Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd
- Published
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd yn ceisio adennill ei sedd yn y Cynulliad ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiad nesa'r Cynulliad yn 2021.
Mae wedi bod yn aelod Cynulliad ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, a bu'n Llywydd rhwng 1999 a 2011.
Cyn hynny bu'n aelod Seneddol rhwng 1974 ac 1992, ac roedd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 ac 1991.
Cafodd ei wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi pan adawodd Dŷ'r Cyffredin yn 1992.
Fe adawodd Plaid Cymru yn 2016, ac fe gafodd yr AC annibynnol ei wneud yn ddirprwy weinidog dros dwristiaeth, chwaraeon a diwylliant yn Llywodraeth Lafur Cymru.
'Gweithio mewn ffordd wahanol'
Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul gofynnodd y cyflwynydd i'r Arglwydd Elis-Thomas a oedd wedi gwneud penderfyniad ar sefyll yn Nwyfor Meirionydd yn 2021.
Rwyf yn diolch i @ElisThomasD am ei wasanaeth wrth gynrychioli cymunedau Dwyfor, Meirionnydd a Nant Conwy fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad. https://t.co/likA5gZcbG
— Liz Saville Roberts AS/MP 🏴 (@LSRPlaid) April 12, 2020
"Naddo ydy'r ateb swyddogol," meddai.
"Yr ateb answyddogol ydy 'mod i wedi gweld gwerth yn y cyfnod yma o weithio mewn ffordd wahanol.
"Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.
"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."
Fe hoffwn i ddiolch i @ElisThomasD am ddegawdau o gyfraniad enfawr at fywyd Cymru.
— Mark Drakeford (@fmwales) April 12, 2020
Mae wedi bod yn anrhydedd ei gael yn treulio ei dymor olaf yn y cynulliad fel aelod mor werthfawr o dîm gweinidogol y llywodraeth. https://t.co/UlVTrmHCme
Dywedodd Aelod Seneddol yr un etholaeth, Liz Saville Roberts ar Twitter fore Sul ei bod yn diolch iddo "am ei wasanaeth wrth gynrychioli cymunedau Dwyfor, Meirionnydd a Nant Conwy fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad".
Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn "un o seneddwyr amlycaf a mwyaf amryddawn gwleidyddiaeth Cymru a wnaeth gyfraniad oes i fywyd cyhoeddus".
"Ysbrydoliaeth cynnar i mi yn bersonol fel arweinydd y blaid," meddai.
"Er gwaetha pob siom ers hynny, ga i ddymuno'r gorau i Dafydd yn ddiffuant wedi'r etholiad."
'Degawdau o gyfraniad enfawr'
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn diolch i'r Arglwydd Elis-Thomas am "ddegawdau o gyfraniad enfawr at fywyd Cymru".
"Mae wedi bod yn anrhydedd ei gael yn treulio ei dymor olaf yn y Cynulliad fel aelod mor werthfawr o dîm gweinidogol y llywodraeth," meddai.
Mae @ElisThomasD wedi gwneud cyfraniad helaeth i wleidyddiaeth Cymru dros y degawdau diwethaf. Mae ei ymrwymiad a’i ymroddiad wedi bod heb ei ail. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn golled i’r @CynulliadCymru https://t.co/ulNEmdA9Pe
— Paul Davies AM/AC (@PaulDaviesPembs) April 12, 2020
Ychwanegodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies fod yr Arglwydd Elis-Thomas "wedi gwneud cyfraniad helaeth i wleidyddiaeth Cymru dros y degawdau diwethaf".
"Mae ei ymrwymiad a'i ymroddiad wedi bod heb ei ail. Bydd ei brofiad a'i arbenigedd yn golled i'r Cynulliad," meddai.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Tachwedd 2017
- Published
- 22 Medi 2017
- Published
- 20 Rhagfyr 2016