BBC Cymru Fyw

Galw am dwristiaeth 'gynaliadwy' i Gymru yn y dyfodol

Published
image captionYmwelwyr yn mwynhau'r haul yn Abersoch ddydd Sul

Mae angen meddwl am sut i wneud twristiaeth yng ngogledd Cymru'n fwy "cynaliadwy" yn y dyfodol, yn ôl un Aelod Seneddol.

Daeth sylwadau Hywel Williams yn dilyn rhagor o brysurdeb dros y penwythnos yn rhai o gyrchfannau poblogaidd yr ardal, gydag ymwelwyr yn dod i fwynhau'r tywydd braf.

Dywedodd AS Arfon ei fod yn pryderu y gallai hynny "ddadwneud" gwaith da pobl leol dros y misoedd diwethaf o gadw lefelau Covid-19 yn gymharol isel.

Ychwanegodd Darren Millar, sy'n cynrychioli Gorllewin Clwyd yn Senedd Cymru, fod "pryder" ymhlith rhai ond bod hefyd angen gadael i fusnesau wneud y mwyaf o'r hyn sy'n weddill o dymor yr haf.

'Angen y cydbwysedd'

Fore Sadwrn bu'n rhaid i Heddlu'r Gogledd rybuddio pobl i geisio osgoi Abersoch oherwydd maint y traffig oedd yn mynd i gyfeiriad y traeth yno, tra bod trefi eraill yn y gogledd hefyd wedi gweld pethau'n prysuro.

Ar draws y DU ddydd Sadwrn cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i 340 digwyddiad - 41 o'r rheiny yng Nghymru - gan gynnwys un bachgen gafodd ei gludo i'r ysbyty ar ôl mynd i drafferthion ym Morfa Nefyn.

Dywedodd Hywel Williams fod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi achosi "problemau mawr ar lefel leol", gyda llefydd fel Abersoch a Bermo yn gorfod "ymdopi efo tua 10 gwaith mwy o bobl o gwmpas".

"Er enghraifft ddoe, fe ddywedodd un o gynghorwyr Pwllheli wrth bobl leol jyst i beidio dod i mewn i'r dref gan fod y siopau a'r strydoedd cul mor llawn... fel bod cadw pellter cymdeithasol yn amhosib," meddai AS Plaid Cymru ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

image captionYmwelwyr yn mwynhau ar draeth Benllech ar Ynys Môn ddydd Sadwrn

"Beth sy'n fy mhoeni i fwy ydy nad ydyn nhw wedi meddwl drwy'r cyfnod clo newydd yng ngogledd orllewin Lloegr yn iawn.

"Cafodd hwnnw ei gyhoeddi'n sydyn, a cyn belled a dwi'n ei wybod, doedd dim cyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU am beth ddylai pobl wneud ynghylch teithio i ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Cymru."

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar ei bod hi o'n yn naturiol fod pobl "sydd wedi bod yn gaeth i'r tŷ ers misoedd" eisiau dod i fwynhau atyniadau gogledd Cymru yn y tywydd braf unwaith y daeth y cyfle.

image captionCafwyd golygfeydd yn Eryri yn ddiweddar ble roedd cannoedd o geir wedi parcio ar ochr y ffordd

"Mae 'na rywfaint o bryder ymhlith y boblogaeth leol am effaith hynny ar ymlediad coronafeirws," meddai.

"Ond mae 'na hefyd bryder, os nad ydyn ni'n gwneud y mwyaf o weddill y tymor, y bydd nifer o swyddi yn y fantol.

"Felly mae angen cael y cydbwysedd yna rhwng diogelwch a sicrhau bod yr economi dal yn gallu adfer o sioc fawr y cyfnod clo."

'Peryg dadwneud y gwaith da'

Yn ôl Mr Millar, dylai'r heddlu ac awdurdodau lleol gymryd mwy o'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod pobl yn cadw at bellter cymdeithasol a rheolau Covid-19.

"Mae 'na deimlad bod rhai ddim mor effeithiol wrth reoli eu hatyniadau twristaidd fel caffis a bwytai ag y dylen nhw fod," meddai.

"Ond mae'n anodd herio pobl pan mae gyda chi cymaint ohonyn nhw'n dod i'ch lleoliad."

Ychwanegodd nad oedd yn credu mai cyfyngu ar ryddid pobl i deithio eto oedd yr ateb.

image captionMae nifer o wersylloedd a pharciau carafanio wedi prysuro dros yr wythnosau diwethaf

"Rhaid i ni gofio bod llawer o bobl o ogledd Cymru hefyd yn hoffi ymweld â'r llefydd yma," meddai.

"Dwi'n meddwl os 'dyn ni'n dechrau dweud nad ydyn ni eisiau i chi adael eich cymuned os oes 'na dwf wedi bod yn nifer yr achosion, wedyn rydych chi'n cael effaith fawr ar les ac iechyd meddwl pobl."

Ond yn ôl Hywel Williams mae cwestiynau o hyd ynghylch sut i ymdopi â thwristiaid yn y tymor byr a'r tymor hir.

"Dwi'n gwybod fod pobl yr ardal yma wedi bod yn cadw at y rheolau, ac mae peryg fod yr holl waith da yna'n cael ei ddadwneud," meddai.

Ychwanegodd: "Bydd rhaid i ni feddwl am beth mae twristiaeth gynaliadwy yn edrych fel yn y dyfodol, yn enwedig yn Eryri."

Pynciau Cysylltiedig

  • Teithio
  • Twristiaeth

Straeon perthnasol

  • 'Anodd ymdopi' gyda nifer yr ymwelwyr â rhannau o Gymru