'Bydd angen i ymateb yr ysbytai fod yn eithriadol'

Staff ysbyty Image copyright Getty Images
Image caption Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu trefnu yn gyfystyr â chapasiti pwysau misoedd y gaeaf am 15 mlynedd

Mae ysbytai Cymru yn ymateb yn dda hyd yma i'r her coronafeirws, yn ôl prif weithredwr GIG Cymru, ond bydd angen i'r ymateb hwnnw fod yn "eithriadol" yn ystod yr wythnosau i ddod.

Dywed Dr Andrew Goodall fod y gwasanaeth yn gorfod cynllunio ar gyfer galw tebygol yr wythnosau nesaf - gall fod yn cyfateb i 15 mlynedd o bwysau ychwanegol misoedd y gaeaf.

Gan danlinellu pa mor "anghyffredin" yw'r amgylchiadau presennol, dywedodd na fyddai wedi meddwl y buasai'r gwasanaeth wedi gallu "dyblu nifer y gwelyau gofal critigol mewn ychydig ddyddiau".

Ychwanegodd fod system ymateb holl ysbytai Cymru yn "wyrdd, lefel un" ar hyn o bryd, sy'n arwydd o gapasiti a gwydnwch y safleoedd.

Yn ôl Dr Goodall, mae yna gyfanswm o 369 o welyau gofal critigol yng Nghymru erbyn hyn.

"Mae 50% ohonyn nhw yn wag, a thua un o bob tri, yn ôl pob tebyg, yn cael eu defnyddio gan gleifion coronafeirws," meddai.

"O ran gwelyau acute a chymunedol, mae tua 3,000 yn wag.

"O'r holl welyau sydd ar gael, mae 1,000, mwyaf tebyg, yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd wedi cael cadarnhad fod coronafeirws arnyn nhw, neu sydd dan amheuaeth o fod â'r feirws."

Image caption Mae canslo llawdriniaethau arferol wedi rhyddhau staff ar gyfer ailhyfforddiant, medd Dr Andrew Goodall

Ond does dim amheuaeth, medd Dr Goodall, fod angen i'r GIG fod yn barod i wynebu cynnydd mawr yn nifer yr achosion yn yr wythnosau nesaf.

Mae cynlluniau ar droed ym mhob rhan o Gymru i gynyddu'r ddarpariaeth gofal critigol "deirgwaith neu bedair gwaith, ac i wneud hynny ar sail mor ddiogel â phosib".

Mae canslo llawdriniaethau arferol i ryddhau gwelyau ac enghreifftiau eraill o "baratoi'n dda" wedi creu amser i ailhyfforddi staff i fod yn rhan o dimau gofal critigol, meddai.

Cafodd tua 3,000 o welyau ysbyty eu rhyddhau, sydd wedi "ein rhoi mewn sefyllfa gref".

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae canolfan yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn barod i brofi gweithwyr iechyd am goronafeirws

Dywed Dr Goodall nad oedd neb o fewn y sector wedi gweld ymateb "mor hollol eithriadol" a chyfeiriodd at y ffordd y mae ysbytai dros dro wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru.

I roi'r cyd-destun, dywedodd fod GIG Cymru fel arfer yn ceisio sicrhau 400-450 o welyau ychwanegol i ddelio â phwysau arferol tymor y gaeaf.

Ychwanegodd: "Rydym yn anelu at 7,000 o welyau ac mae'r ffigwr yn cynyddu gan fod gwahanol ardaloedd yn dal yn cadarnhau eu cynlluniau."

Nod yr ysbytai dros dro fydd lleihau'r pwysau ar y prif ysbytai, fel bod hwythau'n gallu canolbwyntio ar ofalu am gleifion Covid-19.

Byddai rhai yn gallu gofalu am gleifion sy'n gwella ar ôl cael coronafeirws, yn ogystal â chefnogi'r gwasanaeth iechyd ar lefel gymunedol.

"Mae yna swyddogaethau gwahanol yn achos rhai ohonyn nhw, gan ddibynnu ar eu maint," meddai.

"Er enghraifft, bydd Stadiwm Principality [Caerdydd] yn cynnwys elfen o asesu, ond bydd y mwyafrif yn ceisio cefnogi cleifion yn agosach i'w cartrefi."

Ymdrechion 'syfrdanol' staff

Ychwanegodd Dr Goodall fod sicrhau offer diogelwch personol ar gyfer staff iechyd yn flaenoriaeth.

Mae 8m o eitemau ychwanegol wedi eu dosbarthu, ac mae'r GIG yn edrych ar ffyrdd o wella'r drefn o sicrhau cyflenwadau cyson.

Ar hyn o bryd, mae 8-10% o staff y GIG yn absennol, ond mae rhai yn dychwelyd i'r gwaith.

"Mae'r amgylchiadau'n holl eithriadol," meddai Dr Goodall, gan ategu fod rhai teuluoedd yn delio ag "amgylchiadau gwirioneddol drasig".

"Yr hyn sy'n syfrdanol, ac yn fy ngwneud yn wirioneddol wylaidd, yw ymdrechion aruthrol staff i wneud y peth cywir, ymateb i anghenion y gymuned, trin a gofalu am gleifion yn nhermau iechyd a gofal cymdeithasol."

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Mae sylwadau Dr Andrew Goodall yn tanlinellu maint yr ymdrech, mewn ychydig wythnosau, i gynyddu capasiti yn y gwasnaeth iechyd yng Nghymru.

Pan fo'r pwysau ar eu gwaethaf ym misoedd y gaeaf, mae'r gwasanaeth iechyd fel arfer yn cynllunio i agor rhwng 400 a 500 o welyau ychwanegol.

Mae'r cynlluniau i agor 7,000 o welyau mewn ysbytai maes ledled y wlad dros yr wythnosau nesaf yn 15 gwaith hynny - ac felly'n gwbwl ddigynsail.

Yn ôl Dr Goodall, roedd y penderfyniad cynnar yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl, i ohirio llawdriniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw, hefyd yn bwysig.

Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gymryd y cam, a'r ddadl yw bod hynny wedi rhoi ychydig mwy o amser i'r gwasanaeth baratoi.

O ganlyniad mae tua 3,000 o welyau y gwasanaeth iechyd wedi cael eu rhyddhau.

Ond hefyd mae staff wedi cael cyfle i ailhyfforddi a datblygu'u sgiliau er mwyn cynorthwyo yn yr unedau fydd dan fwyaf o straen, fel unedau gofal dwys.

Ond does neb wir yn amau, er yr holl baratoadau, na fydd y cyfnod nesaf yn anodd tu hwnt.

Straeon perthnasol