Cyfyngiadau coronafeirws i barhau yng Nghymru wedi'r Pasg

Mark Drakeford

Bydd y cyfyngiadau coronafeirws gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf yn parhau tu hwnt i'r tair wythnos wreiddiol, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Cadarnhaodd Mark Drakeford ddydd Mercher y byddan nhw'n parhau y tu hwnt i Ddydd Llun y Pasg.

Dywedodd na ddylai Cymru "daflu enillion [i ffwrdd] trwy gefnu ar ein hymdrechion yn syth wedi iddyn nhw ddechrau dwyn ffrwyth".

Mae'n disgwyl i rannau eraill o'r DU wneud yr un peth, ond dydy Llywodraeth y DU heb gadarnhau hynny eto.

'Gweithio gyda'n gilydd'

Gwnaeth Mr Drakeford y sylwadau mewn cyfarfod rhithwir o Gynulliad Cymru, a gynhaliwyd mewn cynhadledd fideo.

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 33 arall oedd â Covid-19 wedi marw yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm swyddogol i 245.

Dyma'r nifer fwyaf o gleifion coronafeirws i farw mewn diwrnod ers i'r haint ddechrau ymledu yng Nghymru.

Cafodd 284 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 4,073 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod fod mwy o bobl â'r feirws mewn gwirionedd, gan mai'r cyfarwyddyd i'r rhan fwyaf o bobl sydd â symptomau yw aros gartref.

Image copyright Matthew Horwood
Image caption Pobl yn ciwio tu allan i archfarchnad yn gynnar yn y bore

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James yn gynharach fod yna "arwyddion bod y mesurau yn gweithio".

Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Ms James annog pobl i gadw at y canllawiau ynglŷn ag ymbellhau oddi wrth bobl ac i aros adref yn ystod penwythnos y Pasg.

"Gan weithio gyda'n gilydd fe allwn ni arafu lledaeniad y feirws," meddai.

Dywedodd y bydd ymddygiad pobl y penwythnos yma ac yn yr wythnosau i ddod yn "ffurfio'r math o Gymru fyddwn ni am flynyddoedd i ddod".

Image caption Dywedodd Julie James bod y mwyafrif yn cadw at y rheolau ynglŷn ag ymbellhau

Ychwanegodd bod pobl yn gyffredinol wedi bod yn dilyn y rheolau ond bod rhai problemau wedi codi, gydag adroddiadau yn y gogledd am bobl yn ymweld â'u tai haf.

Yn y canolbarth mae problemau wedi bod gyda gyrwyr beic modur ac ail dai, ac yn y de dywedodd bod yr heddlu wedi eu galw i sawl digwyddiad "gan gynnwys parti pen-blwydd plentyn a gêm bêl-droed".

Mae'r cyfyngiadau presennol yn dweud y dylai pobl ond adael eu tai am resymau penodol iawn - yn cynnwys siopa am nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd, darparu gofal, neu deithio i'r gwaith os yw'n angenrheidiol.

Yng Nghymru, gall pobl wynebu dirwyon rhwng £60 a £120 am dorri'r rheolau.

Rhestr i archfarchnadoedd

Yn ystod y gynhadledd i'r wasg dywedodd Ms James bod gan archfarchnadoedd Cymru nawr y wybodaeth i allu blaenoriaethu danfon bwyd at y bobl fwyaf bregus.

Ond ychwanegodd y bydd yna cymaint o alw y bydd nifer o bobl yn methu dod o hyd i ffenest wag er mwyn archebu bwyd.

Yn Lloegr mae archfarchnadoedd wedi cael mynediad at fas data 1.5m o siopwyr bregus er peth amser.

Yng Nghymru mae rhai cwsmeriaid wedi bod yn cwyno nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y rhestr o bobl a ddylai gael blaenoriaeth o safbwynt bwyd.

Dywedodd Ms James y byddai'r llywodraeth yn annog eraill i siopa ar eu cyfer pan fo hyn yn bosib.

Mae rhai cynghorau, meddai, yn dosbarthu bwyd at bobl pan nad oes ganddynt ffrind, gymydog neu berthynas sydd yn gallu eu helpu i siopa.

Straeon perthnasol