BBC Cymru Fyw

Pa mor ddibynnol yw Cymru ar ymwelwyr?

Published

Mae Covid-19 wedi gwneud twristiaeth yn bwnc llosg yng Nghymru wrth i gwestiynau gael eu codi am bris y diwydiant ymwelwyr.

Ar un llaw, mae'r llif o ymwelwyr sydd wedi dod i chwilio am hoe wedi'r cyfnod clo hir wedi arwain at gwynion am barcio, traffig, diffyg parch gyda sbwriel a gwastraff yn cael eu gadael mewn llefydd cyhoeddus, diffyg cadw pellter cymdeithasol a phryderon am gymunedau'n cael eu prisio o'r farchnad dai wrth i ddiddordeb mewn tai gwyliau godi.

Ar y llaw arall, mae yna fusnesau a chymunedau sy'n ddibynnol ar incwm misoedd yr haf i oroesi'r gaeaf.

Fe ofynnon ni i Dr Edward Jones sy'n darlithio mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor a yw'r pryderon am orddibyniaeth yn ddilys ac a oes yna gamau y gellid eu cymryd?

image captionDr Edward Jones

Mae cyfran y gweithlu yng Nghymru sy'n gweithio yn y sector twristiaeth a hamdden tua 10% meddai Dr Jones.

Mae'r ffigwr hwnnw wedi bod yn sefydlog ers 2015 ac yn debyg i'r ganran ar gyfer y Deyrnas Gyfunol yn ei gyfanrwydd.

Ond mae yna siroedd yng Nghymru lle mae cyfran y gweithlu sy'n gweithio yn y sector twristiaeth a hamdden yn sylweddol uwch, meddai Dr Jones.

Yn 2018, yn ôl data Nomis (data sector llafur yr ONS), y rhain oedd:

Conwy (18%), Penfro (18%), Gwynedd (15%), Ynys Môn (14%), Ceredigion (13%).

image copyrightRichard Hoare/Geograph
image captionMae 18% o weithlu Sir Conwy yn gweithio yn y sector dwristiaeth a hamdden

"Dwi'n gallu deall y pwyntiaua'r pryderon mae rhai pobl yn godi ynglŷn ag ymwelwyr yn dod yma a'n bod ni wedi mynd yn or-ddibynnol arnyn nhw. Ond y ffaith ydy mewn rhai siroedd mae yna lot o swyddi yn dibynnu ar yr ymwelwyr ac os nad ydyn nhw'n dŵad, yna mae'na risg i swyddi yn y sector twristiaeth ac y bysai'n cael effaith negyddol ar yr economi lleol," meddai Dr Edward Jones.

"Felly yn anffodus y sefyllfa rydyn ni ynddo ar hyn o bryd yw ein bod ni yn ddibynnol ar ymwelwyr o safbwynt economaidd. Yn enwedig mewn rhai siroedd."

Mae tua un o bob deg yng Nghymru felly yn gweithio yn y sector twristiaeth a hamdden ond mae'r ffigwr yn nes at un o bob pump yng Nghonwy.

"O ystyried wysigrwydd twristiaeth i'r pum sir hyn, nid oedd syndod eu gweld hefyd gyda chanran uchaf o'r rhai sy'n hawlio cefnogaeth yn ystod y pandemig a'r locdown."

image captionYmwelwyr yn mwynhau'r haul yn Abersoch yn gynharach ym mis Awst

"Mae'n gydbwysedd anodd ei gael rhwng yr angen i ddiogelu'r gwaith sy'n ddibynnol ar dwristiaeth, tra hefyd yn ystyried unrhyw faterion cymdeithasol niweidiol a allai ddod o weithgareddau twristiaeth.

"Os nad yw'r ymwelwyr yn dŵad mae hynna'n mynd i greu problemau economaidd, yn enwedig mewn rhai siroedd, ond mae angen i awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth yr effaith negyddol mae twristiaeth yn gallu ei gael .

"Mae'n rhaid i bolisïau cael eu datblygu i daclo'r problemau yna a ffeindio'r balans rhwng cefnogi'r sector twristiaeth a'i hybu i dyfu ac eto yn edrych ar ôl ein cymunedau lleol."

Beth am y syniad o godi treth ar dwristiaid? Yn ôl Dr Jones mae gan Lywodraeth Cymru gyda'r gallu i wneud hyn.

"Mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill a dwi'n meddwl base'n rhaid inni feddwl pa effaith fysa'r math yna o dreth yn ei gael ar ymwelwyr.

"Rydyn ni'n ffodus yng Nghymru fod gennym ni'r Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu yn 2017 i gasglu trethi sydd wedi eu datganoli. Mae'n bosib y bysan nhw'n gallu datblygu'r mecanwaith a'r gweithredoedd i gasglu treth ar dwristiaid.

"Felly dwi'n meddwl bod yr isadeiledd gennym ni yma yng Nghymru i gael treth twristiaeth os ydan ni'n penderfynu gwneud hynny.

"Y cwestiwn wedyn ydi pa lefel fysan ni'n gosod y dreth yna. Dydan ni ddim eisiau ei osod ar lefel lle mae ymwelwyr yn penderfynu nad ydyn nhw'n mynd i ddŵad oherwydd mae hynna yn mynd i gael effaith negyddol ar y diwydiant.

"Mae tipyn o waith i'w wneud i wybod ar ba lefel fysan ni'n gosod treth o'r fath i wneud yn siŵr fod ymwelwyr dal i ddwad yma, ac eto ein bod ni'n cael y refeniw i offsetio'r effaith negyddol. Dyna'r her."

Mae Dr Jones yn credu bod yn rhaid inni ddechrau meddwl am y diwydiant twristiaeth mewn ffordd mwy soffistigedig, llai syml, a bod yn rhaid inni adnabod pwysigrwydd y sector.

"Sut allwn ni gael y mwyaf allan o'r sector? Mae yna waith anodd o'n blaenau i benderfynu hynny."

image copyrightOutwest Photo

Gorddibyniaeth

Ar ddechrau'r haf, siaradodd Cymru Fyw gyda dau oedd yn gwneud eu gorau i addasu eu busnes er mwyn ymdopi â'r diffyg twristiaid.

"Mae'n gneud synnwyr i unrhyw fusnes, dim ots pa sector maen nhw ynddo, i beidio mynd yn orddibynnol ar un farchnad.

"Mewn llefydd fel Conwy a Phenfro, dyna'r siroedd rydyn ni wedi gweld yr achosion mwyaf o bobl yn mynd ar furlough ac yn dangos pa mor ddibynnol mae'r siroedd yna ar y sector twristiaeth.

"Mae'n neud synnwyr i'r rhai sy'n cynllunio polisïau economaidd i'r ardaloedd hyn drio cael cymysgedd o sectorau yn yr ardal - ond mae hynny'n rhywbeth sy'n haws dweud na gwneud."

Ond, rhaid cofio hefyd meddai Dr Jones mai ein hamgylchedd naturiol ydy un o'n manteision, a'r hyn sy'n gwneud llawer o'n hardaloedd yn arbennig. Byddai troi cefn ar hynny, hyd yn oed pe bydden ni'n gallu, yn gamgymeriad ym marn Dr Jones.

Mae Ynys Môn yn enghraifft dda meddai o sir lle mae 'na lawer o weithgaredd mewn sectorau, gan gynnwys prosiectau ynni, gweithgynhyrchu, gwasanaethau, cwmnïau canolfan M-SParc a llawer yn gweithio mewn amaeth.

"Ac eto, os ydan ni'n meddwl be ydi'r pwynt gwerthu unigryw'r ynys, rhai o'r pethau ydy'r amgylchedd naturiol, y golygfeydd a'r llefydd ar yr ynys mae pobl wrth eu bodd yn mynd i'w gweld: mae yna fantais naturiol ac maen rhai inni neud yn siŵr ein bod ni'n cael y mwya' allan o hynna.

"Beth ydan ni angen ydi polisïau sy'n mynd i ddarganfod cydbwysedd rhwng cael yr ymwelwyr a rhannau eraill o'r economi a chymdeithas.

"Mae rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y mwyaf allan o beth sydd ganddon ni i'w gynnig."

Ond sut mae diogelu'r gymuned leol mewn llefydd fel Abersoch yng Ngwynedd a Rhosneigr ar Ynys Môn lle mae tai gwyliau wedi disodli cartrefi lleol ?

"Dyna enghraifft lle mae'n rhaid i'r llywodraeth leol gael y pŵer i gael polisïau i drio lleddfu'r effaith yna. Mae cael y brig yna yn Abersoch yn yr haf, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol feddwl sut allant leihau'r brig yna yn ystod yr haf a hefyd be sydd angen ei wneud i leddfu'r cyflwr yn ystod y gaeaf."

Effaith ar y Gymraeg

Tra bod y problemau hyn yn gyffredin i ardaloedd twristiaeth y DG i gyd, gan gynnwys Cernyw, Ardal y Llynnoedd a threfi gwyliau arfordir de Lloegr, mae pryder ychwanegol yng Nghymru gan fod y siroedd sydd â'r ganran uchaf o'r gweithlu yn gweithio ym maes twristiaeth a hamdden yn cynnwys cymunedau traddodiadol y Gymraeg.

"Be sy'n ddiddorol am y siroedd yna ydy faint o bobl sy'n siarad Cymraeg ynddyn nhw, a dyna pam mae'n bwysig i gael y cydbwysedd rhwng gwneud yn siŵr fod y sector yn llwyddo ond eto ein bod ni'n gallu lleddfu unrhyw effaith negyddol mae twristiaeth yn ei gael ar bobl yn yr ardaloedd yna."

Dywed Dr Jones fod sgyrsiau am ddatblygu'r diwydiant yn fwy proffesiynol, sy'n cael ei ystyried fel opsiwn mwy cadarn fel gyrfa i bobl ifanc wedi dechrau cyn i Covid-19 gyrraedd, ond mae dyfodiad y firws wedi cael effaith fawr ar hynny.

"Yn anffodus mae Covid-19 wedi rhoi effaith negyddol enfawr ar y sector. Mae'n rhaid inni feddwl sut ydan ni am symud y sector yn ei flaen.

"Be sy'n bwysig ydy ein bod ni'n cael y drafodaeth am y sector ac yn gyntaf oll, adnabod pa mor bwysig ydy'r sector mewn creu swyddi yn rhai ardaloedd. Dydan ni ddim eisiau colli hynna ac eto rydan ni eisiau gwneud yn siŵr nad ydan ni mewn sefyllfa lle dydan ni ddim yn cael y budd economaidd llawn ."

image captionCafwyd golygfeydd yn Eryri yn ddiweddar ble roedd cannoedd o geir wedi parcio ar ochr y ffordd

Beth nesaf?

Mae'r coronafeirws wedi rhoi'r DU mewn dirwasgiad am y tro cyntaf ers 2009 a chreu argyfwng i'r banciau.

"Mae disgwyl y bydd y dirywiad economaidd, a allai bara am amser hir eto, yn cael effaith andwyol ar dwristiaeth yng Nghymru," meddai Dr Jones. Ond mae posibilrwydd y gallai helpu i raddau.

"Fel arfer beth sy'n digwydd mewn dirywiad economaidd ydy bod gan bobl lai o arian a ddim yn dueddol o fynd ar wyliau mor aml, neu os ydyn nhw'n mynd ar wyliau, dydyn nhw'n sicr ddim yn gwario cymaint o arian.

"Byddai hynny'n cael effaith negyddol ar y sector.

"Ond mae hwn yn greisis economaidd ychydig yn wahanol oherwydd Covid-19, felly os ydy pobl ddim mor barod i deithio dramor ar eu gwyliau, ella fyddan nhw'n meddwl dod yma i Gymru am wyliau a bydd hynna yn rhyw fath o hwb i'r diwydiant yma.

"Mae'n iawn deud ein bod ni mewn recession, yn dechnegol, rŵan mi fydd na phroblemau economaidd yn sicr am weddill y flwyddyn ond os ydy ein profiad ni o 'Financial crisis 2007-2008' rywbeth i fynd efo mi fydd yna broblemau economaidd am beth amser.

"Mi allai hyn chwarae allan unrhyw ffordd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig

  • Twristiaeth