoedd, tra bod Lefel 4 yn golygu bod coronafeirws yn lledu yn sydyn a bod achosion yn cynyddu.

"Ar ôl cyfnod o achosion a marwolaethau Covid is, mae nifer yr achosion bellach yn codi'n gyflym mewn rhannau sylweddol o bob un o'r pedair gwlad," meddai'r datganiad.

"Os ydym am osgoi marwolaethau ychwanegol sylweddol a phwysau eithriadol ar y GIG, a gwasanaethau iechyd eraill, dros yr hydref a'r gaeaf mae'n rhaid i bawb ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb yn gywir a golchi eu dwylo'n rheolaidd."

'Rhaid osgoi clo cenedlaethol'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cyfyngiadau lleol, dywedodd llefarydd yr wrthblaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies AS: "Rhaid i weinidogion a llywodraethau wneud popeth posibl i osgoi cyfnod clo cenedlaethol arall gan y byddai'r effeithiau iechyd cyhoeddus ac economaidd yn drychinebus.

"Mae angen i ni weld cyfnodau clo craff, hynod o leol, yn seiliedig ar ddata cywir a manwl, ac ailddechrau cysgodi'r henoed a'r bregus.

"Mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan trwy gadw at bellhau cymdeithasol, masgiau a hylendid dwylo, ac mae angen i ni weld ymgyrch wybodaeth gyhoeddus gref gan Lywodraeth Cymru i anfon y neges hon adref."

Yn gynharach ddydd Llun dywedodd Vaughan Gething nad oedd cyfnod clo cenedlaethol arall ar hyd Cymru "ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib."

Daeth ei sylwadau yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth y DU am gyfyngiadau llymach i ddod yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 ym mhedair cenedl y DU.

image captionSyr Patrick Vallance a Dr Chris Whitty yn ystod y gynhadledd arbennig ar goronafeirws ddydd Llun

Fe allwn ni weld 50,000 o achosion y dydd erbyn canol mis Hydref os nad oes mwy o fesurau yn cael eu cyhoeddi, yn ôl gwyddonwyr sydd yn cynghori Llywodraeth Prydain.

Mewn cynhadledd coronfeirws arbennig fore dydd Llun, dywedodd Syr Patrick Vallance a Dr Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth y DU, bod y feirws yn dyblu pob saith diwrnod ar hyn o bryd, ac os nad ydy'r pandemig yn newid cyfeiriad, mi fyddwn mewn "sefyllfa anodd".

Yn ôl Syr Patrick Vallance, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU "fe allai hynny olygu 200 o farwolaethau pob dydd erbyn mis Tachwedd".

Rhybuddiodd fod y DU ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig "ac rydym yn teithio i'r cyfeiriad anghywir".

Dywedodd Dr Chris Whitty bod y "tymhorau yn ein herbyn" wrth i ni wynebu'r hydref a'r gaeaf, gan ychwanegu y dylen ni ystyried hyn yn "broblem am chwe mis y mae'n rhaid i pob un ohonom gymryd o ddifri."

"Os nad ydym ym gwneud digon ac mae'r feirws yn mynd allan o reolaeth, mi fydd 'na nifer sylweddol o farwolaethau uniongyrchol ac anuniongyrchol, ond os rydym yn mynd rhy bell i'r cyfeiriad arall, mi allwn ni wneud niwed i'r economi fydd yn achosi mwy o ddiweithdra a thlodi - a gall hyn greu problemau iechyd yn yr hir dymor.

"Mae'n rhaid i ni gadw'r ddwy ochor mewn golwg," meddai Dr Whitty.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Gething: Ail gyfnod clo cenedlaethol 'ddim ar fin digwydd'