Ffermwyr yn poeni am effaith mwy o gerddwyr ar eu tir

llwybr

Mae ffermwyr yn poeni y bydd eu teuluoedd yn cael eu heintio â coronafeirws wrth i nifer cynyddol o bobl gerdded ar eu tir.

Mae'r canllawiau swyddogol yn dweud bod hawl gan bobl gerdded neu redeg yn agos i'w cartref unwaith y dydd.

Ond mae rhai ffermwyr yn dweud y dylid cau neu newid cyfeiriad rhai llwybrau oherwydd bod yna beryg y gallai haint coronafeirws ledu drwy i bobl gyffwrdd â chlwydi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi cau y llwybrau prysuraf, yn eu plith llwybrau poblogaidd Eryri a Bannau Brycheiniog, gan iddyn nhw ddenu torfeydd pan ddaeth nifer o gyfyngiadau i rym.

'Neb i edrych ar ôl yr anifeiliaid'

Mae Jacob Anthony, sy'n ffermio ger Penybont-ar-Ogwr, yn dweud ei fod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cerddwyr sy'n ymlwybro ar ei dir yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae'n poeni y bydd y cerddwyr yn ddiarwybod yn lledu'r feirws ac y gallai hynny gael effaith ar ei deulu a'r anifeiliaid yn ystod tymor wyna.

"Mae fy nhad-cu yn 87 oed, mae fy chwaer yn cael asthma ac mae fy mam yn fregus - 'dyn ni ddim am gael y feirws," meddai.

"Mae 'na motorbikes, teuluoedd â phlant ifanc a phobl â chaniau cwrw wedi bod ar ein tir - mae'n rhaid i ffermwyr barhau â'i gwaith, y tir yw ein swyddfa.

"Os byddwn ni'n sâl - fydd neb i edrych ar ôl yr anifeiliaid."

Image copyright Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Image caption Maes parcio Pen-y-Pas ganol Mawrth wedi i lywodraethau San Steffan a Chymru gyflwyno nifer o gyfyngiadau

Mae Gerallt Hughes, sy'n ffermio ar Ynys Môn, wedi annog pobl ar y cyfryngau cymdeithasol i beidio cerdded ar dir ei fferm.

"Mae'r giatiau ar y llwybrau yn cael eu defnyddio gen i a fy nhad bob dydd a 'dan ni'n ofni y bydd yr haint yn cael ei adael ar y metel," meddai.

"Does gen i ddim hawl stopio pobl rhag defnyddio llwybrau cyhoeddus ond a wnewch chi plîs ystyried ein dymuniad."

Hawl cau llwybrau

Mae NFU Cymru yn dweud bod "cynnydd sylweddol" wedi bod yn nifer y bobl sy'n cerdded ar hyd llwybrau cyhoeddus, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Dywedodd Hedd Pugh, cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, ei fod wedi dod ar draws cerddwr o Amwythig ar ei dir yn Ninas Mawddwy ac nad oedd yn ymwybodol mai yn ymyl ei gartref yr oedd i fod i ymarfer.

Image caption Mae Hedd Pugh yn galw am ddargyfeirio llwybrau sy'n mynd trwy fuarth ffermydd

"Y pryder sydd gennym ni yw bod lot o lwybrau yn mynd trwy fuarth ffermydd," meddai.

"Rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddai'n bosib dargyfeirio'r rheiny fel nad yw'r llwybrau yn mynd trwy fuarth y fferm - gan fod hwnnw yn le gwaith a bod y ffermwyr ar hyd y lle yn y buarth rhwng nawr ac amser wyna."

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno rheoliadau sydd wedi gorfodi parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau rhai llwybrau cerdded.

"Mae'r rheoliadau hefyd yn rhoi'r hawl i gau llwybrau a gredid o fod yn lledaenu'r haint," meddai llefarydd.

"Y cyrff yma sydd yn gwybod orau pa lwybrau y dylid fod yn eu cau."

Straeon perthnasol