Cynnal sesiynau therapi celf dros y we i gleifion canser

Lluniau claf
Image caption Weithiau mae creu darlun yn haws i gleifion na cheisio canfod y geiriau i fynegi eu teimladau

Mae cleifion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig wedi arfer gorfod teithio'n bell am apwyntiadau ysbyty, ond oes modd lleihau'r angen i deithio trwy wneud defnydd o dechnoleg?

Efallai taw'r dechnoleg sydd wedi dod yn fwy cyfarwydd i ni gyd yn ystod y cyfnod clo yw cyfathrebu dros y we.

Mae prosiect gan Brifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynnig cyfle i gleifion canser gymryd rhan mewn sesiynau therapi heb orfod gadael eu cartrefi.

Nawr mae'n bosib y bydd y sesiynau yn cael eu cynnig i gleifion eraill sy'n hunan-ynysu neu'n methu teithio'n ddiogel i apwyntiadau.

'Anodd disgrifio mewn geiriau'

Mae Gudrun Jones, sy'n therapydd celf gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn cynnig sesiynau therapi o bell o Dŷ Geraint, y ganolfan gofal lliniarol ar dir Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Yn ystod y sesiynau mae Gudrun yn ei swyddfa gydag iPad o'i blaen, ac mae'r claf gartref gyda'i sgrîn ei hun yn dangos darn o waith celf y mae wedi'i greu fel ffordd o fynegi sut mae'n teimlo.

Weithiau mae creu darlun - sydd wedyn yn fan cychwyn ar gyfer y sesiwn therapi - yn haws na cheisio canfod y geiriau.

Image caption Dywedodd Gudrun Jones bod cleifion yn teimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud sesiynau o'u cartrefi

"I ddechrau ro'n i'n meddwl 'sai'n siŵr sut mae hyn yn mynd i weithio'," meddai Gudrun.

"Ond ymateb y cleifion yw bod e'n teimlo'n gysurus a'u bod nhw dal yn teimlo eu bod nhw'n cael digon o gefnogaeth.

"Mae'r claf yn gallu dangos y llun i'r iPad ac ry'n ni'n gallu trafod e, dim problem.

"Mewn un ffordd mae rhai pobl yn hapusach fel yna, achos ambell waith mae'n anodd iawn disgrifio beth sy'n digwydd mewn geiriau yn unig."

Ymestyn i fwy o gleifion?

Dywedodd Gudrun hefyd bod cleifion yn teimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud y sesiynau therapi o'u cartrefi eu hunain.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cydweithio ar y prosiect gydag adran seicoleg Prifysgol Aberystwyth.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r gallu i siarad â therapydd neu feddyg dros y we yn gallu dileu llawer o'r gofid sydd ynghlwm â gorfod teithio i apwyntiad ysbyty - a theithio'n bell yn amlach na pheidio mewn ardaloedd gwledig.

Image caption Dywedodd Dr Rachel Rahman bod cyfle i ddefnyddio'r dechnoleg yn ehangach

Dr Rachel Rahman o adran seicoleg y brifysgol yw cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig.

Ar ôl yr ymchwil wnaeth ganolbwyntio ar y gwasanaeth therapi o bell i gleifion canser, mae'n gweld y byddai'n fuddiol hefyd i gleifion mewn sawl maes arall o'r gwasanaeth iechyd.

"Mae pobl yn teimlo'n fwy hyderus pan maen nhw gartre," meddai. "Roedd pobl yn sôn am deimlo'n fwy hyderus i ofyn cwestiynau, i allu paratoi ar gyfer y sesiwn achos doedden nhw ddim yn poeni am deithio mewn, parcio, neu bwy oedd yn mynd i ddod â nhw.

"Felly rwy'n credu bod mwy o fuddiannau ar gyfer y cyhoedd.

"Mae'r gallu yna i gysylltu gyda rhywun heb orfod trafeilio'n bell am falle sesiwn 10 munud gyda meddyg."

Yn ystod y cyfnod clo mae cymaint ohonom ni wedi dysgu ffyrdd newydd o gyfathrebu trwy gyfrwng sgwrs ar sgrîn - mae hynny wedi helpu i leihau rhwystrau oedd yna gynt efallai o ran trafod gyda meddyg yn yr un modd.

Er trafferthion gyda'r we mewn rhai mannau, mae 'na gyfle nawr i ddefnyddio'r dechnoleg yn ehangach, yn ôl Dr Rahman.

"Roedd problemau ar y dechrau gyda chyflymder y band eang felly doedd pawb ddim yn gallu defnyddio'r offer mor effeithiol a fydden i wedi hoffi," meddai.

"Roedd pryderon hefyd os byddai pobl hŷn yn gallu ymdopi â'r dechnoleg ond roedd pobl yn eu 40au hyd at yr 80au yn rhan o'r prosiect, ac fe wnaeth pawb, gyda gwahanol lefel o gymorth, ymdopi'n dda.

"Fi'n credu yn y cyfnod clo presennol ry'n ni wedi gweld i ba raddau mae pobl yn gallu dod i'r afael â thechnoleg syml er mwyn cysylltu gyda'r teulu, felly does dim rheswm da pam na allwn ni wneud defnydd o hwnna yn y gwasanaethau iechyd a gofal."

Straeon perthnasol