Morgannwg a Sir Warwick yn gyfartal yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Chwaraeodd Ian Bell ei gêm olaf i Sir Warwick yn erbyn Morgannwg ddydd Mawrth

Cyfartal oedd y gêm rhwng Morgannwg a Sir Warwick yn Nhlws Bob Willis ar ôl fatwyr Morgannwg lwyddo i ddal ymlaen.

331 oedd targed y Cymry yng Nghaerdydd ac fe gawson nhw ddechrau da cyn i Joe Cooke ac Owen Morgan golli eu wicedi i beli olynol.

Nick Selman oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 73 ond nid oedd yn ddigon i arwain Morgannwg i'r fuddugoliaeth.

Yn y diwedd fe wnaeth Timm van der Gugten a Michael Hogan yn dda i aros i mewn tan ddiwedd y batiad a sicrhau'r gêm gyfartal.

Mae'r canlyniad yn golygu nad oes yr un o'r ddau dîm wedi cael buddugoliaeth yn y grŵp.

Pynciau Cysylltiedig