BBC Cymru Fyw

Cwpan Her Ewrop: Toulon 11 - 6 Scarlets

Published
image copyrightLluniau Huw Evans
image captionLeigh Halfpenny sicrhaodd holl bwyntiau'r Scarlets, ond bu'n rhaid iddo gael asesiad wedi'r gem ar ôl derbyn cnoc i'w ben

Colli oedd hanes y Scarlets yn erbyn Toulon oddi-cartref yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop. 

11 i 6  oedd y sgôr terfynol ar ôl gem rwystredig i dim Glen Delaney.

Leigh Halfpenny giciodd holl bwyntiau'r Scarlets yn erbyn ei gyn dim gan roi'r ymwelwyr ar y blaen ar yr hanner.

Ond profodd cais Sergio Parisse y gwahaniaeth wrth i Toulon ddod o'r tu ôl

Roedd dwy gic gosb Leigh Halfpenny wedi rhoi'r Cymry ar y blaen hanner amser.

Buan yn yr ail hanner fe sicrhaodd Louis Carbonel marciau cyfatebol diolch i ddwy gic gosb.

Ac roedd y maswr yn allweddol yn y symudiad a enillodd y gem i'r Ffrancwyr, wrth iddo gymryd y gic yn gyflym gan basio at wythwr yr Eidal, Parisse, a groesodd i ennill y gem.

Does na'r un rhanbarth o Gymru ar ôl yn y gystadleuaeth ar ôl i'r Dreigiau golli yn erbyn Bryste nos Wener. 

Pynciau Cysylltiedig

  • Scarlets
  • Rygbi