Newid y busnes neu wynebu mynd i'r wal

Richard Evans, Bwyd o'r Môr Image copyright Outwest Photo

Gyda gwaith ymchwil gan Senedd Cymru yn dangos effaith ddifrifol y coronafeirws ar economi Cymru, mae Cymru Fyw wedi siarad gyda dau sy'n rhedeg busnes bwyd sydd wedi penderfynu newid yn barhaol i geisio goroesi.

Mae Richard Evans yn rhedeg busnes cyfanwerthu pysgod yng Ngwynedd sydd fel arfer yn gwbl ddibynnol ar dwristiaid yr haf i gadw i fynd drwy'r gaeaf.

Fe ddiflannodd ei fusnes dros nos wrth i fwytai a llefydd gwyliau gau pan ddaeth y cyfyngiadau i rym fis Mawrth.

Roedd yn rhaid iddo newid ei ffordd o werthu. Addasodd ei fan a mynd allan i werthu yn uniongyrchol i'r cyhoedd gan deithio o'i uned ym Mhwllheli i'r Bermo (taith 80 milltir) a Llanuwchllyn (taith o 128 milltir) yn wythnosol.

Trefn arferol ei gwmni, Bwyd o'r Môr, cyn hyn oedd prynu pysgod ffresh mewn marchnad bysgod yn Manceinion, a rhai pysgotwyr lleol hefyd, a'u cyfanwerthu i fusnesau bwyd lleol.

Mae am gario ymlaen gyda'r newid yma, meddai.

Gwerthu yn uniongyrchol i'r cyhoedd

"Dwi'n bendant yn mynd i barhau i ddelio efo'r cyhoedd, gant y cant," meddai Richard.

Ond mae gwerthu o'r fan yn golygu gwaith caled, dyddiau hir, ac mae'n anodd gwneud elw.

Felly mae'n bwriadu delifro yn lle gwerthu o'i stondin, yn ogystol â chreu prydau pysgod parod i'w gwerthu.

Image copyright outwest photo
Image caption Mae Richard yn angerddol am ddysgu'r cyhoedd am fwyd, iach, lleol

"Dwi'n mynd i orfod dechrau delifro a chael ordors ymlaen llaw. Ond mi wnâi ddal i ddelio efo'r cyhoedd yn barhaol, fyddai byth yn cyfanwerthu yn unig eto."

Mae Richard yn cyflogi ei fab yn y busnes hefyd ac yn yr haf roedd yn arfer gallu rhoi gwaith dros dro i ddau yrrwr. Ond mae wedi gorfod cymryd arian etifeddiaeth gan ei rieni er mwyn cario ymlaen dros y cyfnod clo neu fe fyddai wedi mynd i'r wal mewn mis meddai.

Mae'n dweud ei fod wedi colli £20,000 yn barod ac mae'n paratoi i golli £20,000 arall cyn i bethau newid, neu iddo orfod rhoi'r gorau iddi.

Nôl i'r archfarchnadoedd?

Mae llawer o bobl wedi cefnogi siopau ers dechrau'r cyfnod clo, ond am ba hyd?

"Dwi wedi siarad efo bwtsiars, a dwi'n gwerthu ychydig bach i Londis a Spars bach o gwmpas Llŷn, ac maen nhw'n dweud fod 'na spike massive i ddechrau [ar ddechrau'r cyfnod clo], ond maen nhw i gyd wedi gweld pethau'n slofi lawr a pobl yn mynd yn ôl at supermarkets," meddai Richard.

"Ac mae hynny am nad ydyn nhw'n allu fforddio peidio - rydyn ni'n mynd mewn i ddirwasgiad, does na ddim dwywaith am hynny. Dwi'n delio gyda chynnyrch premium so fydd 'na lot o bobl ddim efo'r pres i brynu be dwi'n wneud.

"Mae nhw'n gorfod mynd nôl at y supermarkets achos maen nhw mor dda am be maen nhw'n wneud, dyna ran o'r broblem.

"Mae'n bendant yn wake-up call o ran dosbarthu bwyd yn y wlad yma," meddai.

"Dwi'n gallu cynnig bwyd da a gwasanaeth gwych. Dwi'n lleol a mae'r iaith yn eitha' pwysig i lot o bobl ond ddim yn bwysig i ddigon o bobl i wario eu harian yn lleol."

Image copyright outwest photo
Image caption Mae Richard yn teithio ddwywaith yr wythnos i farchnad bysgod Manceinion

Mae'n amhosib iddo gystadlu efo'r archafarchnadoedd a'u systemau dosbarthu effeithlon meddai Richard.

I wneud hynny mae angen cwangos lleol i ddod â chynhyrchwyr lleol at ei gilydd i werthu gyda'i gilydd meddai.

"Rydyn ni angen help os ydyn ni am hyd yn oed geisio bod yn gystadleuol mewn unrhyw ffordd. Mae angen y meddalwedd dosbarthu yna arnon ni y gall cwmniau lleol ei ddefnyddio, rydyn ni angen llefydd wedi eu sybsideiddio gan y cyngor i werthu ein pethau, dyna'r math o bethau sy'n angenrheidiol neu rydyn ni fel y Brenin Canute o flaen y llanw ... rydyn ni wastad yn mynd i golli."

'Ofn'

Image copyright outwest photo
Image caption Mae'r haf fel arfer yn brysur ym Mhen Llŷn

Er y bydd rhai bwytai yn gallu ailagor ganol Gorffennaf, fydd yr un niferoedd ddim ganddyn nhw, ac ar y cyfan mae Richard yn besimistaidd am y dyfodol.

"Pan mae'r gaeaf yn dechrau a does na ddim pres yr haf ... fedra i ddim mynegi fy ofn llwyr o be sy'n mynd i ddigwydd yn yr ardal yma.

"Mae rhai pethau'n dda, mae'r grantiau yn grêt ond rydyn ni'n ardal wledig, mae na adeiladwyr, ffermwyr, plymwyr, siopau bach ac yn y blaen, nhw ydi'r asgwrn cefn, ond heb y twristiaeth does na ddim cig ar yr esgyrn. Hwnna ydi pinacl economeg yr ardal."

Dim yn newydd

Fel Richard, diflannodd y busnes dros nos i siop gigydd OG Owen yng Nghaernarfon wrth i fwytai a llefydd gwyliau gau, ac roedd rhaid iddyn nhw newid eu model busnes i gadw eu pen uwch wyneb y dŵr.

Image copyright Iolo Penri
Image caption Wil Owen yn ei fasg ar ddechrau'r cyfnod clo

"Y rhan fwyaf o'r busnes oedd gwneud yr hotels, restaurants, tai tafarndai a parciau carafanau. Mae'r rheiny wedi mynd felly rydyn ni wedi gorfod troi i wneud home delivery," meddai'r perchennog Wil Owen.

Ond nid peth newydd ydy cynnig gwasanaeth delifro lleol meddai.

"Tydi hwn ddim yn beth newydd. Roeddan ni'n gwneud hyn 50 mlynedd yn ôl. Oeddan ni'n delifro rownd tai ar ddydd Llun, Mawrth a dydd Gwener, gyda'r nos. Fysa fy nhad 'di bod yn mynd rownd ffermydd cyn hynny."

Fe wnaethon nhw roi'r gorau i hynny rhyw 30 mlynedd yn ôl am eu bod yn rhy brysur yn y siop.

"Mae hyn wedi newid bob dim. Gen i ddwy fan yn sefyll yma ac roedd rhaid inni wneud rhywbeth. Dydan ni ddim wedi rhoi neb ar furlough, mae pawb wedi cadw ei waith, rydyn ni wedi cadw'n pennau. Dydan ni ddim wedi gwneud pres dwi ddim yn meddwl ond dydan ni ddim wedi colli.

"Mae wedi agor drws arall inni,"

Grym y we

Y cyfryngau cymdeithasol wnaeth eu "hachub" nhw meddai Wil.

"Facebook yn enwedig, mae hwnnw wedi bod yn godsend inni.

"Fysach chi ddim yn coelio faint o bobl ifanc sy'n sbïo arno fo... rhain oedd y bobl oedd ddim yn dŵad i'r siop cynt, roedden nhw wedi arfer mynd i'r archfarchnadoedd.

"Heb Facebook, a'r home deliveries fysa'r siop ddim yn dal i fynd. "

Mae busnesau gwyliau wedi dechrau ailgysylltu meddai ond yn ei rybuddio mai ffracsiwn o'r busnes fydd ganddyn nhw iddo bellach.

Gyda "chwsmeriaid da", newydd, wedi dod atyn nhw y dasg rŵan ydy ceisio dal eu gafael ynddyn nhw yn enwedig wrth i bobl fynd yn ôl i weithio.

"Gobeithio fyddan nhw'n aros efo ni."

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi fesul cam mae Wil a'i fusnes wedi cyhoeddi eu bod yn ehangu eu dalgylch delifro.

"Dwi'n gobeithio eith o'n iawn, neu os oes na ddim siopau yma, fydd na ddim Caernafon," meddai.

Busnes gan ymwelwyr dros benwythnosau a gwyliau'r ysgol sy'n eu cario nhw drwy "fisoedd caled, distaw" Ionawr, Chwefror, Mawrth ac Ebrill fel arfer.

Mae'n bryderus na fydd twristiaid yn dod run fath ar ôl gweld arwyddion yn gofyn i bobl aros adre.

Siopau bach

A gyda mwy o bobl yn gweithio adre, y bydd llai fyth o bobl o gwmpas amser cinio yn siopau'r dref.

"Mae'r siop yn ddistaw iawn ar y funud a siopau eraill o'n cwmpas yn cau yn gynnar.

"Ond dwi'n gobeithio bydd yr home delivery yma'n compensatio rheina.

"Mae wedi troi allan yn well nag oeddan ni wedi ei feddwl... oeddan ni'n lwcus iawn bod ni wedi cael gweithio, mae'n goblyn o amser hir i fod adra wedi arfar mynd bob dydd.

"Dwi yn meddwl bod pobl yn dechrau gweld rŵan bod yn rhaid edrych ar ôl y siopau bach yma. Mae lot yn cael confidence rŵan i fynd yn ôl i'r supermarket ond os deith yna second lockdown, yr adeg hynny fydd hi'n giami wedyn."

Hefyd o ddiddordeb: