'Roedd canu'r gloch yn gymaint o ryddhad'

Image copyright Manon Foster Evans
Image caption Iestyn gyda'i rieni yn canu'r gloch yn Ysbyty Christie ym Manceinion

"Roedd canu'r gloch yn Ysbyty Christie ym Manceinion yn rhyddhad - roedd e'n arwydd bod y driniaeth ar ben," meddai Iestyn Phillips, 14 oed o Aberystwyth.

"Nes i ganu hi dair o weithiau - ac roedd hi'n neis bod Dad, Mam a'm mrodyr Siôn, Mabon ac Owain yno gyda fi."

"Roedd canu'r gloch ar 21 Chwefror eleni yn garreg filltir ro'n i mor falch i'w chyrraedd," meddai ei fam Manon Foster Evans.

"Mae hi wedi bod yn daith anodd iawn ond mae Iestyn wedi bod yn hynod ddewr a di-gŵyn drwy'r cyfan.

"'Dan ni mor falch bod Iestyn wedi gallu canu'r gloch er nad oeddwn wedi clywed am yr arfer nes i ni weld bachgen bach 7 oed oedd wedi gwella yn gneud hynny. Ar y pryd dechrau ar ei daith oedd Iestyn a dyma taid y bachgen 'ma o Glasgow yn dymuno pob lwc iddo - profiad emosiynol iawn."

'Diagnosis yn sioc anferth'

Mae dechrau Gorffennaf yn wythnos codi ymwybyddiaeth sarcoma - sef y math o ganser yr esgyrn y mae Iestyn wedi bod yn dioddef ohono, ond yr oedd y math a oedd gan Iestyn yn eithriadol o brin.

Iestyn Phillips Image copyright Manon Foster Evans
Image caption 'Mae Iestyn wedi wynebu ei driniaeth yn gwbl ddi-gŵyn,' medd Mam

"Doeddwn i ddim yn gwybod am unrhyw un arall ym Mhrydain yn dioddef ohono ar y pryd. Des i wybod am un achos yn America a fues i mewn cysylltiad â rhieni y plentyn hwnnw," meddai Manon.

"Gan ei fod yn gyflwr mor brin, fe fuon ni'n eitha' hir cyn cael y diagnosis cywir. Roeddem wedi cael ein hargyhoeddi gan nifer o ddoctoriaid mai rhywbeth arall oedd yn bod ac mi roedd yn sefyllfa anodd. Un munud fe fyddai gan Iestyn boen yn ei asennau ond y funud nesaf mi fyddai'n cicio pêl-droed ac i weld yn iawn.

"Roedd cael y diagnosis mewn ysbyty sy'n arbenigo mewn esgyrn yn Birmingham, ddeuddydd wedi pen-blwydd Iestyn yn 13, yn sioc anferth.

"Sioc ulw ac arswyd. Doeddem ni ddim yn ei ddisgwyl. Hefyd euogrwydd nad oeddem wedi sylweddoli beth oedd yn bod. Dwi wedi dysgu ers hynny fod hyn yn brofiad cyffredin iawn i deuluoedd efo cyflwr mor brin - yn aml mae doctor yn camgymryd y symptomau.

"Oeddan ni hefyd yn teimlo yn unig iawn. Roeddem yn Birmingham mewn lle dieithr a neb i siarad efo. Bu rhaid i Geraint fynd nôl ar y trên at y bechgyn eraill ac roedd rhaid i mi aros efo Iestyn. O'n i'n teimlo fod ein bywydau ni gyd wedi newid am byth.

"Roeddwn i'n teimlo mod i'n byw mewn hunllef a fod popeth allan o reolaeth."

Iestyn yn Old Trafford ddechrau Ionawr eleni Image copyright Manon Foster Evans
Image caption Iestyn yn Old Trafford ddechrau Ionawr eleni

"O edrych yn ôl dwi'm yn siŵr sut 'naethon ni ddod i ben - mae gennym ni dri o blant eraill oed ysgol," eglurodd Manon. "Ges i gyngor i adael fy swydd am gyfnod.

"Dwi'n meddwl i fi a Geraint deimlo rywfaint gwell, unwaith yr oedd cynllun i ddelio â'r salwch wedi'i gyflwyno. 'Nath hynna 'neud ni'n fwy penderfynol. Dydi o ddim ots pa mor anodd yw'r ffordd - mae gwybod fod yna lwybr a gobaith yn trawsnewid popeth."

"Cyfnod o deithio ysbytai fu hi wedyn - chemo dwys i ddechrau yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd a dyna ddechrau ar wahanu ein huned deuluol. Roeddem yn hynod o ffodus bod fy mrawd a'i deulu yn byw gerllaw.

Y pedwar brawd yn mwynhau cwmni ei gilydd unwaith eto Image copyright Manon Foster Evans
Image caption Y pedwar brawd yn mwynhau cwmni ei gilydd unwaith eto, ar ôl gorfod treulio cyfnod ar wahân

"Yna llawdriniaeth fawr iawn yn y Royal Brompton yn Llundain i dynnu'r tiwmor ac ailadeiladu'r asennau o ryw fath o cement a mesh - mae'r peth yn gwbl anhygoel.

"Wedi hynny doedd y llwybr ddim yn glir - doedd yna ddim ateb syml ond wedi trafodaethau ymhlith arbenigwyr byd penderfynwyd ar driniaeth proton beam yn Ysbyty Christie ym Manceinion.

"Roedd rhaid aros am gyfnod arteithiol o hir i weld a fyddai'r NHS yn Lloegr yn cefnogi'r driniaeth yn ariannol.

"Dim ond yn ddiweddar y mae'n bosib cael y fath driniaeth ym Mhrydain - roedd yna sôn ar un adeg y byddai rhaid i ni fynd i'r Almaen neu hyd yn oed Florida.

"Yr hyn sy'n sefyll allan am y cyfnod yw gwaith gwych y Gwasanaeth Iechyd, cefnogaeth elusennau canser yng Nghymru a theulu a ffrindiau."

Gweld Man U er yn cefnogi Lerpwl!

"Roedd cyfnod Manceinion yn eitha da," meddai Iestyn, "erbyn hynny roeddwn i'n teimlo'n lot cryfach. Roedd Mam a Dad yn cymryd hi mewn tro i aros efo fi ym Manceinion ac adeg gwyliau ysgol roedd cyfle i'r teulu fod gyda'i gilydd eto.

"I ddweud y gwir fe gawson ni eitha lot o hwyl - a do, mi ges i'r cyfle i fynd i Old Trafford efo Dad i weld Man U yn chwarae Man City er mai Lerpwl dwi'n ei gefnogi. Ro'dd hi'n braf mynd allan gyda'r teulu am swper.

"Doedd y driniaeth proton ddim yn rhy ddrwg - blinder yn fwy na dim ac ychydig o deimlad llosgi fel llosg haul ar y croen."

"Ry'n ni wedi cael lot o sgyrsiau hyfryd," medd Manon Image copyright Manon Foster Evans
Image caption "Ry'n ni wedi cael lot o sgyrsiau hyfryd," medd Manon

"Gan fod Iestyn wedi cryfhau erbyn ei gyfnod ym Manceinion roeddem yn cymryd bob cyfle i gael y teulu at ei gilydd fel uned eto ac fe gawson ni Nos Galan wych am y rheswm hwnnw," ychwanegodd Manon.

"Ac ym Manceinion, wrth gwrs, y cafodd Iestyn ganu'r gloch sy'n nodi fod cyfnod ei driniaeth ar ben.

"Mae cael plentyn sydd wedi cael canser yn newid eich bywyd am byth - 'dan ni wedi crio llawer ond wedi chwerthin hefyd."

Gwerth bywyd

"Yn amlwg dwi wedi treulio amser hir gyda Iestyn yn ystod y misoedd diwethaf ac ry'n ni wedi cael sgyrsiau hyfryd.

"Ac mae'r cyfnod wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor arbennig yw bywyd a pha mor werthfawr yw teulu a ffrindiau.

"Am y tro cynta ers rhyw 30 mlynedd mi wnes i gadw dyddiadur, ac y mae hwnna yn gymysg o'r llon a'r lleddf. Roedd y profiad o ysgrifennu am ddigwyddiadau'r diwrnod yn help mawr i fi."

Manceinion Image copyright Manon Foster Evans
Image caption Cam olaf y daith oedd triniaeth arloesol ym Manceinion

Yr wythnos hon roedd yna garreg filltir arall i Iestyn sydd ym mlwyddyn 9 yn Ysgol Penweddig wrth iddo gael mynd nôl i'r ysgol am ei ddiwrnod llawn cyntaf ers y salwch.

"Dwi'n rili edrych ymlaen," meddai Iestyn oedd yn prysur gwneud ei waith cartref tra'n siarad â Cymru Fyw.

"Mae e wedi bod yn yr ysgol am gyfnodau byrrach o'r blaen," meddai Manon, "a'r tro cyntaf aeth e nôl i'r ysgol roedd ei ffrindiau o flwyddyn 9 yn disgwyl amdano wrth y drws. Roedd hwnna yn brofiad arall ddaeth â deigryn o hapusrwydd yn ystod y cyfnod.

"Ydi, mae wedi bod yn gyfnod fyny ac i lawr ond roedd canu'r gloch 'na hanner tymor eleni yn garreg filltir roedden ni gyd mor falch o'i chyrraedd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig