Straeon i godi calon mewn cyfnod tywyll: Cymunedau yn helpu

Published
image copyrightMark Flanagan

Perchennog cwmni jin yn defnyddio alcohol yng nghefn cypyrddau ei gymdogion i creu hand sanitisers, unigolion yn gwnïo scrubs i weithwyr iechyd, a chymuned wledig yn casglu £12,000 mewn wythnos i brynu offer diogelwch i ofalwyr.

Dim ond tri eisiampl o'r llu o gymunedau ar hyd a lled Cymru sydd wedi dod at ei gilydd i helpu eraill yn ystod pandemig coronafeirws. Ac mewn cyfnod lle mae'n anodd osgoi penawdau digalon, mae'r argyfwng wedi dod â'r gorau allan o nifer fawr o bobl.

Achub bywydau gyda'r 'alcohol aficach' yng nghefn cypyrddau

Mae Mark Flanagan yn byw yng Nghaerdydd ac yn berchennog ar gwmni jin yn ardal Treganna. Ers y cyfyngiadau cymdeithasol, mae Mark wedi bod yn creu hand sanitisers ar gyfer y gymuned ac elusen leol:

"Cyn y lockdown o'n i'n gwerthu jin mewn bwytai, caffis a delis ac o'n ni wedi bwriadau gwneud gwyliau bwyd dros yr haf ond wrth gwrs dydi hynny ddim yn bosib rwan.

"'Da ni'n gwerthu trwy'r wefan hefyd ac wedi gweld spike yn y gwerthiant oherwydd bod ni'n medru delifro.

"Mae pobl yn cefnogi busnesau lleol lot mwy rwan. Pan mae argyfwng fel hyn, mae'r gymuned yn dod at ei gilydd.

"Nes i ddechrau g'neud hand sanitisers i ffrindie am fod cymaint o alw am y stwff. Oedd pobl yn despret - ac oedd ffrindie yn gofyn dros rheini oedd yn fregus.

"Mae gen i licence i greu a distyllu alcohol yn ofnadwy o gryf a dyna sy' angen mewn hand sanitiser. Felly dw i'n rhoi alcohol sy' bron yn 96% ac yn cymysgu fo efo sebon i greu'r sanitisers.

"Yn y pen draw nes i roi post ar Facebook - ar grŵp sy'n cefnogi ardal Treganna - yn cynnig rhai i bobl sy'n hen neu'n vulnerable. Oedd degau o bobl isho nhw.

"O'n i'n gwneud 20 y tro ond achos bod fi'n talu treth ar bob alcohol, oedd o'n costio tua £2 y botel i mi ond o'n i'n meddwl, mae pobl yn despret ac mae'n gyfle i helpu bobl.

"'Nath elusen lleol sy'n rhoi cymorth i oedolion sy' efo anabledd dysgu gysylltu gan nad oedd hand sanitisers ganddyn nhw ar gyfer staff. Nes i esbonio'r trafferth efo'r pres ond wedyn ges i syniad: be' os mae pobl yn rhoi'r hen alcohol afiach sy' ganddyn nhw yn y tŷ a 'nai ddistyllu'r alcohol i greu'r sanitisers?

"Nes i roi post ar Facebook i ofyn i bobl Treganna am help. Ac mi wnaethon nhw.

image copyrightMark Flanagan
image captionRhai o'r poteli alcohol gafodd Mark gan ei gymdogion

"Ges i ryw 70 botel o spirits gan bobl. Mae tŷ fi'n edrych fel nightclub gyda pob math o ouzos a Cointreau… petha' afiach mae pobl wedi prynu ar wyliau a difaru.

"Mae pobl hefyd wedi rhoi ambell i botel drud ei olwg fel potel o single malt, double barrel whisky.

"'Oedd digon i 'neud dros 100 o boteli o hand sanitiser.

"Mae pobl wedi bod yn rhoi arian ar gyfer costau y poteli. Bydda i'n gallu ailgylchu trwy gasglu'r poteli a chreu mwy.

"Erbyn fory bydda i'n delifro'r batch cyntaf o hand sanitisers i'r elusen. Bydda i'n gwneud tua 350 i'r elusen yn y pen draw.

"Mae o'n deimlad amazing - ti'n cael buzz allan o helpu pobl.

"Mae wedi cymryd rhan fwya' o'n amser i, dw i'n obsessed gyda chynhyrchu gymaint ag y galla i.

"Dw i'n hapus i drio plygio'r gap yn fy milltir sgwâr."

Troi hen gynfasau yn fagiau a hetiau

image copyrightSara Mann

A hithau'n gyfnod cythryblus iawn i bawb, roedd Sara Mann, o bentref Yr Orsedd ger Wrecsam, eisiau helpu mewn rhyw ffordd. Gan ei bod hi'n athrawes tecstiliau mewn ysgol uwchradd leol, roedd hi'n gwybod yn union sut - gyda help ei pheiriant gwnïo ffyddlon.

Ar ôl sefydlu grŵp Facebook i chwilio am wnïwyr lleol i helpu, mae hi a chriw o wirfoddolwyr eraill yn brysur yn gwnïo hetiau a bagiau i weithwyr y GIG yng ngogledd Cymru:

"'Dan ni'n gwneud bagiau i ddal iwnifform y staff. Pan maen nhw'n tynnu'r iwnifform ar ddiwedd y dydd - neu mae rhai nyrsys yn gorfod newid deirgwaith y dydd, mae'n debyg - mae'n cael ei gau yn y bag, ac wedyn mae'r bag yn mynd yn syth i'r peiriant golchi pan maen nhw'n cyrraedd adre'.

"Ar gefn yr hetiau 'dan ni'n eu gwneud, mae botymau er mwyn dal elastig masg, ac mae hyn yn amddiffyn cefn clustiau'r staff. Rydan ni hefyd wedi gwneud stribedi gyda botymau arnyn nhw i ddal yr elastig.

image copyrightSara Mann
image captionPentwr o hetiau lliwgar yn barod i gael eu dosbarthu

"Cysylltodd meddyg gyda fi o feddygfa yn yr Wyddgrug, sydd yn cael ei droi yn ganolfan profi am y coronafeirws. Roedden nhw angen hetiau - felly gwnaethon ni 50 iddyn nhw, ac maen nhw newydd gael eu hanfon allan heddiw.

"Cawson ni ein rhoi mewn cysylltiad wedyn gyda thri chartref gofal yn yr ardal, sydd wedi clywed eu bod angen bagiau iwnifform, yn bennaf achos fod lot o'r staff yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni wedi rhoi 83 bag iddyn nhw.

"Mae gennym ni rŵan archeb ar gyfer scrubs i feddygon sydd yn edrych ar ôl pobl digartref yn Wrecsam. Rydyn ni'n aros i'r defnydd gyrraedd a gallwn ni ddechrau arni.

image copyrightSara Mann
image captionDarnau yn barod i gael eu gwnïo at ei gilydd i greu het

"Rydyn ni'n dilyn patrymau oddi ar y we, a gall pobl eu hargraffu. Mae'r bag yn hawdd iawn; cas gobennydd, mewn gwirionedd - rhywbeth i'r iwnifform ffitio ynddo - a chortyn i'w gau.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi bod yn gwagio sheets a phethau o'r cwpwrdd crasu - fel finnau - ac mae gen i fagiau o ddefnydd gan ffrindiau sydd ddim yn gwnïo, ac mi ydw i'n rhannu rheiny gyda phwy bynnag sydd eu hangen.

"Maen rhaid i scrubs fod o polycotton sydd o drwch pendodol, ond gall y pethau eraill fod o gotwm neu polycotton - mae pobl yn defnyddio casys cobennydd, neu gynnwys eu basged gwnïo.

"Mae pobl wedi bod yn gwneud pethau hardd iawn gyda hen ddefnydd.

image copyrightSara Mann
image captionMae'r stribedi yma yn cael eu gwisgo ar gefn y pen er mwyn dal y masg yn ei le ac amddiffyn cefn y clustiau

"'Dan ni'n grŵp bach - tua 100 o aelodau yn y grŵp Facebook - mae 'na grwpiau sydd llawer mwy sydd yn gwneud hyn o amgylch y DU.

"Ond dwi'n athrawes ysgol uwchradd, felly mae gen i waith i'w wneud efo fy nisgyblion, ac mae gen i fab a merch.

"Felly dwi jyst yn gwneud beth alla i efo'r amser 'sgen i. Jyst rhywbeth bach i'r gweithwyr anhygoel 'ma."

Casglu £12,000 mewn wythnos

image copyrightProsiect Cymunedol Crymych
image captionPacio'r masgiau yn Neuadd y Farchnad, Crymych

Fe wnaeth cymuned Crymych osod targed i godi £500 er mwyn gallu gwneud offer diogelwch i weithwyr iechyd a gofal. O fewn wythnos roedd dros £12,000 yn y pot.

Yn ôl Dafydd Vaughan mae'r ffaith bod un o hoelion wyth y gymuned - ei fodryb Undeg Lewis - wedi marw o coronafeirws yn ystod y cyfnod wedi sbarduno'r gymuned.

"Mathew Parry, o gwmni Frenni Transport, wnaeth ddechrau'r pethau off. Wnaeth o gysylltu gyda fy ngwraig achos mae hi'n gweithio gyda fe, a gofyn os fydda hi'n gallu helpu.

"Mae grŵp Prosiect Cymunedol Crymych 'da ni yma wedi ei sefydlu ers tro, gyda cynlluniau i ail-wneud y parc, a wnaeth nhw postio ar eu tudalen Facebook ac agor tudalen GoFundMe 'da £500 fel y target.

"Wnaeth busnesau ac unigolion fynd yn wyllt wedyn - a ni nawr ar £12,000.

image copyrightProsiect Cymunedol Crymych
image captionTorri stribedi i'r maint cywir cyn rhoi'r masgiau at ei gilydd

"Mae 2,000 masg - fel visors - wedi mynd mas yn barod wythnos diwetha', a ni wedi gwneud 12,000 eto wythnos yma. Mae'r plastig yn mynd dros y wyneb a stripyn o foam yn mynd o gwmpas y pen. Ni'n prynu rheiny i mewn ac mae sawl person wedi bod yn torri stribedi foam gartref.

"Unwaith maen nhw wedi eu torri i'r siâp a'r seis iawn, a'u rhoi at ei gilydd, mae'r frigâd dan wedi bod yn dod i Neuadd y Fachnad yn Crymych i'w pacio a mynd â nhw i siopau lleol.

image copyrightProsiect Cymunedol Crymych
image captionMae cyfarpar ar gael o siopau lleol - yn cynnwys Brian Llewelyn a'i Ferched

"Dwi'n siŵr bod tua 30 o bobl wedi bod yn helpu hyd yma, ond mae mwy a mwy o bobl yn dweud eu bod eisiau gwneud.

"Fi sicr wedi synnu o ran y donations GoFundMe, gyda £12,500 mewn tua wythnos, ond mae cymuned dda i'w gael yma.

"Mae'r bobl sydd wedi cael y masgiau mor ddiolchgar, ond dyla nhw wedi eu cael nhw o leia' mis yn ôl.

"Dwi newydd golli fy anti, Undeg Lewis, o coronafeirws. Colled enfawr. Roedd hi'n gweithio mewn siop, felly bosib ei bod wedi ei gael yn fan'no, gan bod lot o bobl yn pasio heibio.

"Roedden ni'n gwneud hyn tua'r un adeg pan oedd hi'n wael. Mae hynny wedi sbarduno fi a lot o bobl i helpu mwy. Doedden ni methu helpu hi ac mae wedi gwneud i lot o bobl feddwl, 'crikey mae'r feirws yma yn y gymuned - mae angen gwneud rhywbeth i helpu'."

Hefyd o ddidordeb: