Profi twristiaid am coronafeirws er mwyn 'tawelu ofnau'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Eleri Davies ei bod yn "bwysig i ni gael rhywfaint o dymor"

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y byddai cynllun o'r fath yn "tawelu ofnau llawer iawn o bobl."

Mae Ceredigion wedi ennill clod am y modd y mae wedi delio â coronaferiws, gyda llai na 50 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 trwy'r sir.

Ond ychwanegodd Ms ap Gwynn nad yw'n credu bod cymunedau'r sir yn barod i groesawu ymwelwyr eto.

'Nerfus iawn'

"Dwi ddim yn credu ein bod ni'n barod eto. Pan ydyn ni'n clywed adroddiadau nôl gan aelodau lleol a'r cyhoedd maen nhw'n nerfus iawn o groesawu pobl yn ôl," meddai.

"Pe byddan ni'n gallu rheoli niferoedd ac o lle maen nhw'n dod yna efallai y byddan nhw'n hapus, ond wrth gwrs mae hynny'n anodd iawn i'w wneud."

Image caption Dyw Ellen ap Gwynn ddim yn credu bod cymunedau'r sir yn barod i groesawu ymwelwyr eto

Ychwanegodd y byddai hyder pobl yn cynyddu pe bai modd cynnal profion Covid-19 neu brofion tymheredd ar unrhyw un sy'n dod i'r sir, ond y "byddai angen capasiti llawer mwy na sydd 'na nawr."

"Pe byddai pobl yn gallu cael eu profi ar ôl dod i mewn, ac yn profi'n negyddol, yna byddai hynny'n help mawr," meddai.

"Pe byddai modd gwneud hynny byddai'n tawelu ofnau llawer iawn o bobl dwi'n siŵr."

Ond ychwanegodd Ms ap Gwynn y byddai'n "dipyn o her" cael profion o'r fath mewn lle.

Pryder am ail don

Dywedodd bod poblogaeth Ceredigion wedi lleihau o tua 35,000 yn sgil cau meysydd carafánau a Phrifysgol Aberystwyth.

Pe bai ymwelwyr yn dychwelyd, dywedodd Ms ap Gwynn bod ganddi bryderon a allai'r gwasanaeth iechyd lleol ymdopi pe bai ton newydd o achosion.

Image caption Mae'r pandemig wedi bod yn ergyd sylweddol i Faes Carafanau Blaenwaun ar arfordir Ceredigion

Mae Eleri Davies a'i gŵr yn rhedeg Maes Carafanau Blaenwaun ar arfordir Ceredigion, ac yn dweud bod busnesau fel eu rhai nhw wedi dioddef yn sylweddol yn ystod y pandemig.

Er ei bod hi'n "eithaf cefnogol" o'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi taclo'r pandemig, mae'n dweud y byddai'n dda i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth gael mwy o sicrwydd ynghylch eu hamserlen o ran ailagor.

"Mae'n anodd iddyn nhw roi dyddiad… achos falle bydd y sefyllfa wedi newid yn llwyr," meddai.

"Ond tasen nhw'n dweud 'ni fyddwn ni'n edrych ar y sefyllfa nes 1 Awst' er enghraifft, ma' fe'n rhoi tamed bach o amser i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer sut i agor."

'Cydsyniad cymunedol'

Mae'n cydnabod fodd bynnag nad pawb yn yr ardal fyddai'n croesawu gweld ymwelwyr yn dychwelyd i Geredigion, gyda'r pandemig yn parhau a'r sir ar hyn o bryd â'r gyfradd Covid-19 isaf yng Nghymru.

"Pan fyddwn ni'n agor bydden ni yn gobeithio falle bod ni'n gallu gwneud hynny gyda rhyw gydsyniad cymunedol, a bod yr ymwelwyr sydd yn dod yn parchu ac yn cydymffurfio â'n rheolau ni a'n gweithdrefnau ni yma yng Nghymru," meddai.

Image caption Mae Fferm Folly â throsiant blynyddol o £8m ac mae'n cyflogi 150 o staff

Mae un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru roi eglurder cyn gynted â phosib ynglŷn â phryd y bydd modd ailagor busnesau twristiaeth.

Dywedodd Chris Ebsworth, rheolwr gyfarwyddwr Fferm Folly, bod y sefyllfa yn "ddifrifol" i'r busnes a'i bod yn "hanfodol i gael rhywfaint o refeniw."

"Heb refeniw fydd hi ddim yn bosib i oroesi," meddai.

Mae'n costio £60,000 bob mis i fwydo'r anifeiliaid yn Fferm Folly, sydd yng Nghilgeti yn Sir Benfro. Mae gan y busnes drosiant blynyddol o £8m ac mae'n cyflogi 150 o staff.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu y bydd yna gyhoeddiad am dwristiaeth yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener.

Image caption Dywedodd Chris Ebsworth eu bod wedi paratoi strategaeth i ailagor ers deufis

Dywedodd Mr Ebsworth bod y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn "hanfodol i oroesiad economaidd Cymru" a bod angen i bethau newid yn "weddol sydyn."

Mae'n dweud bod y busnes wedi bod yn paratoi strategaeth i ailagor ers deufis.

"Mae gyda ni 150 o erwau," meddai.

"Os ydyn ni yn cyfyngu ar y niferoedd, fe allwn ni roi un erw bron iawn o bob person.

"Fydd hi ddim yn bosib ailagor rhai atyniadau dan do."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol