Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori ar yr A55

Published
image copyrightGoogle
image captionCafodd y dyn ei weld yn cerdded ar hyd yr A55 ger cyffordd 12

Mae dyn wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan lori tra'n cerdded ar hyd yr A55 ger Bangor yn oriau mân y bore ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn galwad am 01:00 am ddyn oedd yn cerdded ar hyd yr A55 ger cyffordd 12.

Ond yn ôl y llu erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y dyn wedi dioddef anafiadau difrifol wedi iddo gael ei daro gan lori.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ond bu farw'n fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

Dyn o Iwerddon

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod y dyn 44 oed yn dod o Iwerddon, a'u bod yn gweithio gyda'r Garda i'w adnabod yn ffurfiol.

Ychwanegon nhw fod y dyn wedi teithio i Gaergybi ar fferi, ac yna ei fod wedi cael ei yrru gan rywun i Fangor.

Mae'r llu yn apelio ar y rheiny wnaeth ei gymryd i Fangor i gysylltu â'r llu, neu unrhyw un welodd y dyn yn cerdded ar hyd yr A55 yn oriau mân y bore ddydd Mercher.

Pynciau Cysylltiedig