Sut mae myfyrwyr o dramor yn ymdopi â'r pandemig Covid-19?

Jia Wei Lee
Image caption Mae rhieni Jia Wei Lee yn gweithio ym maes iechyd ym Malaysia

"Er y baswn i'n caru bod gyda fy nheulu, ar hyn o bryd mae'n well i mi aros."

I Jia Wei Lee, doedd y penderfyniad i hunan-ynysu yn Nhrefforest yn hytrach na dychwelyd i Malaysia ddim yn un hawdd.

Yn ogystal ag ysgrifennu ei thraethawd hir, mae'r myfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru wedi dechrau recordio fideos hwyl a defnyddiol ar ei thudalen Facebook.

Mae Jia Wei ymysg y miloedd o fyfyrwyr sydd wedi penderfynu, neu gael eu gorfodi, i aros yn y trefi neu ddinasoedd lle maen nhw'n astudio yn hytrach na dychwelydd gartref i'w teuluoedd yn y DU neu dramor.

Yn ôl corff Prifysgolion Cymru, mae tua 10% i 15% o'r boblogaeth o fyfyrwyr yng Nghymru yn y sefyllfa yma.

'Wynebu'r cwarantin fel cymuned'

Mae rhieni Jia Wei yn gweithio ar y "rheng flaen" yn y maes iechyd ym Malaysia, ac er ei bod hi'n "poeni ychydig amdanyn nhw", mae technoleg yn eu galluogi i sgwrsio yn gyson.

Er mwyn cadw'n brysur, mae Jia Wei, 24, wedi bod yn recordio fideos o'i hun a'i ffrindiau ar dudalen Facebook a sefydlodd hi dan yr enw Feeling Light in Darkness.

"Dwi eisiau dangos i bobl bod pawb yn hyn gyda'i gilydd ac mi ydyn ni'n wynebu'r cwarantin fel cymuned er ein bod ni'n hunan-ynysu," meddai.

"Mae yna lwyth o bethau i'w gwneud. Dyna pam dwi'n cydweithio gyda fy ffrindiau a'n nheulu i gynhyrchu fideo bob dydd i ddweud wrthyn nhw 'ocê, mi fedrwch chi drio coginio hyn a phobi hyn'."

Image caption Mae Jia Wei wedi troi at recordio fideos ar ei thudalen Facebook tra'n hunan-ynysu

Yn wreiddiol o Florence yn Yr Eidal, mae'r myfyriwr meistr 23 oed, Andrea Gaini yn cyfaddef ei fod wedi ei chael hi'n anodd ar y dechrau.

"Fe ges i wythnos pan o'n ni'n teimlo'n bryderus iawn. Roedd fy ffrindiau i gyd yn mynd gartref - yn enwedig fy ffrindiau o'r Eidal," meddai.

"Roedden nhw'n dweud 'mae angen i ti ddod adref gyda ni', ac mi oeddwn i'n dweud 'dwi ddim yn meddwl mai dyna'r penderfyniad gorau i mi'.

"Ro'n i jest yn teimlo yn bryderus, yn teimlo allan o wynt weithiau."

Cymorth gan brifysgolion

Fodd bynnag, mae'n ddiolchgar am gymorth ei gyfarwyddwr cwrs yn y brifysgol.

"Mae hi wedi bod yn wych. Pan ddywedais i wrthi 'mod i'n teimlo ychydig yn bryderus, fe wnaeth hi fy ebostio yn gwneud yn siŵr 'mod i'n iawn," meddai.

"Mae gennym ni gyfarfodydd pob wythnos neu ddwywaith yr wythnos lle ni'n siarad gyda'r cyfarwyddwyr cwrs."

Image caption Mae Andrea Gaini yn cyfaddef ei fod wedi ei chael hi'n anodd bod ar ei ben ei hun i ddechrau

Y gred yw bod rhwng 10% a 15% o fyfyrwyr yng Nghymru yn aros mewn neuaddau sy'n eiddo i brifysgolion Cymru.

"Mae hynny'n amlwg yn gymuned sylweddol ac mae eu cadw nhw'n ddiogel tra'n parhau i astudio gyda ni yn un o'n blaenoriaethau mwyaf," meddai'r Athro Julie Lydon, cadeirydd Prifysgolion Cymru.

Ar draws Cymru, mae prifysgolion yn cynnig cefnogaeth o bob math, fel arlwyo a siopau, gwasanaethau iechyd meddwl a dysgu.

"Ni wedi gorfod symud yn sydyn i weithio mewn ffyrdd gwahanol i sicrhau ein bod ni'n cadw ein cymuned - staff a myfyrwyr yn ddiogel," meddai'r Athro Lydon.

"Yr her yw nad ydyn ni'n gwybod yn union sut y bydd hyn yn gorffen na phryd fydd hyn yn dod i ben, felly ni'n gweithio'n agos fel grŵp o brifysgolion i rannu profiadau a sicrhau ein bod yn deall gyda'r llywodraeth y ffyrdd gorau i ddehongli'r cyngor ac aros yn ddiogel."

Image caption Dywedodd yr Athro Julie Lydon mai'r her yw nad yw'n amlwg pryd fydd y cyfyngiadau yn dod i ben

Yn ôl Torrin Wilkins, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r dref yn teimlo'n dawel iawn.

Ond mae'n dweud iddo gael digon o gefnogaeth gan y brifysgol.

"Maen nhw wir wedi cynnig llawer o gefnogaeth a gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae popeth wedi cael ei symud ar-lein," meddai.

"Yn amlwg mae'n anodd ar hyn o bryd oherwydd nad ydyn nhw'n gallu anfon pobl draw."

'Lle hyfryd'

Er bod Torrin, sy'n wreiddiol o Sir Hertford, yn dweud bod awyrgylch "rhyfedd" yn ei neuadd breswyl, dyw popeth ddim yn ddrwg.

"Cymru ydy un o'r llefydd gorau i fod mewn pandemig," meddai.

"Mae'n le hyfryd - yn sicr mae mynd am dro unwaith y dydd yn fwy diddorol yma."

Straeon perthnasol