'Dwi'n teimlo'n fwy diogel yma yn China ar hyn o bryd'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Dwi'n teimlo'n fwy diogel yn China ar hyn o bryd'

30 Mehefin 2020 Diweddarwyd 11:16 BST

Wrth i fesurau gael eu llacio yng Nghymru, mae 'na rybudd o'r Dwyrain Pell ei bod hi'n anodd iawn cael gwared ar Covid-19 yn llwyr.

Er i China lwyddo i ddod â'r feirws dan reolaeth, mae clwstwr newydd o achosion yn golygu bod cyfyngiadau wedi cael eu hailosod ar bron i 500,000 o bobl.

Ond yn ôl Karl Davies, sy'n byw yn ninas Foshan yn ne-ddwyrain y wlad, mae'n teimlo'n saffach yno nac y byddai yn ôl yng Nghymru ar hyn o bryd.