Yr awdur a'r sgriptiwr Dafydd Huws wedi marw

Dafydd Huws Image copyright Y Lolfa

Yn 70 oed, bu farw'r awdur a'r sgriptiwr teledu Dafydd Huws.

Ef oedd awdur nofelau llwyddiannus Y Dyn Dŵad - gan roi llais i gymeriad lliwgar Goronwy Jones.

Roedd hefyd yn sgriptiwr teledu, gan gynnwys y gyfres sebon boblogaidd 'Pobol y Cwm'.

Cafodd ei eni yn Llanberis yn 1949 gan ddilyn gyrfa fel athro yng Nghaerdydd.

Athro a cholofnydd

Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant yn y brifddinas, cyn gadael y byd addysg am y BBC.

Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu Y Faner o dan yr enw Charles Huws.

Roedd ei nofelau ôl-fodernaidd a gwleidyddol Y Dyn Dŵad yn gweld Cymru drwy lygad cymeriad y Cofi Goronwy Jones.

Cafodd 'Dyddiadur Dyn Dŵad' ei gyhoeddi yn 1978, a'i ddilyn gan 'Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw' (1990) a 'Walia Wigli' (2004).

Ef hefyd oedd awdur 'Sêr y Dociau Newydd' (1994).

Cafodd ffilm Gymraeg 'Dyddiadur Dyn Dŵad', wedi ei selio ar y llyfr, ei darlledu gyntaf ar S4C yn Rhagfyr 1989.

Image copyright Y Lolfa/Cyhoeddiadau Mei

Dywedodd Lefi Gruffudd, Golygydd Cyffredinol Y Lolfa: "Dafydd Huws oedd un o awduron disgleiriaf Cymru.

"Roedd hi'n bleser cydweithio ag e a chyhoeddi rhai o glasuron Y Dyn Dŵad yng nghymeriad y Cofi eiconig Goronwy Jones.

"Disgrifiwyd 'Un Peth Di Priodi, Peth Arall di byw', ei ail lyfr, fel un o'r nofelau doniolaf i gael eu cyhoeddi yn y Gymraeg erioed."

Awdur 'crafog, doniol ac athrylithgar'

Ychwanegodd Mr Gruffudd: "Roedd yn awdur crafog, hynod ddoniol, ac athrylithgar weithiau wrth dynnu blewyn o drwyn y dosbarth canol Cymraeg.

"Roedd yn wych gweld atgyfodiad y Dyn Dŵad ar ôl sefydlu'r Cynulliad wrth gyhoeddi 'Walia Wigli' - a da oedd i'r Dyn Dŵad gael lle ar lwyfan y Babell Lên yn ddyddiol yn Eisteddfod Caerdydd ar ddechrau'r mileniwm."

Ysgrifennu 'craff a chwim'

Dywedodd Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm: "Am gyfnod o dros chwarter canrif bu Dafydd yn awdur ar Bobol y Cwm ac roedd y gyfres yn agos iawn at ei galon.

"Rhoddodd wefr i gynulleidfaoedd dros chwarter canrif drwy ei ysgrifennu craff a chwim, a bu'n gyfrifol am rai o benodau mwyaf trawiadol ac ysgytwol y Cwm.

"Mae gennym oll atgofion melys iawn o Dafydd - gŵr bonheddig, pwyllog oedd bob amser yn amyneddgar a thyner.

"Bydd colled fawr ar ei ôl ond i neb yn fwy na'i deulu a'i ffrindiau ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â'i wraig, June a'i ferched Catrin ac Esyllt."

'Cyfraniad mawr'

Dywedodd y cyn newyddiadurwr Martin Huws oedd yn ffrind agos at Mr Huws fod ei gyfraniad at lenyddiaeth Cymraeg wedi bod yn un "mawr iawn".

"Penderfynodd sgrifennu 'Dyddiadur Dyn Dŵad' ar ôl darllen 'Dubliners' Joyce, ac roedd am sgrifennu am y byd yn grwn, nid rhannau dethol ohono.

"Roedd yn torri tir newydd, ei arddull yn garnifalaidd, yn ysgafn ond yn ddychanol, yn neud sbort ar ben dosbarth canol Caerdydd.

"Yr un peth yn ei nofel, 'Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw', lle oedd yn chwarae gyda ffurf y nofel ei hun. Roedd hon yn llawn o amwyseiriau a double entendres."

Ychwanegodd: "Doedd ein beirniaid llenyddol, yn enwedig y rhai gor-ddifrifol, ddim yn gallu gwerthfawrogi ei waith.

"Fe fydda i'n cofio ffrind agos iawn, dyn direidus, egwyddorol a'i hiwmor sych. All y geiriau hyn ddim gwneud cyfiawnder â rhywun wnaeth gyfraniad mawr at ein llenyddiaeth ond bydd ei waith yn para."