Menter yn cynhyrchu offer i ddiogelu gweithwyr iechyd
Llyr Edwards
Gohebydd BBC Cymru
- Published
Mae ysgolion, cwmn茂au preifat a Phrifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio i gynhyrchu offer i ddiogelu wynebau gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd rhag coronafeirws.
Parc Gwyddoniaeth Menai yng Ngaerwen ar Ynys M么n sy'n cydlynu'r cynllun.
Drwy ddefnyddio argraffwyr 3D, y gobaith ydy cynhyrchu cannoedd o'r visors, a hynny o gynlluniau o Sbaen a Sweden sydd wedi cael eu lawrlwytho dros y we.
Bydd yr offer yn cael ei ddosbarthu i staff y gwasanaeth iechyd o ddydd Gwener ymlaen.
'Mawr eu hangen'
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr-gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai: "Mae nifer o bobl o Wynedd, M么n a Chonwy yn rhan o'r prosiect yma, a dros yr wythnos ddiwetha' maen nhw wedi cynhyrchu cannoedd o visors - sydd mawr eu hangen ar y gwasanaeth iechyd."
- YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Un sy'n rhan o'r cynllun ydy Ilan Davies o'r Bala, sy'n gweithio i gwmni Creo Medical, sydd wedi ei leoli yng Nghaerfaddon a Chas-gwent.
Mae wedi symud yn 么l i'r Bala dros gyfnod yr argyfwng, gan sefydlu gweithdy i gynhyrchu'r offer diogelwch ar safle ei hen ysgol - Ysgol y Berwyn.
Mae Creo Medical wedi cyfrannu nifer o argraffwyr 3D i gynhyrchu'r offer.
Dywedodd Ilan: "Efo'r printars mi allwn ni gynhyrchu 60 o visors yr wythnos.
"Mi fydd y visors yn cael eu dosbarth i weithwyr ar y rheng flaen yn lleol i ddechrau.
"Dwi eisiau helpu'r gymuned. Mae pethau'n dywyll ar y funud a dwi eisiau helpu."
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Mawrth 2020
- Published
- 31 Mawrth 2020
- Published
- 31 Mawrth 2020