Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Leeds

Pablo Hernandez Image copyright Getty Images
Image caption Fe roliodd cic Pablo Hernandez oddi ar y postyn yn munud ola'r gêm, gan roi'r fuddugoliaeth i Leeds

Mae Leeds United o fewn dim i godi yn ôl i'r Uwch Gyghrair yn dilyn buddugoliaeth funud olaf yn Abertawe.

Ar gychwyn y gêm roedd yna funud o dawelwch i gofio am gyn-gapten Leeds, Jack Charlton, a fu farw ddydd Sadwrn.

Ychydig o gyfleoedd oedd yna i'r ddau dîm gydol y gêm nes i ergyd isel gan gyn-chwaraewr yr Elych, Pablo Hernandez, daro oddi ar y postyn ac i mewn i'r rhwyd funud cyn y chwiban olaf.

Fe allai Leeds sicrhau dyrchafiad pan fyddan nhw'n croesawu Barnsley ddydd Iau, ar yr amod y bydd Brentford, sydd yn y trydydd safle, yn colli i Preston North End ddydd Mercher.

Nid yw gobeithion Abertawe o godi i safleoedd gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth ar ben eto - mae tair gêm yn weddill o'r tymor.

Pynciau Cysylltiedig