BBC Cymru Fyw

Cynnydd mewn trais yng Ngharchar Berwyn Wrecsam

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae Carchar Berwyn yn un o'r carchardai mwyaf yn y DU
Fe welodd carchar mwyaf Cymru gynnydd mewn trais yn y flwyddyn ddiwethaf, er i gyfraddau ostwng mewn carchardai eraill.
Fe wnaeth ymosodiadau ar garcharorion yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam gynyddu 143% i 561 o ddigwyddiadau, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Bu cynnydd o chwarter yn yr ymosodiadau ar staff hefyd, gyda mwy o enghreifftiau o hynny yng Ngharchar Berwyn - 257 - na'r cyfanswm yn holl garchardai eraill Cymru.
Dywedodd awdur yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Dr Robert Jones ei fod yn codi "pryderon pellach ynglŷn â pherfformiad carchar mwyaf newydd Cymru".

70% o'r tu allan i Gymru

Fe agorodd y carchar gwerth £250m ym mis Chwefror 2017, ac mae ganddo'r capasiti i gartrefu 2,100 o garcharorion.
Erbyn diwedd 2019 roedd y carchar yn gartref i 1,774 o garcharorion Categori C - y rhai sy'n peri'r risg lleiaf.
Mae gwybodaeth o geisiadau rhyddid gwybodaeth, ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chwestiynau Seneddol wedi datgelu bod tua 70% o'r carcharorion yno yn dod o'r tu allan i Gymru.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ddarganfod bod nifer y carcharorion yno wedi cynyddu 18% dros y flwyddyn dan sylw.

11 wedi'u cymryd yn wystl

Yn ogystal â bod y sefydliad sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn ymosodiadau, Carchar Berwyn sydd hefyd â'r gyfradd uchaf o drais yng Nghymru.
Roedd 39 o ddigwyddiadau ar gyfer pob 100 carcharor yn Berwyn yn 2019, 35 ar gyfer pob 100 yng ngharchar Parc ym Mhen-y-bont, 25 yng Nghaerdydd ac 20 yn Abertawe.
Dim ond tair enghraifft o drais ar gyfer pob 100 carcharor oedd yng Ngharchar Prescoed a Brynbuga yn Sir Fynwy.
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ddatgelu mai yng Ngharchar Berwyn y cafodd y mwyaf o bobl eu cymryd yn wystl, gydag 11 o'r 14 digwyddiad yng Nghymru y flwyddyn honno yn Wrecsam.
image copyrightGetty Images
image captionMae gan Carchar Berwyn y capasiti i gartrefu 2,100 o garcharorion.
Yn Berwyn y cafodd y mwyaf o arfau eu cymryd oddi ar garcharorion hefyd - bron i hanner y 572 o arfau gafodd eu canfod yng ngharchardai Cymru.
"Ar gyfartaledd gafodd pum arf eu canfod pob wythnos yn Berwyn y llynedd," meddai Dr Jones.
Mae nifer yr arfau sy'n cael eu canfod yn holl garchardai Cymru wedi bod ar gynnydd dros y tair blynedd ddiwethaf, a gwelwyd cynnydd o draean yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni.
Er y cynnydd, mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn nodi nad ydy arolygwyr carchardai wedi gwneud "unrhyw sylw o raddfa'r broblem".

Cynnydd mawr mewn hunan anafu

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu cynnydd pryderus yn nifer yr enghreifftiau o bobl sy'n hunan anafu yng Ngharchar Berwyn.
Ar draws carchardai Cymru mae nifer yr achosion o hunan anafu wedi gostwng 2% yn y flwyddyn ddiwethaf, ond mae un eithriad amlwg.
Yn Berwyn fe wnaeth achosion o'r fath gynyddu 84% o 551 i 1,015 dros yr un cyfnod.
"Ar adeg pan fo nifer yr enghreifftiau o hunan anafu, ymosodiadau rhwng carcharorion ac ymosodiadau ar staff wedi gostwng ar draws ystâd carchardai Cymru, mae Berwyn wedi mynd yn erbyn y tueddiadau hynny gyda chynnydd ym mhob ardal," meddai Dr Jones.

'Carchar cythryblus iawn'

Dywedodd Andrew Neilson o grŵp ymgyrchu Cynghrair Howard bod "Berwyn yn garchar cythryblus iawn".
"Dyma'n amlwg garchar sydd dan lawer o straen, ac mae hynny'n dangos yn y ffigyrau trais a hunan anafu," meddai.
"Mae hyn oll yn dangos bod adeiladu'r carchardai mawr yma yn gamgymeriad."
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod ymosodiadau mewn carchardai wedi gostwng 8% ar draws y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020.
"Mae mesurau diogelwch llymach yn ei gwneud yn anoddach nag erioed i ddod â chyffuriau i mewn i garchardai ac mae hyn yn un o'r rhesymau bod ymosodiadau wedi gostwng 8% yn y flwyddyn ddiwethaf," meddai llefarydd.

'Condemniad damniol'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder a chydraddoldeb, Leanne Wood AS bod yr adroddiad yn "gondemniad damniol o'r ffordd wael y mae Cymru'n cael ei thrin gan y system gyfiawnder a redir gan San Steffan".
"Mae'n dangos fod gennym gyfraddau carcharu uwch a dedfrydau hwy na rhai yn Lloegr.
"Profwyd hefyd fod ein poblogaeth DLlE yn dioddef yn waeth yn y system gyfiawnder yn ôl nifer o ystadegau.
"Os ydym am roi terfyn ar hiliaeth a chamwahaniaethu, rhaid i hyn ddigwydd ym mhobman."

Straeon perthnasol

  • 'Angen llacio cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai'