Cymeradwyo penderfyniad i gadw uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Protestwyr y tu allan i gyfarfod y bwrdd iechyd
Image caption Cafodd protestiadau eu cynnal ynglŷn â'r posibilrwydd o gau'r adran frys

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cymeradwyo'n ffurfiol y penderfyniad i gadw uned frys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd bod ymgyrchwyr wedi cael "dylanwad pwerus" ar y penderfyniad i gadw'r uned frys ar agor yn llawn.

Roedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn trafod cynlluniau i gau'r uned yn ystod y nos neu'n gyfan gwbl - gydag uned mân anafiadau yn cael ei sefydlu yn ei lle.

Ond bellach, yn dilyn ymgyrch recriwtio, mae rheolwyr wedi penderfynu y dylai'r uned barhau fel uned lawn 24 awr.

Fe wnaeth cyfarfod llawn o'r bwrdd iechyd gymeradwyo'r penderfyniad mewn cyfarfod ddydd Llun.

'Emosiynol gwrando ar rai straeon'

Dywedodd y cyfarwyddwr meddygol Dr Nick Lyons fod gwrando ar brofiadau a phryderon pobl yn y gymuned leol wedi cael dylanwad mawr ar farn rheolwyr.

"Doedd hi ddim yn hawdd bob amser - taith go anwastad ar adegau," meddai.

"I mi, efallai mai rhai o'r enghreifftiau mwya' pwerus oedd safbwyntiau rhieni unigol, cleifion a gofalwyr, a gyrru'r ffordd fynyddog, gyrru o amgylch y gymuned yn ceisio rhoi ein hunain yn eu sefyllfa nhw, gan ystyried sut byddai hyn yn gweithio.

"Gyda chefndir fel meddyg teulu a nawr fel cyfarwyddwr meddygol - roedd hi'n hynod emosiynol gwrando ar rai o'r straeon heriol hynny a sylweddoli'r cyfrifoldeb ry'n ni ei angen i sicrhau fod ein hargymhelliad yn cynnwys uned frys sy'n ymateb iddyn nhw…"

Image copyright Google

Yn ôl Dr Lyons byddai cau'r uned a sefydlu uned mân anafiadau yn ei lle wedi rhoi pwysau aruthrol ar unedau brys ysbytai eraill y bwrdd iechyd.

Dywedodd y byddai Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont wedi cael trafferth ymdopi â'r galw ychwanegol.

Ond mynnodd Dr Lyons oni bai am y "gwaith aruthrol" sydd wedi cael ei wneud i recriwtio meddygon y byddai dyfodol yr adran yn dal i fod yn ansicr.

Yn gynharach eleni rhybuddiodd am y peryglon i gleifion oherwydd prinder mawr o feddygon, ond ar ôl denu staff mae e bellach yn hyderus fod gwasanaethau'n ddiogel.

"Dwi'n credu pan wnaethon ni gwrdd tro diwetha', doedd ganddo ni ddim ymgynghorwyr parhaol yn yr adran," meddai.

"Bellach mae ganddo ni'r hyn sy'n gyfystyr â 2.4 llawn amser, sy'n destament anhygoel i'r adran, ac efallai'n fwy calonogol ry'n ni wedi recriwtio doctoriaid gradd ganol fu'n gweithio fel locwm yn yr adran ond sydd nawr wedi ymroi i weithio yma'n barhaol ac yn astudio ac ry'n ni'n eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw weithio tuag at fod yn ymgynghorwyr.

"Mae 'na ffordd hir i fynd ond mae'r adran chi'n ei weld heddiw yn fwy nodweddiadol o adrannau brys eraill ar draws y wlad yn nhermau nifer y staff sydd ganddo ni."

Yn ôl Dr Lyons mae Covid-19 hefyd wedi profi pa mor hanfodol yw'r uned frys ger Llantrisant i'r gymuned leol.

Ond hefyd dywedodd fod y pandemig wedi profi pa mor gyflym mae'r gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio er mwyn ymateb i heriau.

Beth oedd pryderon yr ymgyrchwyr?

Yn gynharach eleni roedd penaethiaid yn rhybuddio fod diogelwch cleifion mewn perygl oherwydd prinder staff difrifol yn adran gofal brys yr ysbyty ger Llantrisant.

Ers tro mae'r uned wedi bod yn or-ddibynnol ar feddygon dros dro - a bu'n rhaid ei gau ar fyr-rybudd ddwywaith dros gyfnod y Nadolig oherwydd diffyg meddygon.

Oherwydd y problemau fe fu'n rhaid i ambiwlansys gael eu hanfon i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd unig feddyg ymgynghorol llawn amser yr adran wedi cyhoeddi y byddai'n gadael fis Ebrill eleni a datgelwyd mai ond 12% o shifftiau meddygon iau oedd yn cael eu llenwi gan feddygon llawn amser.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu prinder o feddygon brys ar draws Prydain, gydag unedau trawma mwy o faint yn ei chael hi'n haws recriwtio.

Beth oedd barn ymgyrchwyr?

Yn gynharach eleni cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal ym Mae Caerdydd a thu allan i gyfarfodydd y bwrdd iechyd yn gwrthwynebu'r cynnig i israddio'r uned frys.

Yn ôl ymgyrchwyr fe fyddai'r cynllun yn peryglu bywydau, yn enwedig o ystyried cysylltiadau teithio gwael rhwng rhai cymunedau yn y cymoedd.

Image caption Ymgyrchwyr yn protestio tu allan i'r Senedd fis Chwefror

Fe gafon nhw eu cythruddo ar ôl i gyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd awgrymu wrth bwyllgor y Senedd nad oedd ymdrech gadarn wedi bod i recriwtio meddygon brys i'r ysbyty am bum mlynedd.

Ac er bod penaethiaid bellach wedi argymell y dylid cadw'r adran fel uned lawn, y bwrdd iechyd cyfan oedd â'r gair olaf mewn cyfarfod ddydd Llun.

O ganlyniad cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb gyda thua 25,000 o lofnodion i bencadlys y bwrdd ddydd Iau.

Oedd y cynllun israddio yn gynllun newydd?

Yn 2014 daeth pump o fyrddau iechyd ynghyd i lunio cynllun i ymateb i bryderon fod gwasanaethau i famau, babanod, plant a gofal brys wedi eu gwasgaru'n rhy denau ar draws de Cymru.

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus fe gytunodd y byrddau iechyd ynghyd a chynghorau iechyd cymuned ar gyfres o argymhellion yn cynnwys israddio Uned Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ond bach iawn yw'r newidiadau wedi bod i'r uned ers hynny. Yn ôl gwrthwynebwyr roedd angen ailedrych ar y cynllun cyfan.

Mae gwasanaethau mamolaeth arbenigol yn yr ardal eisoes wedi cael eu canoli ar un safle - yn Ysbyty'r Tywysog Charles.

Ond mae 'na oedi wedi bod droeon yn y cynlluniau i ailstrwythuro gofal i blant.

Straeon perthnasol