Meddygon tramor yn erfyn am gael helpu'r GIG

Gofal dwys Image copyright Getty Images
Image caption Mae rhai arholiadau meddygaeth wedi'u gohirio, sy'n golygu nad oes modd cofrestru i helpu yn ystod yr argyfwng

Mae meddygon o dramor sy'n byw yng Nghymru yn dweud eu bod yn awyddus i helpu'r GIG ddelio ag argyfwng Covid-19, ond nad oes ffordd iddyn nhw gymhwyso yma.

Yn wreiddiol o Mosul, Irac, mae Luma Ibrahim sy'n 46 oed, yn byw yng Nghaerdydd ers mwy na degawd.

Bu'n gweithio fel meddyg teulu yn ei mamwlad am chwe blynedd cyn dod yma fel myfyriwr gyda'i gŵr.

Mae'n dweud iddyn nhw dalu eu hunain i gael dod yma, ac er i'w gŵr gymhwyso fel doctor, mae Dr Ibrahim wedi cael anawsterau.

'Yr un stori pob tro'

"Dwi wedi gwneud dros 40 o arholiadau ac roedd hi'r un stori bob tro," meddai.

"Byddwn i'n cael marciau da, ond nid ym mhob adran ym mhob arholiad."

Mae'r prawf yn asesu sgiliau mewn pedair adran: darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.

Mae disgwyl i'r rheiny sydd yn sefyll lwyddo i ennill sgôr o o leiaf 7 ymhob adran a 7.5 ar draws pob un o'r adrannau.

Daeth Dr Ibrahim o fewn hanner marc i basio ar sawl achlysur.

Byddai hynny wedi bod yn ddigonol tan 2010, ond erbyn hyn, dyw e ddim yn ddigonol i ganiatáu iddi gymryd y profion meddygol i allu cofrestru fel doctor.

Image caption Mae Luma Ibrahim yn galw ar y GMC a'r llywodraeth i "edrych eto ar eu polisïau"

Mae Dr Ibrahim yn rhan o fudiad Medical Professionals in the UK Seeking Registration, sy'n mynnu bod ei Saesneg yn ddigon da i gyfathrebu â chleifion a bod ganddyn nhw sgiliau hanfodol ddylai gael eu defnyddio yn y cyfnod yma o bandemig.

"Byddwn i wrth fy modd yn gallu helpu'r gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai.

"Dwi wir yn gobeithio y bydd y GMC (Cyngor Meddygol Cyffredinol) a'r llywodraeth yn edrych eto ar eu polisïau er mwyn rhoi cyfle i ni weithredu ac ymateb i'r pandemig."

'Cwricwlwm union yr un fath'

Un arall sy'n cwyno am y sefyllfa yw Abdala Deeb.

Yn hanu o Balesteina a bellach yn 51 oed, mae e hefyd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ar ôl graddio o brifysgol yn Libya.

Fe astudiodd ei radd mewn meddygaeth drwy gyfrwng y Saesneg yno, a'n dweud bod hynny wedi ei baratoi yn dda i allu gweithio ym Mhrydain.

"Roedd yr arholwyr allanol oedd yn fy asesu yn dod o Brydain. Daeth yr arholiadau yn uniongyrchol o Brifysgol Dulyn," meddai.

"Roedd ein cwricwlwm a llyfrau dosbarth yn union yr un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio fan hyn."

Image caption Dydy Abdala Deeb ddim yn gallu sefyll yr arholiad i gymhwyso fel meddyg yn y DU oherwydd yr argyfwng

Er mwyn cofrestru fel doctor, mae'n rhaid i feddygon rhyngwladol basio un o ddau brawf ieithyddol; prawf IELTS sy'n costio £180 neu brawf OET ar gost o £297.

Mae wedyn angen cymeradwyo eu sgiliau meddygol gyda dau brawf pellach, Plab 1, sy'n costio £230, a Plab 2 sydd yn dod gyda bil o £840.

Dangosodd Dr Deeb dystiolaeth i'r BBC ei fod wedi cyflawni'r sgôr cyffredinol o 7.5 yn y prawf IELTS ar sawl achlysur, ond gan fethu â chyrraedd sgôr o 7 mewn un adran bob tro.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, ar ôl degawd o drio fe lwyddodd Dr Deeb i basio'r prawf IELTS.

'Dyma'r amser i recriwtio'

Dyw e ddim yn gweithio ar hyn o bryd, a byddai'n ei chael hi'n anodd os nad yn amhosib fforddio sefyll y profion Plab.

Ar ben hynny, mae'r profion Plab 2 wedi eu gohirio gan fod y profion yn golygu dod i gyswllt ag eraill a bod felly perygl o heintio.

Ond mae Dr Deeb yn pledio gyda'r llywodraeth i lacio'r rheoliadau ar hyn o bryd ar gyfer graddedigion fel fe.

"Mae'r wlad yng nghanol creisis. Dyma'r amser i recriwtio ein gwybodaeth feddygol," meddai.

"Allwn ni leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd. Mae gennym ni'r awydd a'r awch i wneud hynny."

'Sgiliau addas a digonol'

Dywedodd y GMC: "Mae cyfathrebu yn hollbwysig wrth ddarparu gofal ac mae'n bwysig bod gan bob meddyg sgiliau Saesneg addas a digonol."

Fe ddywedon nhw hefyd bod 8,500 o ddoctoriaid o dramor wedi cyrraedd eu gofynion ac ymuno â'u cofrestr y llynedd.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i ddoctoriaid wireddu gofynion y corff rheoleiddio.

Ychwanegon nhw fod rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol yn fater i Lywodraeth San Steffan.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y DU.

Pynciau Cysylltiedig