I bwy hoffech CHI ddiolch?
- Cyhoeddwyd

Yn gofalu am gleifion, yn gyrru nwyddau, yn casglu sbwriel, yn danfon negeseuon neu'n gweithio mewn siop - mae yna griwiau o bobl ledled Cymru sy'n delio'n ddiflino gyda'r pandemig ar hyn o bryd.
Mae rhai yn ein helpu ni yn rhinwedd eu swydd; rhai wedi mynd yr ail filltir ac eraill wedi bod wrth law i wneud cymwynas fach sy'n golygu llawer.
A dyna pam ry'n ni'n gofyn am eich help chi i greu tudalen arbennig fydd yn dathlu'r cymeriadau lleol a'r ysbryd cymunedol sy'n ffynnu ar draws Cymru yn wyneb hunllef coronafeirws.
Dyma gyfle i chi dalu teyrnged i'r rhai hynny sydd wedi bod o gymorth i ni - ym mha bynnag ffordd - yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon neges at cymrufyw@bbc.co.uk yn nodi i bwy hoffech chi ddiolch a pham. Cofiwch atodi llun o'r person hefyd, os yn bosib.
Gall fod yn aelod o'ch teulu, yn ffrind, yn gymydog yn gyd-weithiwr neu'n ddieithryn llwyr.
Bydd Cymru Fyw yn casglu'r diolchiadau yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn cyhoeddi oriel arbennig i ddathlu'n cymunedau dros gyfnod y Pasg.
Anfonwch eich e-byst erbyn 12pm ar 9 Ebrill. Diolch am gyfrannu.
Eisiau gwirfoddoli neu angen help?
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnig cymorth i'r rheini sydd ei angen. Os ydych mewn angen neu yn hunan-ynysu, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y clwb agosaf sy'n cynnig cymorth fan hyn.
Mae nifer o gynghorau sir hefyd yn darparu gwybodaeth am sut allwch chi wirfoddoli neu ddod o hyd i gymorth yn ystod yr argyfwng.
- Cyngor Sir a Dinas Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Cyngor Sir Gwynedd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Sir Ynys Môn
Hefyd o ddiddordeb: