Hen brosiect yn ysbrydoli ymchwil i fywyd dan coronafeirws

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightPrifysgol Sussex/The Mass Observation Archive
image captionHen ddyddiadur o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, sydd yn archif Prifysgol Dwyrain Sussex

Mae gwaith ymchwil o'r Ail Ryfel Byd wedi sbarduno astudiaeth newydd i weld sut mae pobl yn ymdopi o ddydd i ddydd yn ystod argyfwng coronafeirws.

Bydd y prosiect yn edrych ar wefannau cymdeithasol, dyddiaduron a fideos pobl i gael darlun o fywyd pob dydd.

Yn yr astudiaeth wreiddiol roedd panel o wirfoddolwyr yn cynnal holiaduron rheolaidd, ac yn ysgrifennu dyddiaduron am fywyd dan gysgod rhyfel.

Dywedodd Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain yr astudiaeth, ei fod eisiau deall sut mae cymdeithas yn ymateb i'r pandemig.

Ymchwil ar gyfer y dyfodol

Dywedodd bod gwir angen astudiaeth gymdeithasol o'r ffordd y mae pobl yn ymateb i'r argyfwng, er mwyn cynllunio ar gyfer heintiau tebyg yn y dyfodol.

"Mae 'na ddiffyg ymchwil gwyddor cymdeithas i mewn i brofiadau pobl er mwyn deall y pwysau sydd ar bobl ar y funud," meddai.

Apeliodd Dr Ward am wirfoddolwyr o bob cefndir i gadw dyddiaduron rheolaidd a'u cyflwyno i'r ymchwil naill ai fel adroddiadau ysgrifenedig, dyddiaduron fideo neu negeseuon ar wefannau cymdeithasol.

Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd panel o wirfoddolwyr eu sefydlu i ateb holiaduron ac ysgrifennu dyddiaduron. Mae'r rhain yn archif Prifysgol Sussex.

image copyrightPrifysgol Sussex
image captionRhagor o eitemau o archif Prifysgol Dwyrain Sussex

Mae Dr Ward wedi derbyn cynigion ar gyfer yr astudiaeth gan 80 o bobl hyd yma, ac mae'n gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae gwahanol genedlaethau'n ymateb i'r cyfyngiadau ac ymbellhau cymdeithasol.

"Mae pobl ifanc i weld yn colli'r gallu i fynd allan fel y mynnent, oherwydd y cyfyngiadau, tra bod pobl hŷn i weld yn colli'r cyfle i fod gyda phobl y maent yn arfer eu gweld, megis wyrion a wyresau."

Tueddiad arall y mae wedi sylwi arno yw fod pobl yn teimlo "rhyw fath o farnu ar y stryd", oedd yn arwain at deimlad o iselder neu or-bryder, er eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i fynd allan.

Dywedodd ei fod wedi synnu o weld "faint o ofn sydd allan yna".

image copyrightEllie Griffiths
image captionMae Ellie Griffiths wedi bod yn ysgrifennu dyddiadur am ei phrofiadau yn ystod cyfyngiadau coronafeirws

Mae Ellie Griffiths, myfyrwraig Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe, yn cymryd rhan yn y prosiect ac yn ysgrifennu dyddiadur "bron pob dydd".

Mae hi'n credu bod adroddiadau o lygad y ffynnon adeg yr Ail Ryfel Byd yn amhrisiadwy i ni heddiw, ac y bydd angen adroddiadau tebyg o fywyd pob dydd dan coronafeirws yn y dyfodol.

"Mae'n hawdd anghofio ein bod ni'n rhan fawr iawn o hanes ar hyn o bryd, felly dwi'n credu ei bod yn bwysig iawn ei gofnodi."

Mae hi'n byw gyda'i thad, Steven Griffiths, yn nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, gyda'i mam-gu a'i thad-cu, Brian Griffiths, 73 a Christine Griffiths, 72 - yn byw drws nesaf.

Maen nhw wedi dod ar draws llythyr a anfonwyd at Ron Griffiths - hen dad-cu Ellie Griffiths - a oedd yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

image copyrightEllie Griffiths
image captionY llythyr gafodd Ron Griffiths gan ffrind

Wrth ddarllen y llythyr a gafodd ei hen dad-cu gan ffrind, ar ôl y rhyfel, roedd Miss Griffiths yn synnu at y tebygrwydd rhwng ei brofiad ef a'r hyn y mae pobl yn mynd trwyddo heddiw.

Yn y llythyr mae ei hen dad-cu'n dweud ei fod wedi gobeithio cwrdd a'i ffrind am beint.

"Fydde fe byth wedi meddwl y byddwn i, ei or-wyres, nid yn unig yn darllen y llythyr hwn heddiw, ond hefyd yn ei gymharu â'r hyn sy'n digwydd heddiw," meddai Miss Griffiths.

"Mae fy ffrindie a minnau'n ffili aros i gael mynd am gwrw hefyd."

Roedd y llythyr wedi ei gwneud hi'n fwy penderfynol o ddal i gyfrannu i'r prosiect, meddai.

image copyrightEllie Griffiths
image captionMae papurau a lluniau hen dad-cu Ellie Griffiths o'r Ail Ryfel Byd wedi ei hysbrydoli hithau

Straeon perthnasol