'Methu coelio' y penderfyniad i ailagor ysgolion

Dylan Wyn Evans Image copyright S4C
Image caption Mae'r athro Dylan Wyn Evans yn credu bod ysgolion yn ail-agor "yn gyflymach ella na ddylsan nhw"

"Dwi ddim yn gwybod a ydi'r risg yn gwrthbwyso'r benefits."

Fel degau o athrawon dros Gymru bydd Dylan Wyn Evans - Mr Wyn i wylwyr y gyfres deledu Ysgol Ni: Maesincla - nôl o flaen y dosbarth ddydd Llun. Ond mae ganddo amheuon a ydy'r amseru yn iawn i ailagor ysgolion.

"Dwi ychydig bach yn nyrfys," meddai'r athro blwyddyn 3 a 4 wrth Cymru Fyw cyn i bennod arbennig o'r gyfres, Dim Ysgol: Maesincla gael ei darlledu nos Sul, 28 Mehefin.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld y plant, y rheiny sydd yno, ond ar yr un pryd dwi ddim yn gwybod pa benefit mae'r plant yn gael allan ohono fo am y cyfnod prin fydd o."

Mae'r rhaglen yn dilyn hynt rhai o ddisgyblion ysgol gynradd Maesincla yng Nghaernarfon yn ystod cyfnod y locdown.

Yn ogystal â gweld sut mae'r plant o'r gyfres gyntaf wedi ymdopi adref mae'r rhaglen yn clywed gan y brifathrawes Manon Gwynedd wrth iddi hi baratoi gwaith ac adnoddau i'r plant tra maen nhw adref. Ar y rhaglen mae hi'n cyfaddef fod clywed eu bod yn ail-agor wedi bod yn syndod mawr iddi.

'Ceg-agored'

Roedd yn sioc i Mr Wyn hefyd yn enwedig ar ôl iddo weld sut wnaeth sefyllfa Covid-19 ddatblygu wedi i'r ysgolion gau ym mis Mawrth.

"Fel oedd amser yn mynd yn ei flaen roeddet ti'n gweld y difrifoldeb a sut roedd y llywodraeth yn Llundain wedi handlo'r holl beth ac roeddet ti'n meddwl 'No way' ydyn ni'n mynd i fynd nôl i fewn, achos ei bod hi mor ddiawledig - doedd pethau ddim yn eu lle, y track and trace a bob dim ar ei hôl hi.

"Ro'n i'n meddwl 'no way' wnawn nhw beryglu a rhoi unrhyw berson, plentyn neu deulu mewn risg - pawb yn cymysgu wedyn mynd nôl i'w cartrefi gyda'r nos.

"Oedd y cyhoeddiad [i ail-agor ysgolion i bob plentyn] i fi...wel, oedd y wraig a finnau, mae'r ddau ohonan ni'n dysgu, y ddau ohonan ni â'n cegau ar agor! O'n i ddim yn coelio'r peth!"

Roedd yr ysgol yn "hanner disgwyl" efallai y bydden nhw'n agor i blwyddyn chwech, y rhai sydd ar fin mynd i'r ysgol uwchradd, "iddyn nhw gael dweud 'ta ta'", ac wedi mesur dosbarthiadau er mwyn gallu cadw'r disgyblion hynny ddau fetr oddi wrth ei gilydd.

"Ond pan ga'th y cyhoeddiad ei wneud oeddan ni methu coelio'r peth eu bod nhw'n dweud bod pawb, pob blwyddyn o'r ysgol, yn mynd nôl. Roedd hynny'n bach o sioc.

Ddim yn meddwl fel plentyn

"Ar y gorau, pan oedd yr ysgol yn rhedeg yn normal, wnaiff y plant, yn reddfol y dyddiau yma, ddim eistedd yn llonydd mewn un lle.

Image copyright S4C
Image caption Mae Dim Ysgol: Maesincla yn dilyn hynt disgyblion fel Cai Wyn wrth iddyn nhw ddelio efo bywyd adref yn y cyfnod clo

"Does gen ti ddim chance ... mae'r syniad o gael plant i mewn a disgwyl iddyn nhw barchu'r ddau fetr pan nad ydi'r plant eu hunain yn gwybod faint ydi dau fetr, mae'r syniad yn dod o ben oedolyn, dydyn nhw ddim wedi meddwl fel plentyn."

Ond beth am blant bregus a'r angen i sicrhau cyswllt diogel iddyn nhw?

"Dwi'n deall y pwynt ond does gan yr ysgol ddim math o bŵer i sicrhau fod y plant bregus yna yn dŵad i'r ysgol. Os ydyn nhw'n deulu bregus, fel arfer neith nhw ddim gyrru'r plant ... felly mae fel ein bod ni'n methu'r targed yn fanna hefyd.

"Os oes na broblem adra yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd i yrru'r plant yna i adrodd hynny i chdi," meddai.

Mae plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn cael pecynnau penodol gan arbenigydd ADY i'w helpu dros y tri mis diwethaf meddai.

Rhy gyflym?

"Dwi bach yn amheus o'r holl beth i fod yn onest," meddai Dylan Wyn Evans gan awgrymu fod pethau'n cael eu symud "yn gyflymach ella na ddylsan nhw"

Image copyright S4C
Image caption Mae llawer o blant Cymru wedi bod adref o'r ysgol ers mis Mawrth 2020

"Wnes i wylio Kirsty Williams ddydd Mercher a marn bersonol i ydy ei bod hi dan yr argraff ei fod o'n bluen yn ei chap hi mai Cymru ydi'r unig wlad yn y DU lle mae pawb yn mynd yn ôl.

"Nath hi ddweud hynny fwy nag unwaith - dwi ddim yn gwybod a ydi o'n fwy gwleidyddol nag ydio yn fuddiol a bod yn onest? Dwi'n meddwl ei fod yn benderfyniad peryglus ac annoeth."

Mae Llywodraeth Cymru fodd bynnag yn dweud bod plant yn "elwa" o fod yn yr ysgol ac y byddai aros ar gau yn hirach yn creu mwy o anawsterau.

'Llawer ddim yn anfon plant nôl'

Mae'r plant sy'n dychwelyd i Maesincla ar 29 Mehefin yn cael eu rhoi mewn grwpiau bach ac yn gorfod aros yn eu 'swigen' drwy gydol yr amser. Mae lle i chwech yn nosbarth Mr Wyn dan y rheolau cadw pellter, ond fydd pob un o'r plant sydd wedi eu gwahodd i ddod nôl am bedwar diwrnod ddim yno.

"Tair sydd gen i mewn, allan o chwech. Dydi lot o'r rhieni ddim yn gyrru eu plant yn ôl," meddai.

Mae Dylan Wyn Evans yn falch na fydd ei blant ei hun, na'i wraig fel athrawes, yn mynd nôl i'r ysgol chwaith gan eu bod yn byw ar Ynys Môn - mae'r cyngor yno wedi penderfynu peidio ag agor ysgolion y sir ddydd Llun oherwydd yr achosion diweddar o'r coronafeirws sydd wedi eu canfod mewn ffatri gig yn Llangefni.

Image copyright S4c
Image caption Mae Dylan Wyn Evans yn byw yn Ynys Môn ac yn athro yn Ysgol Maesincla, Caernarfon

"Dydi'r feirws ddim wedi diflannu naddo?

"Mae goblygiadau beth sydd wedi digwydd yno yn mynd i fod ychydig yn fwy pellgyrhaeddol na jyst yr ardal leol ac i hynna ddigwydd yn union run pryd ag ydan ni'n bwriadu mynd yn ôl i'r ysgol, mae hynna bach yn sgeri."

Beth fydd yr effaith ar blant?

Cyn dod yn athro, cefndir mewn seicoleg oedd gan Mr Wyn. Pa effaith seicolegol mae'n meddwl fydd y cyfnod yma yn ei gael ar y plant?

"Mae plant yn addasu yn well nag oedolion yn fy marn i, maen nhw'n gallu dod i arfer efo pethau'n reit sydyn.

"Dwi wedi siarad efo rhai o'r plant adref a maen nhw'n ddistawach na maen nhw wedi bod. Mae yn amlwg yn mynd i gael effaith yn sicr, ond mae ganddyn nhw ddigon o resilience i ddod drosta fo. Fyddan nhw'n iawn.

"A dwi'n gobeitho bydd lot wedi enjoio bod adre efo'u teulu hefyd a'r rhieni wedi eu helpu nhw trwy'r cyfnod - dio ddim yn wir am bob person dwi'n gwbod ac mae'n bwysig iddyn nhw gael eu hintegreiddio nôl i'r system lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael y sylw a'r cariad yn yr ysgol. Ond mae'r plant yn reit resilient.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn chwarae hynny lawr chydig bach - bod plant yn gallu addasu a goresgyn unrhyw beth, dim dowt."

Agor yn 'ddiogel'

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod "lles cymdeithasol, emosiynol a seicolegol" y plant yn ystyriaeth yn eu penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Drwy weithio gyda'n gilydd, Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle bydd pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf. Mae cyrraedd y sefyllfa unigryw hon wedi cynnwys penaethiaid, staff addysg ehangach, undebau ac awdurdodau lleol.

"Rydym yn cydnabod y pryderon sydd gan athrawon, rhieni a gofalwyr efallai ac, yn gynharach yn ystod y mis hwn, lluniwyd canllawiau ar gyfer ailagor mewn ffordd ddiogel a strwythuredig.

"Cynghorwyd ysgolion i ddod â phlant yn ôl i ddosbarthiadau llai, er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr cyn belled ag y bo modd. Rydym yn gwybod bod y risg o haint i blant ac athrawon yn lleihau os nad yw'r grwpiau o ddosbarthiadau bach yn cymysgu - felly gofynnir i ysgolion gynllunio ar gyfer derbyn plant yn y bore fesul grŵp, a chael egwyliau ac amseroedd cinio, a mynd gartref, fesul grŵp."

"Rydym hefyd yn gwybod bod plant yn elwa mewn cymaint o ffyrdd o fod yn yr ysgol gan eu bod angen rhyngweithio cymdeithasol a dysgu i sicrhau lles cymdeithasol, emosiynol a seicolegol da yn y dyfodol yn ogystal â chanlyniadau addysgol da. Po hiraf fydd ysgolion yn aros ar gau, y mwyaf dwys fydd yr anawsterau a bydd yr her i'w goresgyn yn fwy hefyd. Rhaid i ni ganolbwyntio ar gydbwysedd a buddiannau gorau plant yn gyffredinol."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig