BBC Cymru Fyw

Ymestyn y cyfnod hunan ynysu gyda Covid-19 i 10 diwrnod

Published
image copyrightGetty Images
Mae'r cyfnod sydd yn rhaid i bobl hunan ynysu os oes ganddyn nhw symptomau coronafeirws bellach wedi cael ei ymestyn o saith diwrnod i 10.
Daeth y datganiad ar y cyd gan swyddogion meddygol gwledydd y DU wrth i'r awdurdodau geisio atal ail don o'r feirws rhag taro.
Pwysleisiodd Dr Frank Atherton - prif swyddogol meddygol Cymru - "na ddylai neb fod dan unrhyw amheuaeth fod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd".
Tan nawr, cyngor Llywodraeth Cymru oedd i bobl hunan ynysu adref a threfnu i gael prawf Covid-19 os oedd ganddyn nhw unrhyw symptomau.
Mae'r rheiny'n cynnwys peswch cyson newydd, tymheredd uchel, neu eich bod chi'n colli'ch gallu i flasu neu arogli.

'Diogelwch ychwanegol i eraill'

Nawr y cyngor yw i beidio gadael y tŷ am o leiaf 10 diwrnod - a mwy na hynny os nad ydych chi wedi gwella eto.
Mae'n rhaid i unrhyw un sydd yn byw gyda nhw aros adref am gyfnod o 14 diwrnod - hyd yn oed os nad ydyn nhw'n sâl - er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r haint.
Mae'n rhaid i bobl hefyd hunan ynysu am 14 diwrnod os ydyn nhw wedi bod mewn gwledydd tramor, oni bai bod y rheiny ar y rhestr o eithriadau.
"Mewn pobl symptomatig, mae Covid-19 yn fwyaf heintus ychydig cyn i'r symptomau ddechrau, ac am y dyddiau cyntaf ar ôl hynny," meddai'r datganiad.
"Mae'n bwysig iawn bod pobl sydd â symptomau yn ynysu eu hunain ac yn cael prawf, a fydd yn caniatáu olrhain cyswllt.
image copyrightLlywodraeth Cymru
image captionFrank Atherton yw prif swyddog meddygol Cymru
"Mae tystiolaeth, er ei bod yn dal yn gyfyngedig, wedi cryfhau ac mae'n dangos bod gan bobl â Covid sydd â salwch ysgafn ac sy'n gwella bosibilrwydd isel ond real o fod yn heintus rhwng saith a naw diwrnod ar ôl i salwch ddechrau."
Dywedodd y prif swyddogion meddygol y byddai ymestyn y cyfnod hunan ynysu i 10 diwrnod felly yn "helpu i sicrhau diogelwch ychwanegol i eraill yn y gymuned".
"Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn amddiffyn y rhai sydd wedi bod yn cysgodi, ac o flaen yr hydref a'r gaeaf pryd y gallem weld mwy o drosglwyddo i'r gymuned."

'Saith diwrnod yn rhy fyr'

Wrth siarad ar BBC Radio Wales dywedodd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, y byddai'r amser ychwanegol yn rhoi amser i symptomau'r haint ddatblygu'n iawn.
"Dwi'n meddwl beth maen nhw wedi penderfynu yw os oes gennych chi symptomau allai fod yn coronafeirws, a 'dyn ni'n dod lan i gyfnod y gaeaf ble mae llawer o bobl yn cael symptomau o'r fath, gallai fod yn unrhyw beth o beswch i dymheredd," meddai.
"Y cyfnod presennol yw saith diwrnod, ac o fewn yr amser yna, dylai coronafeirws fod wedi datblygu.
"Ond yn amlwg wrth i ni gasglu mwy o ddata, mae'n ymddangos bod saith diwrnod ychydig yn fyr, ac felly i fod yn saff, dylai rhywun hunan ynysu am 10 diwrnod os oes gennych chi unrhyw symptomau resbiradol o gwbl."

Ddim ar ben

Rhybuddiodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, na ddylai neb feddwl am eiliad bod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd.
Eglurodd Dr Atherton fod y penderfyniad i newid y cyfnod hunan ynysu wedi cael ei wneud am bod yna berygl "bychan ond real" bod modd trosglwyddo'r feirws rhwng diwrnod 7 a 10.
Galwodd ar bobl i gymryd y rheolau newydd "o ddifrif".
"Mae'n holl bwysig, er ein bod ni mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru ar hyn o bryd, lle mae lefelau trosglwyddo'r feirws yn reit isel, ni allwn gymryd arnom y bydd hynny'n parhau.
"Ac wrth i ni gyrraedd y gaeaf a'r misoedd oerach, rydym yn gwybod y bydd yn haws i'r feirws gael ei drosglwyddo.
"Felly ni ddylai neb fod dan unrhyw amheuaeth fod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd."
Dywedodd mai pobl Cymru oedd yn gyfrifol am blismona'r rheol.
"Mae'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ei wneud i ddiogelu ein hunain, ein ffrindiau a'n cydweithwyr.
Ychwanegodd ei bod yn "holl bwysig" fod pobl yn cael prawf os oeddynt yn amau bod y feirws arnynt.

Straeon perthnasol

  • Cwarantin am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd o Sbaen

  • 'Gweithio, cysgu, a chodi - s'dim byd i edrych mlân i'