Cartrefi gofal wedi eu 'methu'n wael' yn y pandemig

Gofal Image copyright Getty Images
Image caption Mae marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 28% o farwolaethau coronafeirws yng Nghymru

Fe gafodd cartrefi gofal eu "methu'n wael" gan fethiant trefniadau yn ystod y pandemig coronafeirws, yn ôl adroddiad gan aelodau o'r Senedd.

Dywedodd y pwyllgor iechyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn rhy araf i'r argyfwng a bod eu polisi tuag at brofi preswylwyr ar y dechrau yn "ddiffygiol".

Mae'r adroddiad yn dweud iddi gymryd yn rhy hir i ddechrau mesurau profi addas mewn cartrefi gofal, sy'n cyfrif am 28% o farwolaethau coronafeirws yng Nghymru.

Gwrthod y casgliad wnaeth y llywodraeth.

'Gwendidau difrifol'

Edrychodd y pwyllgor trawsbleidiol ar sut wnaeth cyfundrefn iechyd a gofal Cymru ymateb i'r pandemig, gan gynnwys offer amddiffyn personol a pholisïau profi.

Fe wnaeth yr argyfwng ddatgelu "gwendidau difrifol" mewn sawl maes, meddai.

Ar ddechrau'r argyfwng, cafodd 1,097 o gleifion eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb gael eu profi am Covid-19.

Yn wreiddiol dim ond preswylwyr cartrefi gofal oedd â symptomau wnaeth dderbyn brawf, ond erbyn 16 Mai roedd hyn wedi newid i brofi'r holl breswylwyr a staff.

Dywed y pwyllgor eu bod nhw'n pryderu am y nifer uchel o farwolaethau.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod cartrefi gofal yn "haeddu cael eu hamddiffyn os bydd argyfwng iechyd gwladol ond iddynt gael eu siomi yn arw yn ystod yr argyfwng hwn".

'Seiliedig ar gyngor gwyddonol'

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud bod polisïau'n seiliedig ar gyngor gwyddonol.

Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth bod rhyddhau pobl o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion wedi arwain at fwy o farwolaethau.

Ond fe ddywedodd yr adroddiad fod penderfyniadau i wyrdroi'r polisi profi gwreiddiol, yn hwyrach na ddigwyddodd yn Lloegr a'r Alban, wedi bod ar draul y sector gofal cymdeithasol.

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Vaughan Gething nad oes tystiolaeth bod rhyddhau pobl o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion wedi arwain at fwy o farwolaethau

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud:

  • Roedd diffyg offer amddiffyn ar ddechrau'r argyfwng a'i bod yn "hynod bryderus" bod Cymru wedi dod o fewn rhai dyddiau o redeg allan;
  • Nid oedd y bobl fwyaf bregus, gafodd gyngor i gysgodi eu hunain rhag yr afiechyd, wastad wedi derbyn gwybodaeth glir;
  • Roedd y penderfyniad ledled Prydain i stopio olrhain pobl yn gynnar yn yr argyfwng yn "ddinistriol", a dylai Llywodraeth Cymru nawr sicrhau bod ganddi gyfundrefn olrhain effeithlon a gweithredol.

Gwrthod y casgliadau

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn derbyn canfyddiad y pwyllgor bod preswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu siomi'n arw."

Fe ddywedodd bod polisïau wedi eu seilio ar dystiolaeth wyddonol "gyda'r unig amcan o achub bywydau, waeth ble mae pobl yn byw".

"Rydym wedi darparu ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys nyrsys ychwanegol lle bo'u hangen ac offer am ddim ar gyfer cartrefi gofal ledled Cymru," meddai.

Straeon perthnasol