Y Bencampwriaeth: Bristol City 0-1 Caerdydd

Dathlu gôl Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu gôl Danny Ward - ei seithfed o'r tymor

Daeth Danny Ward oddi ar y fainc yn y munudau olaf yn Ashton Gate i sicrhau buddugoliaeth bwysig i Gaerdydd yn erbyn Bristol City.

Fe gysylltodd Ward â chroesiad campus gan eilydd arall, Lee Tomlin, i rwydo wedi 85 o funudau.

Er i'r ddau dîm gael cyfleoedd da yn yr hanner cyntaf, gan gynnwys ergyd gan Will Vaulks, a pheniad gan Sean Morrison y bu'n rhaid ei glirio o'r lein.

Ond roedd amddiffyn y ddau dîm hefyd yn gadarn gan olygu fod fawr o waith mewn gwirionedd i'r golwyr, nes i'r ddau dîm godi stêm wedi'r egwyl.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn parhau yn chweched safle'r Bencampwriaeth, gan gadw'r gobeithion o gymryd rhan yn y gemau ail gyfle'n fyw.

Wedi'r bumed fuddugoliaeth o'r bron, mae'r bwlch gyda Derby County, yn y seithfed safle, bellach yn dri phwynt.