Caplaniaid yn cynnig gobaith mewn amser tywyll

Euryl Howells

Bob dydd am hanner dydd mae Euryl Howells yn cynnau cannwyll er mwyn cynnig gobaith mewn amser tywyll.

Fe yw Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n cyfadde nad oes unrhyw un ohonyn nhw yn y gwasanaeth erioed wedi profi unrhyw beth tebyg o'r blaen.

Mae e'n dweud bod y gwasanaeth, sy' wedi ei leoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ond sy'n ymestyn dros Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, yn cynnig cysur i gleifion, eu teuluoedd ac hefyd i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n gweithio o dan amodau heriol tu hwnt.

Mae'r ffaith nad yw perthnasau yn gallu ymweld â'u hanwyliaid yn yn yr ysbyty ar hyn o bryd wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd ac hefyd i'r staff.

"Pan ry'n ni'n dod i ddiwedd bywyd, ni ddim yn gallu cymell teulu i ddod i mewn bellach i fod gyda'u hanwyliaid a ma' hwnna'n rhywbeth sy'n annaturiol i staff," meddai.

"Yn y gorffennol ma' nhw wedi awgrymu bod rhywun yn dod mewn a chael yr eiliadau a'r munudau diwetha' gyda'u teulu - ond dyw hynny ddim yn bosib nawr - dy'n nhw ddim yn teimlo felly bod nhw wedi cyflawni pethe i'r gorau ac ma sôn wrth gaplaniaid am hyn - ni'n gallu atgoffa nhw taw yr amgylchiadau yw hyn a dim bod nhw ddim yn gweithio yn broffesiynol.

"Ma' ffiniau proffesiynol wedi cael eu herio yn y cyfnod hwn."

Mae Euryl yn dweud bod y caplaniaid yn parhau i gynnig cymorth a chwmni i unrhyw un sy'n glaf yn yr ysbyty - a bod technoleg hefyd wedi bod yn ddefnyddiol wrth gyfathrebu.

"Bydden ni'n cyflwyno gymaint o help ag y medrwn ni," meddai, "os ydy'r person gyda Covid-19, ma' 'na ganllawiau - beth ry'n ni am sicrhau teuluoedd ydy bod 'na staff bob amser o gwmpas - bod nhw wedi gwisgo'n gywir a ma' nhw'n gallu siarad a rhoi cysur.

"Ac os ydy'r person yn gallu cyfathrebu, ni'n gallu defnyddio tabled hefyd neu linell ffôn."

Mae gan Euryl bryder am yr effaith tymor hir ar bobl - yn enwedig rheiny sy' wedi colli anwyliaid yn ystod y cyfnod yma ac sy' heb gael cyfle priodol i alaru.

Mae'n dweud bod yr effaith yn mynd i fod yn ddwys ar bobl yn emosiynol ac yn feddyliol oherwydd bod y newid yn y trefniadau o ran angladdau hefyd yn golygu nad yw pobl yn cael coffa yn y modd arferol.

"Yn draddodiadol yma yng ngorllewin Cymru, ma' 'na doreth o bobl yn troi allan i gynhebrwng a dydy hynny ddim yn bosib bellach," meddai.

"Ni'n gorfod cyfyngu niferoedd ond eto ro'n i'n gwneud angladd wythnos yma ble ro'n i'n defnyddio camera web ac ro'n i'n gallu cyrraedd teuluoedd mor bell â Llundain a dros y dŵr."

Image caption Baner yn diolch i staff y GIG tu allan i Ysbyty Glangwili

Euryl hefyd yw cynrychiolydd caplaniaid iechyd Cymru ar Gyngor Gofal Caplaniaid Iechyd - mae'n dweud bod tua 40 o bobl yn gweithio i'r gwasanaeth yng Nghymru a bod 'na bryder parhaol o ran diogelwch eu staff nhw hefyd.

Ond wrth i benwythnos y Pasg nesáu, mae'n dweud eu bod yn benderfynol o barhau i gynnig cymorth a chysur i'r sawl sydd eu hangen o fewn y gwasanaeth iechyd.

"Ma' pawb yn sylweddoli bod y staff angen tipyn mwy o ofal ar hyn o bryd a dyna lle ni'n gallu dod i mewn - i fod yn glust - 'da ni ddim gallu gwneud i'r haint yma fynd i ffwrdd ond ni'n gallu cadarnhau bod yr hyn ma' nhw'n gwneud yn dda, yn safonol a bod pobl yn gwerthfawrogi."

Ac fe fydd yn parhau i gynnau'r cannwyll bod dydd nes bod y cyfnod yma yn dod i ben.

"Ni'n cyflwyno pawb sy' wedi cael eu dal i fyny yn yr argyfwng hwn ac ar ddiwedd y dydd, ma' golau yn bwysig.

"Ma' hyd yn oed matsien fychan yn gallu gwneud tipyn o wahaniaeth. Ni'n gobeithio mai dyna fydd y gannwyll yma'n gwneud - ysbrydoli pobl i gario 'mlaen i fod yn ddiogel ac i ofalu am eu hunain hefyd."

Straeon perthnasol