Llifogydd yn taro gwesty hanesyddol wedi glaw trwm

Llifogydd yn ardal Gwesty Ty'n y Cornel, Tal-y-llyn
Image caption Dŵr o amgylch Gwesty Ty'n y Cornel fore Sadwrn

Mae dau safle hanesyddol yn y gogledd wedi cael eu taro gan lifogydd yn dilyn oriau o law trwm ar draws Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwesty Ty'n y Cornel, ger Llyn Tal-y-llyn yng Ngwynedd, fod "dŵr hyd at fy mhenliniau" ar y ffordd y tu allan, a bod y llifogydd wedi cyrraedd "yr holl garejis ond ddim y prif adeilad".

Mae gerddi Castell Gwydir, ger Llanrwst, hefyd dan ddŵr, ac mae yna alw am gamau hirdymor i ddatrys trafferthion yn Llanrwst, ble roedd rhybudd i gadw golwg am lifogydd posib nos Wener.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) od ardal Eryri wedi cael glaw "anarferol" o drwm nos Wener, ond bod cynllun lliniaru wedi helpu gwarchod eiddo yn Nyffryn Conwy

Roedd 10 rhybudd llifogydd byddwch yn barod mewn grym ar draws Cymru ar un cyfnod ddydd Sadwrn, yn bennaf yn y gogledd.

'Gyrru trwy lifogydd yn broblem'

Mae Gwesty Ty'n y Cornel yn dyddio o'r 1800au ac mae'r safle wedi cael llifogydd yn y gorffennol.

"Mae'r llyn yn gorlifo weithiau ond doedden ni ddim wedi disgwyl hynny heddiw," meddai'r llefarydd.

"Y bobl sydd weithiau'n ceisio gyrru trwyddo yw'r broblem a'r hyn sy'n digwydd yn sgîl hynny."

Mae'n honni taw lorïau sy'n creu'r trafferthion mwyaf, gan ychwanegu: "Maen nhw'n meddwl bod dim problem gyrru trwyddo - mae'r don yn mynd hanner ffordd i fyny'r adeilad."

Image caption Mae'r sefyllfa'n dorcalonnus" meddai un o berchnogion Castell Gwydir, Judy Corbett

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i lifogydd daro gerddi Castell Gwydir, gyda'r tro diwethaf ym mis Chwefror.

Ysgrifennodd rheolwyr ar eu tudalen Facebook: "Ddaru'r dyfroedd godi a chodi (fel ein pwysedd gwaed) ac fe ddaeth i mewn dan y wal gerrig eto."

Aethon nhw ymlaen i ddweud eu bod "wedi blino ond yn sicr heb ein trechu".

'Ni sy'n talu'r pris'

Dywedodd un o berchnogion y safle, Judy Corbett fod y dŵr "wedi dod o nunlle" a bod y gerddi'n edrych "yn ddychrynllyd".

"Mae'n dorcalonnus," meddai. "Ddylia hyn ddim digwydd ym mis Gorffennaf. Mae'n anarferol. Fedra'i ddim cofio i ni gael llifogydd ym mis Gorffennaf."

Fe gododd cwestiynau ynghylch y ffordd y mae CNC'n delio â llifogydd, gan ofyn: "Beth yn union mae Cyfoeth Naturiol yn ei wneud?"

"Dydw i ddim yn derbyn mai dim ond newid hinsawdd sydd i gyfri am hyn. Mae angen polisi rheoli dŵr trefnus.

"Mae dŵr yn draenio o bellach i fyny'r dalgylch ac rydym ni ar lawr y dyffryn yn talu'r pris."

Image caption Roedd yna alw ymhlith pobl Llanrwst am ymchwiliad annibynnol ym mis Chwefror wedi difrod Storm Ciara

Pryder eto yn Llanrwst

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru rybuddio trigolion Llanrwst ynghylch y posibilrwydd o lifogydd yno nos Wener.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Aaron Wynne ar Twitter: "Wedi diwrnod yn unig o law, mae yna rybudd llifogydd byddwch yn barod yn Llanrwst.

"Ddylia hyn ddim digwydd wedi un diwrnod yn unig o 'dywydd typical yng Nghymru'..

"Mae hyn yn eithriadol rwystredig."

Dywedodd Mr Wynne y bydd yn galw am gyfarfod gyda CNC a chyrff eraill "i glywed eu cynlluniau i ddatrys y broblem hirdymor yma".

"Peidiwch anghofio am Lanrwst eto," meddai. "Mae angen datrys hyn."

Image copyright Traffic Wales
Image caption Goleuadau traffig ar yr A487 ym Maentwrog ddydd Sadwrn oherwydd llifogydd ar y ffordd

'Glaw anarferol o drwm ym misoedd yr haf'

Dywedodd Keith Ivens, rheolwr gweithredol gyda CNC: "Syrthiodd tua 100mm o law o amgylch Eryri ddydd Gwener a achosodd wyth rhybudd byddwch yn barod ar draws gogledd orllewin Cymru gan gynnwys Dyffryn Conwy.

"Fe wnaeth cynllun lliniaru llifogydd Dyffryn Conwy helpu gwarchod eiddo yng nghymunedau Llanrwst a Threfriw, ac roedd y gorlifdir â rhan bwysig yn yr amddiffynfeydd llifogydd.

"Rydym yn cydymdeimlo ag unrhyw un gafodd eu heffeithio gan law anarferol o drwm ym misoedd yr haf. Gall llifogydd ddigwydd unrhyw adeg o'r flwyddyn, a dyna pam mae ein systemau darogan llifogydd a rhybuddio yn eu lle drwy'r adeg."

Cafodd criwiau tân hefyd eu galw i bwmpio dŵr o ddau eiddo ym Phant Llwyd, Llan Ffestiniog am 10:35 ddydd Sadwrn, ac o dŷ yn Nhan-y-Bwlch, yn Nolgellau am 08:10.

Pynciau Cysylltiedig