BBC Cymru Fyw

Covid-19 yn effeithio ar y Gymraeg, medd y Comisiynydd

Published
image captionGall methu cynnal gwyliau fel Tafwyl fod yn andwyol i'r iaith, medd Aled Roberts
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn galw ar Senedd Cymru i gynnal ymchwiliad penodol i effaith Covid-19 ar yr iaith Gymraeg.
Mae Aled Roberts yn dweud fod yr argyfwng wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar yr iaith - yn gymdeithasol, diwylliannol ac yn economaidd.
Mae hefyd yn poeni y gallai'r pandemig gael effaith ar y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y pandemig wedi effeithio ar bob agwedd o'n bywydau a bod Gweinidog yr Iaith Gymraeg wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn dal i allu dysgu Cymraeg a chael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

'Angen cefnogaeth tymor hir'

Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Aled Roberts bod dyfodol y Gymraeg yn "dibynnu ar ddigwyddiadau pwysig fel eisteddfodau".
"Er bo' ni'n nodi y gefnogaeth sydd wedi cael ei rhoi gan y llywodraeth 'dan ni'n teimlo bod hynny'n gefnogaeth tymor byr a bod angen llawer mwy o bwyslais wrth i ni symud ymlaen.
  • Pryder bod rhieni di-Gymraeg yn troi at addysg Saesneg
  • Dysgu Cymraeg arlein yn fwy poblogaidd nag erioed
  • Gohirio Eisteddfod Tregaron am flwyddyn
"Beth sy'n eich taro chi hefyd yw bod gohirio Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn benodol yn cael effaith andwyol ar gyflenwyr sy'n dibynnu llawer ar yr incwm sy'n cael ei godi yn ystod y gwyliau yma.
"O ran y celfyddydau roedd nifer o theatrau a chwmnïau wedi cynllunio am doriad o dri mis ond erbyn hyn ry'n yn sôn am naw mis neu flwyddyn a felly dwi'n meddwl bod angen sylw penodol i beth sy'n digwydd yn y tymor canolig a'r tymor hir," ychwanegodd.
image copyrightMenter Caerdydd
image captionMae Menter Caerdydd fel arfer yn cynnal clybiau plant dros yr haf, ond does dim eleni oherwydd Covid-19
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn rhoi £53m o gefnogaeth i'r sector celfyddydau a diwylliant.
Wrth alw am ymchwiliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ychwanegodd Mr Roberts: "Os ydyn nhw wirioneddol o ddifri' am strategaeth 2050 y cwbl 'da ni'n gofyn amdano fo ydy bod sylw dyledus yn cael ei roi i'r iaith Gymraeg - 'dan ni yn cydnabod yr arian sydd eisoes wedi ei roi ond mae angen cefnogaeth yn y tymor hir a chanolig - heb hynny mae na ofnau na fydd rhai gwyliau yn goroesi.
"Fe fyddwn ni'n symud cyn hir at y cyfnod lle bydd maniffestos yn cael eu creu ar gyfer etholiadau'r cynulliad - mae angen sicrhau bod gwleidyddion yn gwireddu rhai o'r addewidion yma.
"Rhaid sylweddoli'r effaith ar yr iaith Gymraeg ym mhob maes."
Ychwanegodd y Comisiynydd ei fod yn hynod o falch bod mwy o bobl wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ar-lein ond bod yn rhaid sicrhau fod y bobl yma yn parhau i ddysgu'r Gymraeg fel eu bod yn rhugl ac yn cyflawni nod 2050.

'Angen darlun holistaidd'

Yn ôl Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith mae angen ymchwiliad cynhwysfawr i effaith Covid ar y Gymraeg.
"Mae angen i'r llywodraeth fynd i'r afael â'r darlun cynhwysfawr - dim ond drwy wneud hynny y gellir gweld beth yw'r bygythiadau a'r cyfleon sydd wedi dod yn sgil Covid.
"Rhaid pwyso ar wleidyddion i gymryd golwg holistaidd ar yr iaith - rhaid sicrhau bod y Gymraeg ynghanol polisi cyhoeddus. Rhaid ystyried y Gymraeg ar draws yr holl sectorau a meysydd polisi."

'Parhau i drafod'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y pandemig "wedi effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau ni, gan gynnwys yr iaith Gymraeg".
"Mae Gweinidog yr Iaith Gymraeg wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn dal i allu dysgu Cymraeg a chael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, dathlu ein diwylliant a'n treftadaeth gyfoethog, cyrraedd un miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy ein strategaeth Cymraeg 2050 a chefnogi'r sector ym mhob ffordd gallwn ni.
"Mae Gweinidog yr Iaith Gymraeg yn parhau i gael trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn rheolaidd."

Straeon perthnasol

  • Cwrs dysgu Cymraeg dros y we yn profi'n boblogaidd