'£500m ychwanegol i Gymru' gan Lywodraeth y DU

Rishi Sunak Image copyright Barcroft Media

Mae Canghellor y DU, Rishi Sunak, wedi amlinellu rhagor o gamau er mwyn ceisio helpu busnesau a gweithwyr yn ariannol drwy'r pandemig.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd £500m yn ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i ddatganiad y canghellor.

Mae'r camau newydd yn cynnwys mesurau ym meysydd lletygarwch, twristiaeth a gwaith i bobl ifanc - gan gynnwys cwtogi treth ar werth a gostyngiad mewn pris prydau bwyd mewn bwytai.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y ffigwr £500m yn "gamarweiniol" gan fod rhan helaeth o'r arian wedi'i gyhoeddi eisoes.

'Cynllun bonws'

Mae Mr Sunak wedi cyhoeddi y bydd yn creu cynllun "bonws" i gyflogwyr sydd yn dod â gweithwyr oedd ar y cynllun saib o'r gwaith, neu ffyrlo, yn ôl i'r gwaith.

Os bydd y cyflogwr yn dod â rhywun yn ôl i'r gwaith a'u bod dal yn cael eu cyflogi ym mis Ionawr, bydd y llywodraeth yn talu £1,000 o fonws i'r cwmni.

"Os ydych chi yn cefnogi eich gweithwyr fe wnawn ni eich cefnogi chi," meddai.

Dywedodd y canghellor bod y mesurau cefnogaeth economaidd mae'r llywodraeth wedi cyflwyno ymhlith "y rhai mwyaf yn y byd".

Nid oedd pob elfen o'r cyhoeddiad - fel 'gwyliau' o dalu treth stamp ar eiddo o dan £500,000 tan 31 Mawrth - yn berthnasol i Gymru gan fod grym i drethu yn y maes yma wedi ei ddatganoli.

Treth Trafodiadau Tir sydd yn bodoli yng Nghymru ers Ebrill 2018.

Image caption Dywedodd Rishi Sunak na fyddai yn derbyn bod "diweithdra yn anochel" yn ystod ei araith

Wrth gyhoeddi'r camau yn Nhŷ'r Cyffredin, roedd Mr Sunak hefyd yn cydnabod bod y DU yn wynebu heriau "dwfn" ac y bydd yna nifer "arwyddocaol" o swyddi yn diflannu.

Dywedodd y bydd y llywodraeth yn gwneud "popeth allwn ni" er mwyn arbed swyddi.

"Fydd neb yn cael eu gadael heb obaith," meddai.

"Pan fydd problemau yn codi fe wnawn ni eu hwynebu. Pan fydd yna angen am gefnogaeth fe wnawn ni ei ddarparu. Pan fydd heriau yn codi, fe wnawn ni eu datrys."

Lleihau TAW

Yn sgil y pandemig mae'r sector lletygarwch wedi ei effeithio yn ddrwg meddai Mr Sunak.

Dywedodd ei fod am dorri treth ar werth (TAW) ar gyfer bwyd, llety ac atyniadau.

"Bydd TAW yn cael ei leihau o ddydd Mercher nesaf tan Ionawr 12 o 20% i 5%," meddai.

Image copyright Senedd y DU
Image caption Dywedodd y canghellor "na allwn ni golli'r genhedlaeth yma" wrth gyfeirio at gynllun i roi cymorth i bobl ifanc

Cyhoeddiad arall y mae wedi gwneud yw cynllun i annog pobl ifanc i allu cael gwaith.

Bydd y cynllun yn "talu cyflogwyr i greu swyddi newydd i unrhyw un rhwng 16-24 oed sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir," meddai'r Canghellor.

Ychwanegodd y byddan nhw'n swyddi o safon a'i fod yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yn y cynllun.

Cynllun tebyg yng Nghymru

Ond cyn y cyhoeddiad ddydd Mercher dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddynt gynllun tebyg yn ei le yn barod sydd yn cefnogi pobl ifanc.

Nod Twf Swyddi Cymru, sydd yn rhannol cael ei ariannu gan yr UE, yw cynnig gwaith sydd yn talu am chwe mis.

Wrth gloi ei araith amser cinio dywedodd Mr Sunak nad mater o "economeg" yw hyn ond "gwerthoedd".

"Rwy'n credu yng nghryfder a gwydnwch pobl Prydain," meddai.

Ychwanegodd: "Wnawn ni ddim cael ein diffinio gan yr argyfwng hwn ond gan ein hymateb iddo."

Dadansoddiad Catrin Haf Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru:

Ail gymal y cynllun i warchod gweithwyr ac arbed yr economi - dyna sut oedd y Canghellor Rishi Sunak am ddisgrifio'r cyhoeddiad heddiw, gyda chadarnhad bod y cynllun cynnal swyddi - y ffyrlo - i ddod i ben yn yr Hydref.

Ond roedd 'na gynllun arall lan ei lawes - bonws i gyflogwyr, o £1,000 am bob gweithiwr fyddan nhw'n cadw ar waith tan Ionawr nesa. Cwestiynu'r cynllun wnaeth Llafur - pa mor effeithiol fydd hynny wrth sicrhau bod y sectorau cywir yn cael eu targedu?

Ond wrth i'r cynllun cynnal swyddi ddod i ben, fydd gweithwyr yn gobeithio bod digon o addewid mewn £1,000 i'w gwarchod nhw drwy'r misoedd anodd sydd i ddod.

Darllenwch y dadansoddiad yn llawn yma.

Penderfyniadau ym Mae Caerdydd

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad os bydd yn dilyn trywydd Llywodraeth y DU ar dreth stamp, gan gynnig rhywfaint o ostyngiad yn y dreth sydd yma yng Nghymru.

Ac a fydd y daleb gostyngiad 50% ar brydau bwyd bwytai hyd at £10 ym mis Awst, er mwyn annog mwy i fwyta allan, yn cynyddu'r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailagor bwytai a thafarndai?

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart mae nawr yn "gwbl hanfodol i'n diwydiant twristiaeth a lletygarwch agor yn iawn i fusnes."

Image caption Mae Rebecca Evans wedi gofyn am fwy o hyblygrwydd yn y modd y gall Llywodraeth Cymru wario'r arian

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n rhaid edrych ar fanylion y cyhoeddiad cyn gwneud unrhyw benderfyniad a'i bod yn disgwyl "eglurder ynglŷn â beth mae hyn yn golygu i Gymru ond nad oedden nhw [Llywodraeth y DU] wedi pwyso'r botymau cywir i gefnogi'r adferiad."

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru fod y ffigwr £500m yn gamarweiniol, gan ei fod yn "cynnwys y £59m fydd yn dod o'r cyhoeddiad ar y celfyddydau ddydd Sul ac arian llywodraeth leol gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf".

"Mae hefyd yn cynnwys tua £200m ry'n ni'n ei dderbyn o ganlyniad i wariant yn ar PPE yn Lloegr, oedd ddim yn wybodaeth gyhoeddus ond ry'n ni'n gwybod amdano ers wythnosau ac nid oes ganddo unrhyw berthnasedd i'r mesurau a gyhoeddwyd heddiw," meddai llefarydd.

Mae Gweinidog Cyllid y llywodraeth, Rebecca Evans, a'r rhai sydd yn gwneud yr un rôl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi galw ar y rheolau i fod yn rhai mwy llac fel bod modd i lywodraethau datganoledig fenthyca mwy.

Ond mae hyn wedi ei anwybyddu medd Llywodraeth Cymru "a dim ond cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus" wnaeth y canghellor meddant.

'Heb ddysgu gwersi'

Dyw Llywodraeth y DU ddim wedi dysgu'r gwersi ar ddechrau'r coronafeirws meddai Plaid Cymru nac unrhyw fesurau i gefnogi cam nesaf y pandemig.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake: "Rydyn ni'n gwybod y bydd gwaharddiadau lleol yn dod yn arfer newydd, ond does gennym ni ddim mesurau ariannol mewn lle yng Nghymru i gefnogi hyn ar hyn o bryd."

Yn ôl Llywodraeth y DU mae cyhoeddiad Mr Sunak yn golygu "£500m o arian ychwanegol" i Gymru.

Maent yn dweud bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi codi ers argyfwng y coronafeirws a'i bod nawr yn darparu £2.8bn o arian ychwanegol.

Straeon perthnasol