BBC Cymru Fyw

300 mlynedd o dwristiaeth ar yr Wyddfa

Published
image copyrightSSPL/Getty/BBC
image captionCopa'r Wyddfa tua 1880 ac yn 2016

Mae golygfeydd o bobl yn ciwio i gyrraedd copa'r Wyddfa wedi dod yn rywbeth cyffredin ers sawl blwyddyn, a'r niferoedd uchel a ddaeth i ddringo yn Eryri dros 'haf Covid' 2020 wedi creu tensiwn yn lleol.

Ond dydi gweld cannoedd o ymwelwyr yn heidio i Eryri ddim yn beth newydd.

Daw'r disgrifiadau cynharaf o ddringo'r Wyddfa gan fotanegwyr, gyda'r cofnod cyntaf gan Thomas Johnson yn 1639.

Bryd hynny, planhigion prin oedd yn cael eu casglu o'r llethrau a hynny gyda help y bobl leol - heddiw mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gasglu sbwriel sydd wedi ei adael ar y mynydd gan gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyflogi pobl leol

Dri chan mlynedd yn ôl roedd pobl leol yn cael eu cyflogi fel tywyswyr i ddangos lle roedd y planhigion i'r gwyddonwyr a'r casglwyr.

Mae'r actor Wyn Bowen Harries wedi gwneud llawer o ymchwil i'r hanes ar gyfer sioe lwyfan o'r enw Ar y Creigiau Geirwon roedd yn ei datblygu gyda chwmni drama Pendraw cyn i'r coronafeirws daro.

"Roedden nhw'n cyflogi pobl leol, pobl Llanberis fel arfer a Nant Peris hefyd, pobl fel John Hughes, Eleias Roberts a William Wiliams - Wil Boots, botanic guide - a gafodd y llys-enw am ei fod yn bootman mewn gwesty yn Llanberis. Roedd yn enwog iawn yn ei ddydd."

Roedd yna ferched hefyd "yn dringo mynyddoedd yn eu sgertiau mawr".

image copyrightStoriel
image captionDaeth William Williams - Wil Bŵts - yn adnabyddus fel tywysydd ar yr Wyddfa. Yn ôl yr hanes, byddai weithiau'n dringo i'r copa hyd at dair gwaith mewn diwrnod, tra byddai'r ymwelwyr yn teithio i ben y mynydd ar gefn ceffylau.

Fe fydden nhw'n dringo i'r llefydd rhyfeddaf i ffeindio'r planhigion ac yn defnyddio rhaffau i fynd i fyny ochrau clogwyni, meddai Wyn.

"Roedd rhain yn chwilio am fusnes gan yr holl bobl yma oedd yn dod yn eu cannoedd i Eryri - dydi o ddim yn beth newydd o gwbl bod pobl yn ymweld â'r mynyddoedd yma.

"Roedden nhw'n mynd i fyny a lawr yr Wyddfa tua tair neu bedair gwaith y dydd ac yn teithio 30 milltir ar draws yr holl fynyddoedd i bob man. Ond yr Wyddfa oedd y prif fan - roedd pawb eisiau mynd i ben yr Wyddfa, a does dim byd wedi newid heddiw.

"Roedd The Great Fern Collecting Crazy yn y 19eg ganrif, lle roedd pobl yn mynd i bob man er mwyn hel y planhigion prin yma jest er mwyn dangos eu bod nhw'n keeping up with the Joneses ac roedd hyn yn creu lot o broblemau, fod y planhigion prin yma'n diflannu yn sydyn.

image captionMae Wyn Bowen Harries yn gyfarwyddwr Cwmni Pendraw sy'n ceisio cyfuno theatr gyda hanes a gwyddoniaeth

"Ond roedden nhw'n hollol wallgo am hel y planhigion yma ac roedd pobl leol yn gwneud pres mawr allan o werthu'r rhain.

"Nhw [y bobl leol] oedd â'r wybodaeth i gludo pobl yn saff i fyny a lawr y mynyddoedd yma a hefyd nhw oedd yr unig bobl oedd â'r wybodaeth gynhenid o wybod lle roedd y planhigion prin 'ma."

Newid hinsawdd a cholli planhigion

Nod cwmni Pendraw yw cyflwyno sioeau hanesyddol gydag elfen wyddonol iddyn nhw.

"Yr elfen wyddonol sy'n perthyn i'r stori yma wrth gwrs ydy colled bioamrywiaeth a cholled planhigion prin ar y mynydd," meddai Wyn Bowen Harries.

"A'r eironi ydy bod pobl wedi dechrau dod i chwilio amdanyn nhw tua tair canrif yn ôl bellach a bod rhain yn prysur ddiflannu heddiw."

image captionMae pryder am ddyfodol Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina) wrth i'r hinsawdd gynhesu

Erbyn diwedd y 18fed Ganrif roedd casglu planhigion wedi dod mor boblogaidd nes bod rhai yn poeni y byddai rhywogaethau prin yn diflannu'n gyfan gwbl.

Fe ddigwyddodd hynny, ond "nid oherwydd bod pobl wedi bod yn eu casglu nhw dros y blynyddoedd" meddai Wyn Bowen Harries "ond oherwydd bod yr hinsawdd yn newid a'r planhigion prin Alpaidd yma, fel Lili'r Wyddfa - ddim yn gallu dioddef y gwres - maen nhw angen bod yn oer oer oer ar dopiau'r mynyddoedd yma."

Wrth i'r hinsawdd gynhesu mae pryder am ddyfodol y blodyn bach yma a gafodd ei ddarganfod gan y botanegydd o Gymro, Edward Llwyd. Yr Wyddfa yw'r unig le mae'n tyfu ym Mhrydain.

"Mae'n ryw fath o symbol o Eryri. Ond ydi o'n mynd i ddal i fod yno mewn ychydig o flynyddoedd?"

Cabanau

Rhai o'r enwau mawr fu yn Eryri yw Charles Darwin, George Borrow a Samuel Coleridge, ac wedyn dechreuodd artistiaid a beirdd ddod hefyd i geisio canfod yr awen yn y golygfeydd hardd.

"Roedd y bobl yma yn heidio yma ar un cyfnod ac wrth gwrs roedd hyn yn creu mwy a mwy o waith i bobl leol.

"Roedden nhw hefyd wedi dechrau adeiladu cabanau ar ben yr Wyddfa er mwyn gwerthu diodydd a bwyd a hyd yn oed cynnig gwely a brecwast gan ei bod yn ffasiynol iawn i fynd i fyny i ben y Wyddfa i weld y wawr yn torri.

image copyrightLlyfrgell Genedlaethol Cymru
image captionDarlun o'r copa, tua 1865 - byddai pobl leol yn gwerthu bwyd, diod a chofroddion i ymwelwyr o'r cabanau

"Roedden nhw'n adeiladu cabanau reit yn agos at gopa'r Wyddfa - roedd na ryw fath o gystadleuaeth rhyngddyn nhw pwy oedd â'r caban mwyaf, y caban gorau... fe fydden nhw'n arwain pobl i fyny ac yn creu busnes arall i werthu pethau."

Tywysydd arall adnabyddus yn yr 19eg Ganrif oedd Moses Williams; mae Allt Moses yn enw ar ran o un o lwybrau'r Wyddfa.

Fe fyddai llawer o'r ymwelwyr cefnog yn synnu at dlodi'r ardal ac yn mwynhau cael eu difyrru gan bobl leol oedd yn canu'r delyn iddyn nhw ac yn dweud straeon arswyd neu adrodd chwedlau lleol.

Erbyn y 18fed a'r 19eg Ganrif daeth y chwareli â gwaith i nifer. Ond gyda'r chwareli bellach wedi cau mae'r rhod wedi troi unwaith eto a'r ardal yn pwyso'n drwm ar dwristiaeth.

Er fod Ar y Creigiau Geirwon wedi ei gohirio ar hyn o bryd mae cynlluniau newydd i gyflwyno'r sioe yn Pontio, Bangor, fis Mai 2021.

Hefyd o ddidordeb: