Coronafeirws: Pryder am dorri gwasanaethau iechyd meddwl

menyw mewn masg yn edrych drwy'r ffenestr Image copyright Getty Images

Mae elusennau iechyd meddwl yn poeni fod llai o gymorth ar gael i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywedodd elusen Hafal bod asesiadau a sesiynau cwnsela wedi "diflannu neu wedi cael eu cwtogi'n sylweddol."

Ychwanegodd Mind Cymru fod un o bob pump oedd wedi ceisio cael cymorth i ddelio gyda phroblem iechyd meddwl yn y pythefnos diwethaf wedi methu.

Dim ond y cleifion hynny sydd fwyaf mewn perygl sy'n cael apwyntiadau wyneb yn wyneb, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Mewn ymateb dywedodd byrddau iechyd Cymru nad yw gwasanaethau iechyd meddwl "ar gau," ond bod angen gwneud penderfyniadau anodd i leihau'r risg i staff a chleifion.

'Gwasanaethau ar gael'

Dywedodd Mair Elliott, cadeirydd bwrdd ymddiriedolaeth Hafal, bod yr elusen wedi gweld cynnydd o 100% mewn ceisiadau am help gan bobl ar ôl i apwyntiadau brys gael eu canslo neu os oedden nhw yn methu cysylltu gyda'u tîm iechyd meddwl.

"Rydym angen arweiniad gan Lywodraeth Cymru, yn gyntaf i sicrhau fod pobl yn aros yn saff," meddai.

"Mae'n bosib nad yw pobl sydd â salwch meddwl difrifol yn cael cysondeb, ac mae'n gallu bod yn wirioneddol ofidus iddyn nhw.

"Mae'n bosib nad yw'n swnio mor ddramatig ag achub rhywun sy'n dioddef trawiad ar y galon, ond mae hyn yn ofal achub bywyd hefyd," meddai Ms Elliott.

Image caption Mae Mair Elliot ei hun yn dweud ei bod wedi gorfod chwilio am gymorth yn ystod y pandemig

Yn ôl Darren Hughes o gonffederasiwn GIG Cymru, mae'r sefyllfa wedi bod yn anodd iawn, ond ei bod hi'n bwysig dweud bod gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i gael eu cynnal ledled Cymru.

"Mae 'na gymorth i'r rhai sydd ei angen" meddai, "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch o'r enw 'Sut wyt ti?' Mae'n rhaid i ni ddarparu cymorth a gwasanaethau mewn ffordd wahanol oherwydd covid. Mae staff yn gwneud popeth allan nhw i gynnal gwasanaethau."

Dywedodd Joanna Jordan, arweinydd iechyd meddwl gyda Chydweithrediad GIG Cymru (NHS Wales Health Collaborative), sy'n cynrychioli'r byrddau iechyd, bod Llywodraeth Cymru wedi nodi darpariaeth iechyd meddwl fel gwasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig.

"O'r dechrau un mae'r byrddau iechyd wedi bod yn glir na all gwasanaethau iechyd meddwl gau, a dydyn nhw ddim wedi cau," meddai.

"Maen nhw'n gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â phwy y byddan nhw'n parhau i'w cefnogi a sut y byddan nhw'n parhau i'w cefnogi, yn seiliedig ar asesiadau risg."

Ond mae arolwg o 676 o bobl gan Mind Cymru'n awgrymu fod cwtogi gwasanaethau yn cael effaith pellgyrhaeddol.

Roedd dros 16% wedi ceisio cael help gan wasanaeth iechyd meddwl y GIG yn y pythefnos diwethaf, ond roedd un o bob pump wedi methu â'i gael.

'Colli cefnogaeth'

Dywedodd Joanne Ellison-Brooks, 49, o Langollen, ei bod wedi teimlo siom enfawr ar ôl i'w thîm iechyd meddwl ganslo ei sesiynau cwnsela misol, a chau ei hachos.

Roedd hyn wedi rhoi diwedd ar berthynas agos gyda nyrs iechyd meddwl a oedd wedi ei helpu hi ar ôl i achos o orbryder arwain at arhosiad yn yr ysbyty, meddai.

"Dwi wedi colli'r ddynes anhygoel yma, fy lifeline," meddai.

"Dywedwyd y gallwn fynd yn ôl at fy GP a chael fy ailgyfeirio o'r newydd ar ôl i hyn i gyd fynd heibio, ond mi gymerodd hynny naw mis y tro diwethaf, ac mi allai fod yn flwyddyn cyn y câf fy ailgyfeirio eto.

"Mae hyn wedi bod yn ergyd go iawn."

Image copyright Joanne Ellison-Brooks
Image caption Mae Joanne Ellison-Brooks yn anhapus gyda'r gefnogaeth mae hi wedi'i gael ers dechrau'r pandemig

Mewn ymateb dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi gwneud nifer o newidiadau dros dro i allu cyflenwi cefnogaeth iechyd meddwl yn ystod y pandemig.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd, Dr Alberto Salmoiraghi, eu bod wedi gwneud hynny er mwyn lleihau'r risg y gallai cleifion gael eu heintio â'r feirws a rhag ofn i nifer fawr o staff y GIG orfod hunan ynysu.

"Nid yw unrhyw un o'n gwasanaethau wedi cau, ond rydym wedi gorfod cyflwyno ffyrdd newydd o weithio, meddai Dr Salmoiraghi.

"Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys sefydlu Rhith-dîm Adnoddau Cymunedol sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos i gefnogi'r mwyaf bregus a'r rhai sydd dan y mwyaf o risg yn y gymuned."

Straeon perthnasol