'Camgymeriadau sylfaenol' yn nyddiau cynnar yr Ardd Fotaneg

Tŷ Gwydr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Image copyright GFGC/Darren Boxer
Image caption Fe wnaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru agor i'r cyhoedd yn 2000

Wrth i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol baratoi i ddathlu 20 mlynedd ers agor ei drysau, mae'r pennaeth dros dro yn cyfaddef bod adegau wedi bod pan nad oedd hi'n edrych fel y byddai'r lle'n cyrraedd y garreg filltir.

Er na fydd modd i'r Ardd ddathlu ei phen-blwydd yn iawn eleni oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, o leia' mae hi nawr mewn lle i allu goroesi pandemig o'r fath, yn ôl Gary Davies.

Fe agorodd y safle 568 acer ger Llanarthne yn Sir Gâr ym mis Mai 2000, ar gost o £43m.

Ond ar ôl y llwyddiant cynnar, gyda 240,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf, disgynnodd y niferoedd i lai na 100,000 y flwyddyn.

"Does dim dwywaith am y peth, yn y dyddiau cynnar fe wnaethon ni gamgymeriadau sylfaenol," meddai Mr Davies.

"Gan ein bod ni'n newydd... fe wnaethon ni gynllunio ar y sail y byddai'r [niferoedd ymweld cychwynnol] yn parhau am byth.

"Fe wnaethon ni ymestyn yn rhy bell a bron â thalu'r pris."

Image copyright GFGC/Aled Llywelyn
Image caption Mae'r Ardd wedi gweithio'n galed i wneud y lle'n fwy deniadol i ymwelwyr ifanc

Dwywaith bu'n rhaid i'r Ardd gael ei hachub yn ariannol, gyda grantiau gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol.

Ond erbyn hyn mae nifer yr ymwelwyr wedi codi eto i lefelau "cynaliadwy", gyda 160,000 yn dod drwy'r drysau llynedd.

Yn 2010 dim ond chwarter eu hincwm oedd yn cael ei gynhyrchu ganddyn nhw'u hunain, gyda'r gweddill yn dod o grantiau, ond erbyn heddiw mae'r sefyllfa wyneb i waered.

"Yn y 200au cynnar roedd y gerddi'n eitha' anaeddfed, ac i fod yn onest ddim mor ddeniadol â hynny," cyfaddefodd Mr Davies, sydd hefyd yn gadeirydd ar ymddiriedolwyr yr ardd.

"Mae wedi cymryd 20 mlynedd iddyn nhw gyrraedd eu llawn ogoniant."

'Erioed wedi edrych cystal'

Mae'r Ardd Fotaneg hefyd wedi datblygu eu cyfleusterau dros y blynyddoedd, gyda'r Plas Pilipala, maes chwarae i blant, a hyd yn oed cyfleusterau sorbio.

"Nes i glywed gan un rhiant fod eu plentyn yn arfer crio pan oedden nhw'n clywed eu bod nhw'n mynd i'r Gerddi Botaneg am y dydd - nawr maen nhw'n crio pan mae'n rhaid iddyn nhw fynd adref," ychwanegodd Mr Davies.

Er nad yw'r Ardd yn gallu dathlu ei phen-blwydd yn iawn eleni wrth i'w drysau gau oherwydd y pandemig, mae rhywfaint o'u gwaith addysg yn parhau i ddigwydd gan gynnwys gwersi ar-lein.

Image copyright GFGC/Tim Jones
Image caption Mae gwarchod planhigion yn un o'r pethau pwysig sy'n digwydd yn yr ardd

Ac yn ôl Mr Davies, mae'n fendith o leiaf bod hyn heb ddigwydd degawd yn ôl "pan oedden ni mewn llanast ariannol llwyr".

"Rydyn ni wedi medru cadw rhai staff a gwirfoddolwyr, yn edrych ar ôl yr ardd dan bellter priodol, a'r eironi yw dydyn nhw erioed wedi edrych cystal," meddai.

Ychwanegodd: "Pan mae hyn i gyd drosto bydd angen i ni helpu'r holl westai, tafarndai a busnesau bach sydd wedi'n helpu ni dros y blynyddoedd.

"Nid pawb sy'n mynd i fod mor lwcus â ni, ond fe wnawn ni beth allwn ni i helpu.

"Falle bod ni wedi methu dathlu'n pen-blwydd yn 20, ond dwi wedi addo parti pen-blwydd anferth ar gyfer yr 21ain, pan fyddwn ni'n croesawu'n ffrindiau ni i gyd 'nôl."

Straeon perthnasol