Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

Kirk Butcher Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Kirk Butcher yn dad i dair o ferched

Mae teulu dyn 45 oed o Lyn Ebwy fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i "ddyn teulu oedd yn byw bywyd i'r eithaf".

Bu farw Kirk Butcher yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan a char ger Casnewydd am 03:30 fore Sul.

Mae dyn 23 oed o ardal Cwmbrân wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a pheidio stopio, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd teulu Mr Butcher mewn datganiad: "Roedd Kirk yn ŵr, tad, mab a brawd llawn hwyl.

"Roedd y dad i dair o ferched yr oedd wedi dotio arnynt. Bydd yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei adnabod."

Straeon perthnasol