Pryder bod rhieni di-Gymraeg yn troi at addysg Saesneg

Addysg Image copyright Jade Williams

Wrth iddi ddod i'r amlwg bod posibilrwydd y bydd rhaid i rieni Cymru barhau i ddysgu o adref yn rhannol yn y flwyddyn academaidd nesaf, cynyddu mae'r pryderon am effaith hynny ar addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, RhAG, yn lansio arolwg o rieni addysg cyfrwng Cymraeg i holi am eu teimladau ers dechrau argyfwng coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr heriau mae pob rhiant yn eu hwynebu gyda dysgu o gartref ar hyn o bryd.

Ystyried newid ysgol

Un sy'n ystyried tynnu ei merch o ysgol gynradd Gymraeg yng ngogledd y brifddinas yw Louise Ballinger. Dyw hi na'i gŵr ddim yn siarad Cymraeg, ac mae ei merch, Ella, 9, ym mlwyddyn pedwar, a'i merch ieuengaf, Amelia, 5, yn y dosbarth meithrin.

"Mae wedi bod yn ofnadwy," medd Louise, "Mae wedi gwneud i fi gwestiynu fy mhenderfyniad i'w hanfon drwy addysg Gymraeg.

"Mae fy merch fach fod i ddechrau yn yr ysgol Gymraeg, ond ers dechrau'r cyfnod clo rwy wedi meddwl na i ei hanfon hi i ysgol Saesneg. Mae wedi bod yn hunllef llwyr."

Image copyright Louise Ballinger
Image caption Louise Ballinger gyda'i merched

Roedd Louise wedi dewis addysg Gymraeg i'w phlant gan ei bod hi'n teimlo y byddai o fudd iddyn nhw gael ail-iaith a'i bod hi'n bwysig i allu siarad Cymraeg yng Nghymru. Ond, mae'n dweud i'w merch hynaf gael trafferthion gyda'r Gymraeg hyd yn oed cyn y cyfnod clo.

Ar ôl deuddeg wythnos heb fynd i'r ysgol, daeth Louise i sylweddoli nad oedd Ella wedi siarad Cymraeg o gwbl am 12 wythnos ac fe benderfynodd dalu tiwtor i siarad gyda hi dros Facetime unwaith yr wythnos. Ond mae'n dweud bod pethau wedi dod i'r pen.

Heriau dysgu adref

"Mae fy ngŵr a fi wedi eistedd lawr gyda'r ferch hyna a siarad gyda hi am ei symud i ysgol Saesneg. Hyd yn oed os na fydd hi'n symud, ry'n ni'n debyg o ddewis trywydd arall i'w chwaer fach.

"Mae'r ysgol yn ffantastig, ond mae popeth yn dod drwodd yn Gymraeg, ac mae'r hynaf yn wael am ei gyfieithu i fi. Dyw hi ddim yn fodlon ei ddarllen e i fi. Dyw hi ddim wedi siarad Cymraeg o gwbl am 12 wythnos."

Ychwanegodd: "Do'n ni ddim yn gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd, ond tasen i'n gallu troi'r cloc nol, fasen i ddim wedi eu hanfon nhw i ysgol Gymraeg."

Roedd hi'n feirniadol o sylwadau'r Gweinidog dros yr iaith Gymraeg, Eluned Morgan, yr wythnos ddiwethaf pan ddywedodd y dylai rhieni di-Gymraeg annog eu plant i ddefnyddio'r iaith pan yn chwarae gemau cyfrifiadur gyda'u ffrindiau: "Mae hynny'n hurt, ac yn dangos ei bod hi 'out of touch'."

Image copyright Marie Jezequel
Image caption Marie Jezequel gyda Teilo ag Ellie

Mae Marie Jezequel hefyd yn dweud bod dysgu o adref drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn gwbl amhosib. "Mae wythnosau wedi mynd heibio lle nad y'n ni wedi neud unrhyw beth drwy gyfrwng y Gymraeg heblaw am y tasgau sillafu efallai. O ran y tasgau eu hunain, a'r ysgrifennu, ry'n ni wedi eu gwneud nhw yn Saesneg."

Mae ei mab Teilo yn 10 oed a'i merch Ellie, yn 8 a'r ddau mewn ysgol gynradd Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd.

"Mae'r athrawon wastad yn bositif ac yn cymell y plant ond dy'n ni ddim wedi cael unrhyw gyswllt byw a'r athrawon o gwbl."

'Colli awydd'

Mae Marie yn dweud bod y plant wedi colli unrhyw awydd i gwblhau eu tasgau, a heb wneud dim ers symud tŷ dair wythnos yn ôl. Mae'n falch iawn o'r cyfle iddyn nhw gael dychwelyd i'w dosbarth cyn y gwyliau haf.

"Mae'r ysgol yn fwy na dim ond dysgu, mae ar gyfer eu lles meddyliol hefyd, ac mae'r ddau wedi teimlo'n isel ar adegau. Am y rhesymau hynny rwy'n falch eu bod nhw'n mynd nol i'r ysgol."

Image copyright Jade Williams
Image caption Jade Williams gyda'i mab

Un o'r rhieni di-Gymraeg sydd yn dweud bod dysgu o adref wedi bod yn brofiad positif yw Jade Williams o'r Barri, mae ei mab Rufus, 5, yn y dosbarth derbyn mewn ysgol leol yno.

"Mae'r ysgol wedi bod yn hynod gefnogol, a rhieni ffrindiau fy mab sy'n siarad Cymraeg. Maen nhw wedi helpu gyda'r cyfieithiadau pan fo angen. Fe ddarllenes i erthygl ar wefan BBC Cymru am ddysgu o adref mewn iaith arall ac fe helpodd hwnna fi yn fawr ac es i ati i wneud rhai o'r pethau oedd yn cael ei argymell. Fe roddodd agwedd mwy positif i fi."

Clywed barn rhieni fel Louise, Marie a Jade yw bwriad arolwg mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, yn ôl Elin Maher, cyfarwyddwr gweithredol RHAG.

"Yn ni moyn clywed beth yw'r heriau maen nhw wedi'u wynebu. Yn ni moyn gofyn cwestiynau syml fel pa brofiadau ry'ch chi wedi'i gael, pa fath o ddysgu mae'ch plentyn wedi'i neud dros y misoedd dwetha, a holi am blatfformau.

"Ni moyn gweld o'r holiadur ydi rhieni wedi mynd ati i gefnogi eu plant. Yn anecdotaidd rwy'n clywed eu bod nhw".

Image copyright Elin Maher
Image caption Elin Maher o Rieni Dros Addysg Gymraeg

Mae Rhag, fel mudiad athrawon UCAC a'r NAHT yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth gadarn i helpu rhieni ymdopi drwy'r cyfnod nesaf o ddysgu ac yn dweud bod heriau penodol o fewn addysg cyfrwng Cymraeg.

"Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb hynod bwysig fan hyn i roi arweiniad a sicrhau cyllideb i ddod a platfformau digidol newydd," medd Elin Maher.

"Mae rhaid i ni sylweddoli ein bod ni mewn cymuned lle mae Saesneg yn dominyddu felly mae trochi iaith yn gorfod digwydd yn gyson. A'r ffordd mae hynny'n digwydd yw cyswllt cyson gyda'r iaith, yn yr ysgol, yn ein byd bob dydd wrth gymdeithasu ac ati. Mae'n rhaid i ni ail-greu ac ailddyfeisio y cyfleon yna."

Mae RhAG yn dweud eu bod wedi cysylltu a grwpiau ymgyrchu tebyg iddyn nhw mewn gwledydd eraill sydd wedi wynebu heriau yn ystod y cyfnod clo, yn cynnwys Parents for French yng Nghanada.

"Dy'n ni ddim ar ben ein hunain fan hyn," medd Elin Maher, "Mae'r sefyllfa yma yn debyg ar gyfer ieithoedd lleiafrifol mewn sawl man yn Ewrop a thu hwnt."

Undebau addysg

Mae Undeb UCAC hefyd yn galw am fuddsoddi mewn gwaith arlein: "Dydan ni ddim wedi datblygu cydraddoldeb digidol ac mae wir angen rhyw fath o strategaeth," medd Dilwyn Roberts-Young o'r undeb.

Mae NAHT Cymru hefyd yn cydnabod bod angen mwy o gyfleon i blant gysylltu a'u hathrawon yn fyw dros y we.

"Mae ysgolion wedi bod yn ymateb yn wahanol ar draws Cymru," medd Gareth Owen o NAHT Cymru.

"Mae rhai wedi bod yn ffrydio'n fyw o ran gweithgareddau lles efo'r disgyblion, a'n gyfle i gael sgwrs efo disgyblion o dan drefniadaeth lleol a pholisi pendant o fewn ysgolion. Mae 'na recordiadau wedi'u gwneud gan ysgolion. Mae 'na lot fawr o adnoddau ar gael i rieni i ddysgu adre."

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr heriau y mae pob rhiant yn eu hwynebu gyda dysgu o gartref ar hyn o bryd. Rydym wedi rhoi canllawiau i ysgolion i'w helpu yn ystod y pandemig, gan gynnwys darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd cyfle i'r disgyblion ailgydio a dal i fyny o wythnos nesaf."

"Mae ein fframwaith Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu yn cynnwys cymorth penodol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg sydd â theuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cyngor i rieni a gofalwyr ar sut y gallant gefnogi eu plant i ddefnyddio'r Gymraeg gartref."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol