Cerddi i roi cysur mewn cyfnod tywyll

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionGrug Muse yn cael ei chadeirio yn yr Eisteddfod Rhyng-Gol llynedd

Mewn cyfnodau anodd a phryderus, mae barddoniaeth yn gallu cynnig cysur a nerth.

Y bardd Grug Muse, un o olygyddion cylchgrawn a gwefan Y Stamp, sy'n dewis pump cerdd ar gyfer y cyfnod ansicr yma.

Mae'r Ddaear yn Glasu - Carol Haf, gan Ioan ab Hywel Glangwili, 1774-1839

Mae'r ddaear yn glasu, a'r coed sydd yn tyfu,

A gwyrddion yw'r gerddi, mae'r llwyni mor llon;

A heirdd yw'r eginau, a'r dail ar y dolau,

A blodau'r perllannau pur llawnion.

Os bu yn ddiweddar wedd ddu ar y ddaear,

Cydganodd yr adar yn gerddgar i gyd;

Gweld coedydd yn deilio a wnâi iddynt byncio

Cydseinio drwy'n hoywfro draw'n hyfryd.

(Dwy bennill allan o tua 16)

Grug Muse: "Mae gweld y wlad yn gwanwyno, yn enwedig ar ôl gaeaf mor galed, wedi bod yn gysur mawr, ac mae gweld y gwenoliaid yn dychwelyd, yr afallen yn blodeuo a chlywed y gog, yn rywfaint o gysondeb mewn byd ar ben i lawr.

"Dwi'n meddwl fod yr hen garol Haf yma yn cyfleu y gobaith hwnnw i'r dim, mewn geiriau syml sy'n llifo dros y dafod ac yn aros yn hir yn y cof. "

Cywilydd iii, gan Iestyn Tyne

image captionIestyn Tyne, un o olygyddion Y Stamp, yn cael ei gadeirio yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Cylch 2019

Y mae i bob cenhedlaeth ei Medi Mawr

Yn warthnod wrth ei henw yn y llyfrau trymion

Ac yn waed ar femrwn croendenau hanes.

I bob cenhedlaeth mae'i chenhedlaeth goll ei hun,

A rhesi o feini gwynion yn dystion distaw

I'r wynebau dienw sy'n llygadrythu drwy'r weryd

A'r magnelau mud sy'n barod, yn gwybod gwell

Na sicrwydd gofalus eu segurdod eu hunain...

Ond tewch! Pobl heddychlon ydym ni, wedi'r cyfan;

Cyngrheiriwn a biwrocratiwn a siaradwn siop,

Cofiwn pob medel â'n capiau'n ein dwylo

A sythu'n gofgolofnau ger bron ein beiau oll

Gan ddiolch rhwng deigryn a gair bach caredig

Fod digon o lwch lli i lyncu holl waedu'r Coed.

(rhan o gyfres o gerddi ar y thema Cywilydd)

Grug Muse: "Nid trychineb naturiol, na allai neb fod wedi ei hatal mo hon. Fyddai neb wedi medru atal y feirws, ond mae blynyddoedd o danariannu y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol a'n Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd ag esgeulustod a cham-arweiniad gwleidyddol wedi troi hon yn drychineb llawer gwaeth a dwi'n gynddeiriog.

"Mae'r gerdd yma'n mynegi'r teimladau hynny'n berffaith - tydi clapio ar y stryd bob wythnos ddim yn gwneud yn iawn am yrru pobl i weithio dan amodau peryglus pan ellid bod wedi atal hynny."

Crëyr bach gwyn yng Ngharcassonne, gan Sian Northey

Ond heddiw

wnes i ddim heblaw mwynhau

ei symudiadau yn y dŵr sy'n llifo

rhwng dwy bont.

(mae'r gerdd gyfan yng nghyfrol 'Trwy ddyddiau Gwydr', Gwasg Carreg Gwalch)

Grug Muse: "Un peth sy'n wir am fod yn sownd yn y tŷ drwy'r dydd, bob dydd, ydi fod rhywun yn cael mwy o amser i wylio'r adar yn yr ardd.

"Mae yna dderyn du wedi nythu wrth ddrws y gegin, mae yna sawl deryn to, titw Tomos, a gwennol yma, yn ogystal â bronfraith sy'n ymweld bob hyn a hyn, nyth brain yn y goeden dros y ffordd, a sguthanod yn y leylandi.

"Mae cerdd Sian, lle mae hi'n oedi, yn gwneud dim byd ond syllu ar yr aderyn tlws o'i blaen yn ddarlun cysurlon, ac yn atgoffa rhywun i sylwi ar y pethau bychan o'u hamgylch."

image copyrightRichard Outram

Y dydd byrraf, gan Mererid Hopwood

a rhywle bob bore bach

hiraeth am weld dydd hirach,

... un cwmwl a'r glaw'n cymell

dagrau am y pethau pell.

(daw'r gerdd gyfan o gyfrol Nes Draw, Gwasg Carreg Gwalch)

Grug Muse: "Mae'r gerdd hon wedi ei hysbrydoli gan linell o waith y bardd Sbaeneg Frederico Garcia Lorca, sef 'Llora por cosas lejanas'- sef 'wylo am bethau pell'.

"Cerdd hiraethus ydi hi, galarus bron, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni yn y cyfnod yma ganiatáu i ni'n hunain rywfaint o 'ddagrau' a galar dros y pethau sy'n cael eu colli yn y cyfnod hwn, yn bethau bach a mawr; boed hynny yn golli'r 'Steddfod, colli misoedd ola'r ysgol i flwyddyn 11 a 13, colli mynd draw i dŷ ffrindiau, priodas ffrind, ac yn y blaen."

Arenig, gan Euros Bowen

Figure captionRhybudd: Gall gynnwys allanol gynnwys hysbysebion

'Ond un hwyr o haf fe wrthododd fod yn fynydd. Aeth yn fflamiau a dangos ei liwiau, a'r cwbwl ohono'n torri allan yn grugiau o gyneddfau porffor a gwyrdd, yn gruglwythi galluoedd glas a phinc, yn garneddau o rymusterau coch a du.'

(detholiad o'r gerdd o'r gyfrol Cerddi Rhydd, Gwasg y Brython)

Grug Muse: "Un o'r pethau ydw i'n methu fwya' yn y cyfnod yma ydi medru gyrru ar hyd yr A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala, a gweld yr Arenig yn ei holl ogoniant. Mae cerdd Euros Bowen (sy'n cael ei adrodd yn y gân Arenig, ar albwm ei or-nai Gwilym Bowen Rhys) yn ddisgrifiad bendigedig o odidogrwydd y mynydd hwn yng ngolau'r machlud.

"Dwi'n hoffi'r ffordd mae'r mynydd yn penderfynu nad ydi o am fod yn fynydd bellach, yn cicio'n erbyn y tresi ac yn mynd yn 'fflamiau'. Mae'r syniad yna o'r mynydd, yn gwrthod dilyn y drefn ac yn penderfynu bod yn rhywbeth gwahanol yn gyffrous. Mae rhywun yn teimlo rhwystredigaeth y mynydd bron, sy'n rhywbeth allwn ni uniaethu efo fo yn y cyfnod yma mae'n siŵr!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig