BBC Cymru Fyw

Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru

Published
image copyrightNurPhoto

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2019.

Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru'r llynedd:

Enwau merched (a'r nifer)

1. Mali (92)

2. Erin (78)

3. Ffion (70)

4. Alys (62)

5. Seren (57)

6. Eira (38)

7. Cadi (37)

8. Lowri (37)

9. Nia (39)

10. Lili (34)

Olivia oedd yr enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru ar y cyfan y llynedd, gyda 215 Olivia wedi ei geni, yna Amelia (165), Isla (149), ac Ava (140).

Yn cwblhau y rhestr o'r 10 enw merched mwya' poblogaidd yng Nghymru oedd Freya (134), Willow (134), Mia (131), Ella (130), Rosie (122) ac Elsie (118).

image copyrightBSIP
image captionOliver ac Oliva yw'r enwau mwyaf poblogaidd i blant Cymru dros y flwyddyn diwethaf

Enwau bechgyn (a'r nifer)

1. Arthur (168)

2. Osian (130)

3. Dylan (116)

4. Elis (113)

5. Harri (111)

6. Tomos (80)

7. Jac (69)

8. Macsen (62)

9. Evan (58)

10. Owen (46)

O'r holl enwau i fechgyn yng Nghymru yn 2019, Oliver oedd yr enw mwyaf poblogaidd (267 ohonynt).

Yn ail ar y rhestr mae Noah (239), yna Charlie (211) a Jacob (211). Yn bumed ar y rhestr mae Theo (183), George (182), Leo (169), Arthur (168), Oscar (158) ac yn cwblhau y 10 uchaf mae Alfie (157).

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig

  • Teulu
  • Diwylliant Cymru