Pandemig 1957: Y rhai sy'n cofio hyn o'r blaen

Gwenfair Griffith
BBC Cymru Fyw

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightGetty Images
image captionYstafell ddosbarth bron yn wag yn ystod pandemig 1957

Digynsail. Dyna sut roedd pawb yn disgrifio'r sefyllfa wrth i'r coronafeirws wthio'i grafangau'n ddyfnach i gymdeithas Cymru.

Ond wrth i 'nhad gamu i'r gegin am ginio dydd Sul - cyn i hynny ddod yn amhosib - dywedodd nad oedd hynny'n gwbl wir,

"Mae rhai ohonon ni yn cofio hyn yn digwydd o'r blaen," dywedodd.

'Dechreuodd y bechgyn ddiflannu, un ar ôl y llall'

Roedd Michael Jones yn fachgen pedair ar ddeg oed pan darodd pandemig arall yng Nghymru ym 1957.

"O'n i yn yr ysgol yn nosbarth pedwar, ac fe ddechreuodd y bechgyn ddiflannu, un ar ôl y llall."

image copyrightLluniau Archif
image captionHysbysebion papur newydd am yr 'Asian Flu'

Wedi'i fagu yn Sgiwen, roedd fy nhad yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y bechgyn yng Nghastell Nedd,

"Erbyn y diwedd, o'n i lawr i rhyw 12 mas o ddosbarth o rhyw 30. O'dd cyn lleied ohonon ni 'na nes bod yr athrawon wedi penderfynu i beidio'n dysgu ni.

"O'n ni'n cael gorchmynion i ddod â gemau mewn, gemau bwrdd fel chess. Dyna beth o'n ni'n 'neud. Dod mewn i'r ysgol a chwarae chess.

image copyrightFred Morley
image captionPlentyn yn garglo i geisio osgoi ffliw 1957

"O'n i'n meddwl mod i'n mynd i'w osgoi e. Ond wedyn, reit tua'r diwedd, pan o'dd y rhifau reit lawr i'r gwaelod, dyma fi'n cael y blwmin peth ac o'n i bant o'r ysgol am 10 diwrnod."

Erbyn iddo fynd nôl i'r ysgol, roedd y bechgyn eraill wedi gwella, ac yntau wedi colli llawer o wersi.

"Pan ddes i nôl, fe ffindes i bod y rhan fwyaf o'r bechgyn wedi dod nôl. O'n nhw wedi'i gael e a wedi dod drosto fe.

"O'n i'n gorfod benthyg llyfr rhywun arall a copïo beth o'n i wedi colli. Do'n i ddim yn hapus!"

Roedd y bechgyn wedi bod yn lwcus.

Asian Flu oedd yr haint yn cael ei alw bryd hynny. H2N2.

Pandemig yn lladd dwy filiwn dros y byd

Roedd wedi dod i'r amlwg yn Singapore i ddechrau ym 1957. Fe ledodd i Hong Kong erbyn mis Ebrill, America erbyn yr haf, a dyna pryd cyrhaeddodd Brydain hefyd - ac roedd ar ei waethaf erbyn mis Hydref.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), bu farw tua dwy filiwn o bobl dros y byd a chafodd tua naw miliwn eu heintio erbyn 1958. Tua 33,000 fu farw ym Mhrydain.

Yn wahanol i bandemig COVID-19, sydd fel pe bai'n fwy peryglus i'r to hŷn yn ôl adroddiadau, roedd rhai ifanc hefyd yn dioddef yn ofnadwy ym 1957/58.

image copyrightBettmann
image captionErbyn 1958, roedd brechlyn yn erbyn H2N2, ac Elvis Presley yn un o'r rhai gafodd ei frechu

Y symptomau oedd coesau sigledig, llwnc tost, trwyn yn llifo, peswch, poenau dros y corff, pen tost a thwymyn.

Roedd sawl bachgen ifanc yn dioddef o waedlif hefyd yn ôl y British Journal of Medical Practice.

Bechgyn oed fy nhad ar y pryd.

'O'n i mor dost o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd 'mlaen!'

Un arall gafodd ei tharo'n wael oedd Marilyn Jeffreys oedd yn 19 oed ac yn byw yn Seven Sisters.

"Fi'n cofio fe. O! O'dd e'n boenus!" meddai.

Roedd hi'n ysgrifenyddes i gwmni cyfreithwyr yng Nghastell Nedd ar y pryd. "O'n i byth yn colli gwaith," meddai. "A beth rwy'n cofio yw o'n i'n gorwedd ar bren am ryw reswm.

"O'n i mor dost do'n i ddim yn gwbod beth oedd yn mynd 'mlaen!"

image copyrightDaily Herald Archive
image captionYsgrifenyddes yn gwisgo mwgwd yn ystod pandemig 1957

"Fit go down with flu" oedd y pennawd ym mhapur Guardian Manceinion.

Roedd yn salwch difrifol yn ôl y papur, gyda 35% o feddygon teulu Prydain wedi'u heintio, a £10,000,000 wedi'i wario ar fudd-dâl salwch.

Ond doedd y gymdeithas gyfan ddim wedi dod i stop fel mae e i ni heddiw ac nid dyma'r pandemig gwaethaf i daro yn ystod yr 20fed ganrif.

Bryd hynny, byddai sawl un o'r genhedlaeth hŷn wedi cofio'r ffliw darodd ym 1918 gafodd ei alw'n ffliw Sbaenaidd.

Fe laddodd yr haint hwnnw tua 500 miliwn o bobl dros y byd.

Sut mae pandemig yn trawsnewid cymdeithas

Roedd Dr Elin Jones ond yn rhyw ddeuddeg oed pan darodd y pandemig gymoedd y de ym 1957, ond prin ei bod hi'n ei gofio. Mae'n credu i'w theulu ei hynysu rhag codi gorfod o ofn arni am y sefyllfa.

Ond fel hanesydd, mae'n gwybod faint o effaith mae pandemigau'r gorffennol wedi'i gael ar gymdeithas.

"Yr un mwyaf nodedig yw'r Pla Du. Dechreuodd hwnna yn China hefyd. Bu farw cymaint o bobl tlawd nes rhoi diwedd ar y drefn ffiwdal."

Cafodd y cyfnod gymaint o effaith nes ei nodi mewn barddoniaeth Gymraeg, fel mewn cerddi gan Ieuan Gethin o Forgannwg a gollodd nifer o'i blant i'r haint.

Mae'n llawer mwy gobeithiol am allu'r oes hon i oresgyn pla na chenedlaethau'r gorffennol.

"Ry'n ni gymaint ymhellach 'mlaen nawr. Ry'n ni'n gwybod beth yw e, mae ventilators 'da ni, gallwn ni cael brechlyn wedi'i wneud. Bydd 'na ddyfodol i ni.

"Yr unig beth yw, bydd y to hŷn yn ein plith, unrhyw un sydd heb feistroli technoleg - pan ddewn ni mas o hyn, byddan nhw ymhell, bell ar ei hol hi."

Rhestr Dr Elin Jones o'r plaon gwaethaf i daro Cymru

  • Y Fad Felen OC 549 - Bu farw Maelgwn Gwynedd wedi iddo edrych drwy dwll clo eglwys Llan Rhos a gweld y pla yn rhodio'r eglwys. Yn ôl yr hanesydd John Davies, cafodd y pla effaith ar ymosodiadau'r Sacsoniaid ar Brydain, wrth ddistrywio'r 'hyn oedd yn weddill o'r drefn Rufeinig.'
  • Y Pla Du 1348-50 - Daeth i Gymru erbyn 1349 gan ladd tua 30% o'r boblogaeth. Canodd Ieuan Gethin o Flaenau Morgannwg farwnad i'w blant a fu farw o'r pla. Tlodion ddioddefodd fwyaf, a distrywiodd yr hen ddull Cymreig o etifeddu'r tir a'r drefn ffiwdal dros Ewrop gyfan.
  • Pla Llundain 1665 - Y tro olaf i'r Pla Du daro. Bu farw 68,000 ym mhrifddinas Lloegr. Ond bu farw llawer o'r pla yng Nghymru hefyd, yn ardal Machynlleth, Llanidloes, Llanandras a'r Drenewydd. Tarodd Hwlffordd ym 1651-2 am y tro olaf.
  • Plaon eraill - Y Frech Wen, Teiffws, Geri marwol, y Pla Gwyn.

Pynciau Cysylltiedig